Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 19 Ionawr 2024

19.01.24


Diweddariad Dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Caerdydd yn sgorio'n uchel mewn arolwg o ansawdd bywyd mewn dinasoedd yn Ewrop
  • Disgyblion wedi'u hysbrydoli gan berfformwyr cerddoriaeth Cymraeg mwyaf gwefreiddiol yn perfformio yn eu hysgol
  • Ysgol Gynradd Severn yn derbyn gwerthusiad cadarnhaol gan Estyn

Caerdydd yn sgorio'n uchel mewn arolwg o ansawdd bywyd mewn dinasoedd yn Ewrop

Mae Caerdydd wedi sgorio'n uchel mewn arolwg newydd mawr gan yr UE sy'n asesu ansawdd bywyd mewn dinasoedd mawr yn Ewrop - ac mae wedi'i datgan fel y ddinas orau i deuluoedd â phlant ifanc.

Mae'r arolwg, gan y Comisiwn Ewropeaidd, yn ganlyniad arolwg helaeth o o leiaf 839 o drigolion mewn 83 dinas mewn 36 gwlad - 71,153 o gyfweliadau i gyd - ar faterion, gan gynnwys:

  • Diogelwch
  • Swyddi
  • Seilwaith Trafnidiaeth
  • Diwylliant
  • Iechyd ac
  • Ansawdd gweinyddiaeth leol

Ers yr arolwg diwethaf, a gynhaliwyd yn 2019, mae lefelau boddhad cyffredinol ar draws y rhan fwyaf o ddinasoedd Ewrop wedi gostwng wrth i ddigwyddiadau fel pandemig Covid-19, yr argyfwng costau byw, ac ymosodiad Rwsia o Wcráin adael eu hôl a rhoi pwysau ar systemau gofal iechyd, economïau a llai o dwristiaeth. 

Ac eto, dangosodd yr arolwg fod rhwng 91% a 93% o bobl yng Nghaerdydd yn cytuno eu bod yn fodlon yn byw yn y ddinas, ar yr un lefel â phobl yng nghytref Tyneside ac yn uwch na dinasoedd eraill y DU yn yr arolwg - Glasgow, Llundain, Manceinion a Belfast - ac yn llawer uwch na phrifddinasoedd mawr Ewrop fel Rhufain, Athen a Belgrad.

Mewn dau gategori, perfformiodd Caerdydd yn well na phob un o'r 83 dinas, gan gynnwys holl brif brifddinasoedd Ewrop:

  • Lle da i deuluoedd â phlant ifanc fyw, ac yn
  • Lle da i fewnfudwyr fyw

Fe'i gosodwyd hefyd yn y 10 uchaf mewn categorïau eraill:

  • Lle da i bobl LHDTRhC fyw (pumed)
  • Boddhad â mannau gwyrdd (nawfed), a
  • Boddhad gyda lefel sŵn (10fed)

Dwedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:  "Mae'n dda gweld Caerdydd yn sgorio mor uchel mewn sawl maes o'r adroddiad hwn.  Mae Caerdydd yn ddinas wych i fyw ynddi ac rwy'n croesawu'r canfyddiadau annibynnol hyn sy'n cefnogi hynny.

"Fel cyngor, rydym wedi gweithio'n galed i ennill statws Caerdydd fel y ddinas gyntaf yn y DU i gael statws sy'n Dda i Blant UNICEF ac, wrth gwrs, mae gennym draddodiad hir o oddefgarwch ac o groesawu mewnfudwyr i'r ddinas."

Darllenwch fwy yma

Disgyblion wedi'u hysbrydoli gan berfformwyr cerddoriaeth Cymraeg mwyaf gwefreiddiol yn perfformio yn eu hysgol

Mae'r sîn gerddoriaeth yng Nghaerdydd yn fywiog, gyda'r ddinas yn lleoliad ar gyfer gwyliau cyffrous a llu o leoliadau, stiwdios recordio ac ystafelloedd ymarfer sy'n darparu ar gyfer pob arddull gerddorol - o gerddoriaeth glasurol i jazz, hip hop ac electronica.

Mae Cyngor Caerdydd yn cefnogi'r sîn drwy Strategaeth Cerddoriaeth Caerdydd, sy'n rhoi cerddoriaeth wrth wraidd y ddinas, gan gefnogi a hyrwyddo cerddoriaeth fel offeryn ar gyfer twf, yn hytrach na'i bod yn sgil-gynnyrch ohono. 

Mae annog pobl ifanc i groesawu cerddoriaeth, yn unol â Chynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth Llywodraeth Cymru, yn allweddol i hyn, a heddiw lansiodd y cyngor Gigs Bach yn swyddogol - rhaglen sy'n dod â cherddoriaeth a cherddorion i ganol ysgolion.

Ysgol Uwchradd Llanisien oedd lleoliad lansiad swyddogol y prosiect newydd cyffrous hwn heddiw a chafwyd perfformiadau gan ddau o fandiau Cymreig mwyaf gwefreiddiol y sîn - Chroma (llun) a Maditronique, a berfformiodd setiau byr o ganeuon o flaen disgyblion.

Roedd dros 100 o ddisgyblion yn bresennol yn y gynulleidfa ar gyfer y 'gig bach' awr o hyd, yr oedd pob un ohonynt wedi mynegi diddordeb mewn dysgu rhagor am y busnes cerddoriaeth, gan gynnwys bod yn rhan o fand, ysgrifennu ar gyfer y wasg gerddoriaeth neu fod yn un o'r technegwyr y tu ôl i'r llenni sy'n gofalu am oleuadau a sain.

"Er mai heddiw oedd y lansiad swyddogol, mae nifer o ysgolion uwchradd wedi cynnal eu Gigs Bach eu hunain dros dymor yr hydref yn barod.   Catalydd yn unig yw'r gigs hyn; bydd dysgwyr ysbrydoledig nawr yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer rhaglen Gigs Bach o fentoriaeth, hyfforddiant a chefnogaeth gan bartneriaid y diwydiant," meddai Rhian Boyce, athrawes arweiniol y prosiect ar gyfer tîm Cwricwlwm Cyngor Caerdydd.

"Mae'r gigs wedi bod mor anhygoel o ysbrydoledig, o bobl ifanc yn Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn a oedd am ddechrau cyfansoddi eu caneuon eu hunain i berfformiad hynod drawiadol gan y rapiwr, DFlexx, yn ei hen ysgol uwchradd ei hun, Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd.   

"Alla' i ddim aros i weld sut mae ein partneriaid yn CF Music, Anthem, Sound Progression a'r sîn gerddoriaeth yn gyffredinol, yn cefnogi'r bobl ifanc i ddod o hyd i'w lleisiau eu hunain yn y sîn gerddoriaeth."

Roedd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Addysg, ymhlith y rheini a oedd yn mwynhau'r perfformiadau yn Ysgol Uwchradd Llanisien heddiw.   "Roedd hi'n hyfryd gweld y bobl ifanc yn mwynhau cerddoriaeth fyw - rhai am y tro cyntaf, rwy'n meddwl. 

"Mae Gigs Bach yn ganlyniad uniongyrchol i'r adroddiad Sound Diplomacy a gomisiynwyd gennym i 'ecosystem' cerddoriaeth Caerdydd a argymhellodd adeiladu partneriaethau gyda gweithwyr proffesiynol i ddarparu addysg gerddorol yn y ddinas.   I'r perwyl hwnnw, rydym wedi ymuno â sefydliadau gan gynnwys Clwb Ifor Bach, Music Box Studios a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i sicrhau bod hynny'n digwydd."

Dywedodd ei chydweithiwr, y Cynghorydd Jennifer Burke, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau:  "Bydd y Gigs Bach hyn yn helpu i feithrin cenhedlaeth newydd o bobl sy'n hoff o gerddoriaeth ond, gan fynd ymhellach na hynny, bydd y gweithdai a'r cyfleoedd mentora sy'n gysylltiedig â'r gigs hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu'r ffynhonnell o dalent - ar y llwyfan a thu ôl i'r llenni - sydd ei hangen i sicrhau bod sector cerddoriaeth Caerdydd yn parhau i ffynnu yn y dyfodol."

Darllenwch fwy yma
 

Ysgol Gynradd Severn yn derbyn gwerthusiad cadarnhaol gan Estyn

 

Mae Estyn wedi canmol Ysgol Gynradd Severn yn Glan-yr-afon am ei hymrwymiad i greu amgylchedd diogel, cynhwysol sy'n paratoi disgyblion i gyfrannu'n weithredol mewn cymdeithas.

Yn ystod ymweliad yn ddiweddar, canfu arolygwyr Arolygiaeth Addysg Cymru nifer o gryfderau cadarnhaol yn yr ysgol gan gynnwys:

  • Amgylchedd Dysgu Cadarnhaol: Dywedodd disgyblion Ysgol Gynradd Severn eu bod yn mwynhau mynychu'r ysgol, gan nodi bod ymdeimlad o ddiogelwch a gofal a chafodd yr ysgol ei chanmol am ei hymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant.
  • Arweinyddiaeth Effeithiol: Mae'r pennaeth, a benodwyd ym mis Medi 2018, yn arwain yr ysgol gyda phroffesiynoldeb a thosturi. Mae llywodraethwyr yn cefnogi arweinwyr yn dda, yn rheoli gwariant yn ddiwyd ac yn cynnal diwylliant diogelu cadarn.
  • Ymgysylltu â Rhieni: Mae arweinwyr a staff Ysgol Gynradd Severn wedi sefydlu perthnasoedd cryf â rhieni a ganfyddir eu bod yn gwerthfawrogi'r gofal a'r arweiniad a ddarperir gan yr ysgol.
  • Ansawdd yr Addysgu: Mae llawer o athrawon yn Ysgol Gynradd Severn yn cynllunio gwersi ysgogol gydag amcanion dysgu clir, gan arwain at ddisgyblion yn gwneud cynnydd da, yn enwedig mewn llythrennedd a mathemateg.

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn gadarnhaol, gyda chyfres o feysydd i'w gwella sy'n cynnwys:

  • Iechyd a Diogelwch: Mynd i'r afael â mater cynnal a chadw sy'n ymwneud â'r to.
  • Mecanwaith Adborth: Angen datblygu defnydd effeithiol o adborth i gefnogi cynnydd disgyblion a meithrin annibyniaeth.
  • Integreiddio Sgiliau Digidol a Rhifedd: Angen gwella cyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio eu sgiliau digidol a rhifedd ar draws y cwricwlwm.

Bydd yr ysgol nawr yn mynd i'r afael â'r argymhellion a ddarperir gan Estyn drwy gydweithio â'i harweinwyr, staff, yr Awdurdod Lleol a'r gymuned ehangach i wella'r profiad dysgu cyffredinol i'w disgyblion.

Dywedodd Nick Wilson, Pennaeth yr ysgol; "Rwy'n falch iawn o'n hadroddiad Estyn. Mae'n adlewyrchu'r gwaith tîm gwych, y gwaith caled a'r proffesiynoldeb a ddangosir gan yr holl staff, yn ddyddiol i wella canlyniadau i ddisgyblion.

"Mae'n fraint cael gweithio mewn cymuned ysgol mor amrywiol gyda rhieni a llywodraethwyr sy'n wirioneddol ymrwymedig i weithio gyda'r ysgol er mwyn cefnogi eu plant i gyflawni nid yn unig eu gwaith gorau ond i ddatblygu'n ddinasyddion caredig, galluog a moesegol gwybodus yn y dyfodol. Hoffwn ddiolch i'r holl randdeiliaid am eu hymrwymiad a'u cefnogaeth i helpu Ysgol Gynradd Severn i ddarparu'r addysg orau bosibl i'n disgyblion gwych."

Darllenwch fwy yma