18.01.24
Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn yr Alban ddydd Sadwrn 3 Chwefror yn Stadiwm Principality.
Gyda'r gic gyntaf am 4.45pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 12.45pm tan 8.45pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel.
Mae disgwyl i draffordd yr M4 fod yn brysur iawn - cynlluniwch ymlaen llaw ac osgoi'r tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio ym maes parcio Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon.
Bydd y gatiau'n agor am 2.30pm, cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar. Darllenwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.cymru,yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.
Cau ffyrdd
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o drefniant cau ffyrdd llawn canol y ddinas am 12.45am tan 8.45pm.
Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o'r Ganolfan Ddinesig drwy'r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.
Mae'r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.
Trenau
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnal gwaith uwchraddio seilwaith ar gyfer Metro De Cymru, felly bydd bysus yn cymryd lle gwasanaethau rheilffordd drwy'r dydd rhwng Pontypridd a Threherbert ddydd Sadwrn 3 Chwefror.
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn ychwanegu capasiti lle y bo modd i gyrraedd/adael y ddinas ond y disgwyl yw y bydd gwasanaethau'n brysur iawn felly teithiwch yn gynnar.
Bydd ciwiau ar ôl y digwyddiad ar gyfer gwasanaethau'r brif lein yn y Sgwâr Canolog a chiwiau ar gyfer gwasanaethau'r Cymoedd y tu cefn i'r orsaf.
Ewch i tfw.cymruneu'r ap Trafnidiaeth Cymru newydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio.
Er gwaethaf y streic gan aelodau ASLEF ar 5 Chwefror, mae Great Western Railway yn bwriadu rhedeg amserlen lawn ar 3 Chwefror ond mae'n debygol y bydd gwasanaethau'n cael eu newid a'u canslo ar fyr rybudd. Dylai cwsmeriaid wirio cyn teithio www.gwr.com/check
Nid yw staff Trafnidiaeth Cymru yn rhan o'r gweithredu diwydiannol gan undeb ASLEF rhwng 30 Ionawr a 5 Chwefror. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg ei amserlen lawn ac yn ychwanegu capasiti ar lwybrau i/o Gaerdydd lle bo hynny'n bosibl.
Bydd cefnogwyr sy'n teithio ar drên o'r Alban i Gaerdydd (trwy Crewe) gydag Avanti West Coast ddydd Sadwrn 3 Chwefror yn cael eu heffeithio gan y streic a dylent wneud trefniadau gwahanol.
Os bydd gennych unrhyw broblemau ar y rheilffordd, siaradwch â swyddog tocynnau, neu am faterion mwy difrifol gallwch anfon neges destun at Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 . Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob tro.
Cyfleusterau Parcio a Theithio
Bydd y cyfleusterau parcio a theithio ar gyfer y digwyddiad yn Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon, Bae Caerdydd.
Bydd y pwynt gollwng yng nghanol y ddinas yn Sgwâr Callaghan.
Bydd y safle parcio a theithio yn agor ychydig cyn 9am, a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9am. Bydd y bws olaf o ganol y ddinas am 8.30pm gyda'r safle yn cau'n fuan wedi hynny.
Y gost yw £12 naill ai gydag arian parod neu gerdyn banc.
Parcio yng Nghanol y Ddinas ar Ddiwrnod Digwyddiad(Ceir a Bysus)
I gyrraedd: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.
Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio - mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.
Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Parcio ar Ddiwrnod Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Gerddi Sophia (ceir)
(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).
Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
I gyrraedd: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.
Cost: £20 yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio - mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.
Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.
Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Bws
Bysus lleol:
Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau
Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.
Ar gyfer gwasanaethau Stagecoach, ewch i: Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)
Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: https://www.cardiffbus.com/principality-stadium
Am ragor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i: https://www.natgroup.co.uk/
National Express:
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.
Allwch chi feicio neu gerdded?
Gall y rheini sy'n byw yng Nghaerdydd fod eisiau beicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio'n braf mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw'n seiclo ar hyn o bryd roi cynnig arni.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth oherwydd byddai teithio ar feic yn gynt nag yn y car yn ystod oriau brig neu ddigwyddiadau mawr.
Parcio i Siopwyr
Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).
Parcio i Bobl Anabl
Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.
Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i adeilad House of Fraser) yn cau am 12.45pm ac yn ailagor am 8.45pm.