Back
Gofyn y cyhoedd am farn ar barcio newydd i Gaerdydd


 

20/1/24
Mae ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos ar gynllun parcio newydd ar y stryd i Gaerdydd wedi'i gymeradwyo a bydd yn cael ei lansio yn gynnar eleni, yn dilyn cyfarfod Cabinet Cyngor Caerdydd ddydd Iau, Ionawr 18fed.

Gallai'r cynigion - i gyflwyno ‘parthau parcio' o fewn Ardaloedd Rheoli Parcio - roi cyfle gwell i breswylwyr barcio ar eu stryd, neu ar ffyrdd cyfagos yn agos at eu cartref - tra'n lleihau'r cyfleoedd i gymudwyr barcio.

Yn ogystal â chynyddu nifer y lleoedd parcio sydd ar gael i breswylwyr, deiliaid bathodynnau glas, beiciau a chlybiau ceir, gallai busnesau lleol elwa o'r cynllun hefyd.

O dan y cynllun arfaethedig newydd, gellid rhannu'r holl fannau parcio ar y stryd o fewn yr ardaloedd i'r de o'r A48, i'r gorllewin o Afon Rhymni, i'r gogledd o Fae Caerdydd ac i'r dwyrain o Afon Elái yn bedair ardal rheoli parcio benodol gyda chyfyngiadau gwahanol ar waith ar gyfer pob un.

Mae'r cynigion presennol yn disgrifio'r rhain fel Canol y Ddinas, Bae Caerdydd .Ardaloedd Rheoli Parcio Mewnol ac Allanol. Bydd pob ardal yn cynnwys nifer o barthau parcio.

Pe cytunir arno yn dilyn ymgynghoriad, byddai'r cynllun yn dod â Chaerdydd yn unol â'r rhan fwyaf o ddinasoedd mawr y DU. Mae disgwyl i ymgynghoriad 6 wythnos ddechrau yn gynnar eleni.

Mae'r Ardaloedd Rheoli Parcio newydd arfaethedig fel a ganlyn:

ArdalRheoli Parcio Bae Caerdydd sef Butetown, i'r de o Stryd Tyndall, i'r gorllewin o Glanfa'r Iwerydd ac i'r dwyrain o Afon Taf. Bydd pob lle parcio ar y stryd yn Ardal Rheoli Parcio Bae Caerdydd yn cael ei reoli rhwng 8am ac 8pm a dim ond trwyddedau preswyl, ymwelwyr, cymunedol, a gofalwyr y gellir gwneud cais amdanynt. Y tu allan i safle tacsis a danfoniadau, bydd yr holl lefydd parcio ar y stryd yn cael eu rheoli drwy gyfyngiadau talu ac arddangos rhwng 8am ac 8pm.

Ardal RheoliParcio Canol y Ddinas sef Cathays i'r gogledd o Sgwâr Callaghan, i'r dwyrain o Afon Taf, i'r de o Barc Cathays ac i'r gorllewin o'r rheilffordd. Bydd yr holl lefydd parcio ar y stryd yn cael eu reoli 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos drwy'r flwyddyn ac ni chaniateir unrhyw aros o gwbl. Dim ond yn ystod oriau penodol y caniateir llwytho er mwyn sicrhau y gall busnesau ailstocio.  Ni all unrhyw un wneud cais am drwydded yn yr Ardal Rheoli Parcio hon. Nid effeithir ar safleoedd tacsis, mannau llwytho na mannau parcio i bobl anabl.

Bydd yr Ardal RheoliParcio Fewnol yn cynnwys ardaloedd preswyl wrth ymyl Canol y Ddinas. Bydd pob lle parcio ar y stryd yn cael ei reoli rhwng 8am a 10pm a dim ond trwyddedau preswyl, ymwelwyr, cymunedol a gofalwyr y gellir gwneud cais amdanynt. Y tu allan i safleoedd tacsis a danfoniadau, bydd yr holl lefydd parcio ar y stryd yn cael eu rheoli drwy gyfyngiadau talu ac arddangos rhwng 8am a 10pm.

Bydd yr Ardal RheoliParcio Allanol yn cwmpasu'r ardaloedd preswyl allanol o amgylch yr Ardaloedd Rheoli Parcio Mewnol a Bae Caerdydd. Bydd yr holl barcio ar y stryd yn cael ei reoli rhwng 8am a 6pm a dim ond trwyddedau preswyl, ymwelwyr, busnes, gofalwyr, ac ysgolion y gellir gwneud cais amdanynt. Y tu allan i safleoedd tacsis a danfoniadau, bydd yr holl lefydd parcio ar y stryd yn cael eu rheoli drwy gyfyngiadau talu ac arddangos rhwng 8am a 6pm.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath:  "Mae parcio ar draws y ddinas wedi dod yn broblem gynyddol i lawer o drigolion sy'n ei chael hi'n anoddach ac anoddach parcio y tu allan neu'n agos i'w cartrefi eu hunain oherwydd swm mawr o draffig cymudo.

"Mae'r gallu i gymudwyr ddod i barcio yn y ddinas am ddim yn arwain at lygredd aer a thagfeydd, gyda'n trigolion ni yn dioddef.

"Heb os, os ydym am lanhau aer y ddinas a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yna mae angen i ni leihau ein dibyniaeth ar y car preifat ac annog pobl i ystyried trafnidiaeth gyhoeddus.

"Credwn y bydd newid y ffordd rydym yn galluogi pobl i barcio ar draws y ddinas, gan wneud y system yn haws ei deall fel bod gyrwyr yn gwybod ble y gallant barcio neu beidio, yn helpu i leddfu'r problemau hyn a bydd yn annog mwy o bobl i ystyried defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus sy'n well i'r amgylchedd.

"Wrth i ni barhau i wella llwybrau beicio a cherdded, mae'r gystadleuaeth am le ar rwydwaith ffyrdd Caerdydd wedi cynyddu, a gan ei bod yn amhosib creu mwy o lefydd parcio ar y stryd, oherwydd cyfyngiadau ffisegol, mae angen gwneud newidiadau. Felly, yr hyn rydym yn ei gynnig yma yw ailwampio'r polisi parcio ar y stryd yn llwyr trwy greu 'dull parthau' o fewn Ardaloedd Rheoli Parcio fel y gallwn reoli a gorfodi'r mannau parcio sydd ar gael yn well fel na chaiff y system ei chamddefnyddio.

"Bydd y cyngor nawr yn datblygu rhaglen i ymgynghori'n lleol i ddeall barn y cyhoedd ar symud ardaloedd i system parthau newydd drwy'r broses Gorchmynion Rheoli Traffig."

Er nad yw cael unrhyw drwydded parcio yn gwarantu lle parcio, mae cynigion yn cael eu cyflwyno i ddiwygio telerau ac amodau'r trwyddedau i ryddhau mwy o le i sicrhau na ellir camddefnyddio unrhyw system newydd. 

Mae'r cynllun parthau parcio newydd yn cynnig newid y telerau ac amodau a'r mathau o drwyddedau parcio sydd ar gael ar hyn o bryd.

Os cânt eu gweithredu, bydd y cyngor yn egluro'n glir sut y gall pobl wneud cais am y trwyddedau newydd fel bod cyfnod pontio di-dor rhwng yr hen system a'r un newydd.  Os os cymeradwyir, bydd y trwyddedau canlynol yn cael eu cyflwyno bryd hynny:

Trwydded Preswylydd: Byddai'n rhaid i bob preswylydd sydd â thrwydded ar hyn o bryd ailymgeisio am drwydded newydd ar gyfer parthau sy'n benodol i'r ffordd/ardal lle maen nhw'n byw. Bydd hyn yn rhoi gwell cyfle i breswylwyr barcio ar eu stryd, neu ar ffordd arall sy'n rhan o'u hardal breswyl. Bydd yn rhaid i bawb sydd am barcio beic modur ar y stryd hefyd wneud cais am drwydded o dan y system newydd. 

Trwydded Ymwelwyr: O ran parcio i ymwelwyr, dim ond am 150 diwrnod y flwyddyn y gall pob cartref wneud cais. Trwy roi'r cyfyngiad hwn ar waith, mae'r system yn llai agored i gael ei chamddefnyddio, gan sicrhau bod y broses o ddyrannu parcio i ymwelwyr yn cael ei rannu rhwng cartrefi mewn ardal breswyl benodol.

Trwydded Gymunedol: Gellir gwneud cais am drwyddedau parcio-ar-y-stryd cymunedol gan rai addoldai neu grwpiau mynediad anabledd sydd wedi'u heithrio dan ddeddfwriaeth benodol.

Trwydded Busnes: Dim ond busnesau sydd ag eiddo yn yr Ardal Rheoli Parcio Allanol all wneud cais am drwydded parcio-ar-y-stryd, a fydd ond yn caniatáu i berchennog busnes barcio cerbydau sydd eu hangen ar gyfer rhedeg y busnes o ddydd-i-ddydd.  Felly, nid yw'r drwydded hon ar gyfer cymudwyr neu staff.

Trwydded Gofalwr: Mae dau fath o drwydded gofalwr yn cael eu cynnig ar gyfer parcio-ar-y-stryd - un ar gyfer iechyd proffesiynol ac un ar gyfer gofal personol i'r rhai sy'n gymwys.

Trwydded Ysgol: Gall ysgolion presennol sydd yn yr Ardal Rheoli Parcio Allanol wneud cais am drwydded ar y stryd i barcio cerbyd sydd ei angen ar gyfer gweithredu'r ysgol. Unwaith eto, nid yw'r drwydded hon ar gyfer cymudwyr neu staff.

Cafodd y cynllun parcio newydd ei drafod a'i gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad i ddechrau gan Gabinet Cyngor Caerdydd yn ei gyfarfod ar 18 Ionawr 2024.