Back
Cyhoeddi cadeirydd newydd i archwilio potensial ynni'r llanw yn Aber Afon Hafren

25.1.24

  • Mae arloeswr blaenllaw yn niwydiant ynni gwynt y byd wedi'i benodi i arwain ymdrech drawsffiniol i archwilio potensial ynni cynaliadwy Aber Afon Hafren.
  • Mae gan Aber Afon Hafren un o'r amrediadau llanw uchaf yn y byd ac amcangyfrifir bod ganddi'r potensial i ddarparu hyd at 7% o gyfanswm ynni'r DU.
  • Mae lansiad swyddogol a chyfarfod cyntaf y comisiwn wedi'u trefnu ar gyfer y mis nesaf.

Mae Dr Andrew Garrad CBE, arloeswr blaenllaw yn y diwydiant ynni gwynt modern, wedi'i benodi'n Gadeirydd comisiwn annibynnol newydd Porth y Gorllewin i archwilio potensial Aber Afon Hafren i greu ynni cynaliadwy.

Gydag un o'r ystodau llanw uchaf yn y byd, mae Aber Afon Hafren wedi cael ei ystyried ers amser fel ffynhonnell bosibl o ynni llanw. Bydd y comisiwn newydd hwn yn dwyn ynghyd ystod o arbenigwyr i benderfynu a oes opsiwn hyfyw bellach ar gyfer defnyddio Afon Hafren i greu ynni cynaliadwy i'r DU.

Mae Dr Garrad yn dod â phrofiad sylweddol o gyflwyno prosiectau ynni adnewyddadwy arloesol ar raddfa fawr i'r comisiwn - gyda gwybodaeth am yr hyn sydd ei angen er mwyn i'r rhain fod yn llwyddiannus. 

Ym 1984, cyd-sefydlodd y cwmni ymgynghori Garrad Hassan a dyfodd i fod yr ymgynghoriaeth ynni adnewyddadwy annibynnol fwyaf y byd, yn cyflogi 1,000 o bobl mewn 29 o wledydd pan ymddeolodd yn 2015. Cyn hynny bu'n Llywydd Cymdeithas Ynni Gwynt Ewrop, Cadeirydd Cymdeithas Ynni Gwynt Prydain (Renewables UK bellach), a rhoddwyd CBE iddo yn 2017 am ei wasanaethau i ynni adnewyddadwy.

Meddai Dr Garrad: "Cefais fy magu ar lannau Afon Hafren yng Nghaerwrangon.   Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i gadeirio'r comisiwn annibynnol hwn i archwilio'r potensial i harneisio ynni cynaliadwy Aber Afon Hafren.  Gyda newid hinsawdd a'r angen am ddiogelwch ynni yn uchel ar yr agenda, mae gennym gyfle go iawn i ailedrych ar y mater hwn i weld a oes atebion a all gynhyrchu trydan a diogelu'r tirnod amgylcheddol pwysig hwn.

"Gyda gwaith yn y gorffennol yn dangos potensial i gwrdd â hyd at 7% o gyfanswm y galw am drydan yn y DU, mae'r cyfle'n un enfawr.  Rwy'n edrych ymlaen at lansio'r comisiwn hwn fis nesaf."

Lansiwyd y comisiwn gan Borth y Gorllewin, y Bartneriaeth Draws-Ranbarthol ar gyfer De Cymru a Gorllewin Lloegr, sy'n dwyn ynghyd fusnesau, awdurdodau lleol, prifysgolion a llywodraethau o ddwy ochr Afon Hafren.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd ac Aelod o Fwrdd Porth y Gorllewin:  "Mae'n wych gallu cyhoeddi mai Andrew yw Cadeirydd y comisiwn pwysig hwn.  Mae'r gwaith hwn eisoes wedi cael cefnogaeth gan Lywodraethau Cymru a'r DU gyda'r ddwy yn cydnabod mai dyma'r amser iawn i ailedrych ar ynni llanw Afon Hafren.

"Mae gennym gyfle enfawr i fod yn arweinwyr byd yn y maes hwn, gan sbarduno buddsoddiad wrth ddiogelu ein cyflenwad ynni a datgarboneiddio ein heconomïau hefyd. Rwy'n edrych ymlaen at weld gwaith y comisiwn yn dechrau yn ddiweddarach eleni."

Cyhoeddodd Porth y Gorllewin y bwriad i lansio comisiwn yn 2022 a groesawyd gan y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, a Vaughan Gething AoS, Gweinidog yr Economi Cymru. Ers hynny, mae gwaith wedi bod yn cael ei wneud i adeiladu'r sail dystiolaeth sylfaenol a sefydlu grŵp o gomisiynwyr a all arwain y gwaith hwn. Bydd yn cael ei lansio'n swyddogol fis nesaf gyda chyfarfod cyntaf y comisiynwyr a chyhoeddi amserlen ar gyfer gwneud argymhellion.

Bydd gan y comisiwn gylch gwaith agored i archwilio ystod o opsiynau gan gynnwys archwilio technoleg bresennol, opsiynau ariannu cyfredol, sut y gellir diogelu'r amgylchedd, a llawer o rai eraill i benderfynu ar eu hargymhelliad terfynol.