Back
Rhaglen ôl-osod arbedion ynni i arbed arian a lleihau allyriadau carbon

22.1.24

Cytunwyd ar gynlluniau i 23 i ddechrau o adeiladau Cyngor Caerdydd elwa o raglen ôl-osod arbedion ynni a fyddai'n arbed arian ac yn lleihau allyriadau carbon wrth i'r awdurdod lleol barhau â'i waith Caerdydd Un Blaned i ddod yn garbon niwtral.

Mae trydan gwyrdd, lleol eisoes yn darparu'r pŵer ar gyfer adeiladau'r cyngor lle bynnag y bo modd, ond mae'r 22 adeilad ysgol a nodwyd dros dro ar gyfer rownd gyntaf y rhaglen ochr yn ochr â Chanolfan Hamdden Channel View, yn dal i gynhyrchu 1595.7 tunnell o CO2e bob blwyddyn, ar gost o fwy nag £1.1 miliwn ar gyfer 7.7miliwn kWh o ynni.

Bydd y rhaglen Re:Fit sy'n cael ei rheoli a'i rhedeg trwy Local Partnerships (LP), menter ar y cyd rhwng y Gymdeithas Llywodraeth Leol, Trysorlys EF a Llywodraeth Cymru, yn gwarantu arbedion ynni, carbon a chost o 15% o leiaf.

Y bwriad yw i'r gwaith gael ei ariannu gan 'Raglen Ariannu Cymru', a reolir gan Salix, sy'n caniatáu i gyrff sector cyhoeddus wneud cais am fenthyciadau di-log hyblyg ar gyfer prosiectau arbed ynni.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway:  "Mae'r rhaglen Re:Fit yn cynnig cyfle i ni leihau costau, arbed ynni a pharhau â'r gwaith da sydd wedi cyfrannu at ostyngiad o 12.3% mewn allyriadau carbon o ystâd y Cyngor ers lansio ein hymateb Caerdydd Un Blaned i'r argyfwng hinsawdd."

Cymeradwywyd y cynlluniau mewn cyfarfod Cabinet ddydd Iau 18 Ionawr a bydd darparwr gwasanaeth Re:Fit nawr yn cael ei benodi am gyfnod o bedair blynedd, gyda mesurau ôl-osod yn cael eu cyflwyno yn y grŵp cyntaf o adeiladau yn 2024/25. Yna bydd grwpiau canlynol yn dilyn dros y pedair blynedd nesaf.

Bydd haenau pellach o adeiladau a fyddai'n elwa o fuddsoddiad mewn mesurau ôl-osod yn cael eu nodi i'w cyflawni yn ystod gweddill y contract, er mwyn helpu i gyflawni'r targed uchelgeisiol a nodir yn strategaeth Caerdydd Un Blaned y Cyngor, sef gostyngiad o 60% mewn allyriadau carbon o ystâd weithredol ac ysgolion y Cyngor erbyn 2030.

Mae fersiwn flaenorol o'r cynllun Re:Fit eisoes wedi arwain at 19 o ysgolion yn elwa o fwy na £3 miliwn o fuddsoddiad mewn amrywiaeth o fesurau cadwraeth ynni, gan gynnwys ffotofoltäig solar, systemau rheoli adeiladau, synwyryddion is-goch goddefol dŵr poeth uniongyrchol (PIRS), rheolaethau peiriant oergell-rewgell, uwchraddio goleuadau LED, siacedi falfiau a boeler te PIRS.

Mae'r buddsoddiad hwn wedi arwain at:

  • Arbedion ynni o ryw 3.87 miliwn kWh y flwyddyn.
  • Arbedion carbon o ryw 1,123 tunnell / CO2y flwyddyn.
  • Arbedion cost o ryw £328,000 y flwyddyn.

Mae copi o'r adroddiad Cabinet a gwe-ddarllediad o'r cyfarfod lle trafodwyd hyn ar gael yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=8213&LLL=1