Back
Arweinwyr dinesig yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost mewn seremoni ddwys

26.1.24
Daeth arweinwyr crefyddol a gwleidyddol ynghyd yng Nghaerdydd y bore yma i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost, y coffâd rhyngwladol i gofio'r miliynau a fu farw yn yr Holocost ac mewn hil-laddiadau dilynol ledled y byd. 

Y thema eleni yw 'Bregusrwydd Rhyddid'.   Daw 30 mlynedd ers hil-laddiad Rwanda lle lladdwyd miliwn o Dwtsïaid a Hutus modern. Roedd y gwrthdaro presennol yn y Dwyrain Canol ac Wcráin, a'r miloedd o fywydau a gollwyd, hefyd yn flaenllaw ym meddyliau'r rheini a oedd yn bresennol.

Mewn gwasanaeth dwys yn y Deml Heddwch, yn Cathays, ymunodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Bablin Molik a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, â'r Parchedig Ganon Stewart Lisk, Caplan Anrhydeddus Cyngor Caerdydd, i anrhydeddu'r meirw a goroeswyr pob hil-laddiad.

Meddai’r Cynghorydd Thomas, a ddarllenodd ddarn o Eseia yn y seremoni:  "Eleni daethom at ein gilydd wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers y pandemig i goffáu'r diwrnod arbennig hwn. Mae'n bwysig ein bod yn nodi'r achlysur blynyddol hwn a'r garreg filltir ingol hon ac i fyfyrio ar y ffordd y gallwn ddysgu o'r digwyddiadau ofnadwy hyn."

Dywedodd yr Arglwydd Faer, Y Gwir Anrhydeddus y Cynghorydd Bablin Molik, mewn datganiad o ymrwymiad:  "Rydym yn cydnabod bod dynoliaeth yn dal wedi’i chreithio gan y gred bod hil neu grefydd neu anabledd neu rywioldeb yn gwneud bywydau rhai pobl yn werth llai nag eraill.  

"Mae hil-laddiad, gwrthsemitiaeth, hiliaeth, senoffobia a gwahaniaethu yn parhau.   Mae gennym gyfrifoldeb ar y cyd i ymladd y drygioni hwn.   Rydym yn addo cryfhau ein hymdrechion i hyrwyddo addysg ac ymchwil am yr Holocost a hil-laddiadau eraill.  Byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod gwersi am ddigwyddiadau o'r fath yn cael eu dysgu'n llawn."

Dywedodd Mark Drakeford:  "Mae'r thema eleni yn atgof pwerus o ba mor fregus yw rhyddid.   Wrth i ni ddod at ein gilydd ledled Cymru a'r DU, rhaid i ni beidio byth â chymryd ein rhyddid ein hunain yn ganiataol a gwneud yr hyn a allwn i gryfhau rhyddid ledled y byd. 

"Fel unigolion, cymunedau a ffrindiau, rydym yn sefyll yn erbyn pob math o gasineb ac yn dangos undod â phawb sy'n parhau i ddioddef erledigaeth."

Ymhlith eraill a ymunodd â'r arweinwyr i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost roedd goroeswr yr Holocost, John Hadju MBE, Isam Agieb, goroeswr yr hil-laddiad yn Darfur, Gorllewin Swdan, Isaac Blake, aelod o'r Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydol Romani, ynghyd â chynrychiolwyr Cyngor Cynrychioli Iddewon De Cymru, Stonewall Cymru, Cyngor Ffoaduriaid Cymru ac Anabledd Cymru. 

  • Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn cael ei goffáu bob blwyddyn ar 27 Ionawr, y diwrnod y rhyddhawyd Gwersyll Crynhoi Auschwitz ym 1945.  I nodi'r achlysur, bydd Castell Caerdydd yn cael ei oleuo’n borffor ac anogir trigolion Caerdydd i gynnau cannwyll yn eu ffenestri am 4pm yfory.  I weld seremoni Diwrnod Cenedlaethol Cofio'r Holocost ar-lein, am 7.30pm yfory, dilynwch y ddolen hon.