Back
Rhaglen ôl-osod i arbed ynni gwerth £1.8 miliwn i leihau allyriadau carbon y Cyngor Caerdydd

15.1.24

Mae cynlluniau wedi cael eu datgelu i 23 o adeiladau Cyngor Caerdydd i ddechrau elwa o raglen ôl-osod i arbed ynni gwerth £1.8 miliwn, fyddai'n arbed arian ac yn lleihau allyriadau carbon, wrth i'r awdurdod lleol barhau â'i waith Caerdydd Un Blaned i ddod yn garbon niwtral.

Mae trydan gwyrdd, lleol eisoes yn darparu'r pŵer ar gyfer adeiladau'r cyngor lle bynnag y bo modd, ond mae'r 22 adeilad ysgol a nodwyd dros dro ar gyfer rownd gyntaf y rhaglen ochr yn ochr â Chanolfan Hamdden Channel View, yn dal i gynhyrchu 1595.7 tunnell o CO2e bob blwyddyn, ar gost o fwy nag £1.1 miliwn ar gyfer 7.7miliwn kWh o ynni.

Byddai'r rhaglen Re:Fit sy'n cael ei rheoli a'i rhedeg trwy Bartneriaethau Lleol, menter ar y cyd rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol, Trysorlys EF a Llywodraeth Cymru, yn gwarantu arbedion ynni, carbon a chost o 15% leiaf.

Y bwriad yw y byddai'r gwaith yn cael ei ariannu gan 'Raglen Ariannu Cymru' a reolir gan SALIX, sy'n caniatáu i gyrff sector cyhoeddus wneud cais am fenthyciadau di-log hyblyg ar gyfer prosiectau arbed ynni.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway:  "Mae'r rhaglen Re:Fit yn cynnig cyfle i ni leihau costau, arbed ynni a pharhau â'r gwaith da sydd wedi cyfrannu at ostyngiad o 12.3% mewn allyriadau carbon o ystâd y Cyngor ers lansio ein hymateb Caerdydd Un Blaned i'r argyfwng hinsawdd."

Disgwylir i'r cynlluniau gael eu trafod mewn cyfarfod o'r Cabinet ddydd Iau 18 Ionawr ac, os caiff ei gymeradwyo, byddai darparwr gwasanaeth Re:Fit yn cael ei benodi am gyfnod o bedair blynedd, gyda mesurau ôl-osod yn cael eu cyflwyno yn yr haen gyntaf o adeiladau a gynhelir yn 2024/25. Yna bydd haenau canlynol yn dilyn dros y pedair blynedd nesaf.

Bydd haenau pellach o adeiladau a fyddai'n elwa o fuddsoddiad mewn mesurau ôl-osod yn cael eu nodi i'w cyflawni yn ystod gweddill y contract, er mwyn helpu i gyflawni'r targed uchelgeisiol a nodir yn strategaeth Caerdydd Un Blaned y Cyngor, sef gostyngiad o 60% mewn allyriadau carbon o ystâd weithredol ac ysgolion y Cyngor erbyn 2030.

Mae fersiwn flaenorol o'r cynllun Re:Fit eisoes wedi arwain at 19 o ysgolion yn elwa o fwy na £3 miliwn o fuddsoddiad mewn amrywiaeth o fesurau cadwraeth ynni, gan gynnwys ffotofoltäig solar, systemau rheoli adeiladau, synwyryddion is-goch goddefol dŵr poeth uniongyrchol (PIRS), rheolaethau peiriant oergell-rewgell, uwchraddio goleuadau LED, siacedi falfiau a boeler te PIRS.

Mae'r buddsoddiad hwn wedi arwain at:

  • Arbedion ynni o ryw 3.87 miliwn kWh y flwyddyn.
  • Arbedion carbon o ryw 1,123 tunnell / CO2y flwyddyn.
  • Arbedion cost o ryw £328,000 y flwyddyn.

Disgwylir i adroddiad, sy'n ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y dull datblygu a chyflawni ar gyfer rhaglen Re:Fit 4 gael ei drafod mewn cyfarfod o'r Cabinet ddydd Iau 18 Ionawr 2024.Mae papurau'r cyfarfod, a gwe-ddarllediad byw ar y diwrnod, ar gael yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=8213&LLL=1