11.01.24
James Jelinski, 23, a Megan Colwill,
24, yw recriwtiaid diweddaraf adran Gwasanaethau Trafnidiaeth Canolog y Cyngor
ac maent yn brawf byw o sut mae byd mecaneg modur yn newid.
Mae'r ddau yn angerddol am beiriannau
ac yn cael digon o gyfleoedd i fynd i'r afael ag ystod eang o gerbydau. Maen
nhw'n rhan o dîm o 36 sydd â'r dasg o drwsio a chynnal fflyd 1,000 a mwy y
Cyngor, sy'n cynnwys lorïau, graeanwyr, cerbydau sbwriel, faniau dosbarthu pryd
ar glud a bysus mini ysgolion, yn ogystal â holl gerbydau trydan a pheiriannau
torri lawntiau yr adran Parciau a cherbydau amaethyddol ysgafn eraill.
Mae'r ddau yn gweithio ym mhrif
depo’r Cyngor yn Coleridge Road yn Lecwydd, dan reolaeth Mathew Hallam sy'n
canu clodydd y pâr. "Daeth James atom tua 14 mis yn ôl ac mae wedi cwblhau
ei brentisiaeth gyda ni," meddai. "Ar ôl iddo orffen, nid oedd
gwarant o swydd iddo gyda ni, ond rydym wedi cael adborth da iawn arno trwy
gydol ei brentisiaeth a phan ddaeth swydd ar gael, roeddem yn hapus i'w
gael."
Ymunodd Megan, o Gaerffili, â'r
Cyngor fel prentis a hi yw'r fenyw gyntaf i gael ei chymryd yn y rôl hon. Yn
wreiddiol roedd hi'n astudio peirianneg fecanyddol yn y coleg fel rhan o
leoliad, ond pan fethodd hynny â digwydd, fe wnaeth gais am swydd yng Nghyngor
Caerdydd a chafodd ei derbyn. Mae adborth y mentoriaid y mae hi'n gweithio gyda
nhw hefyd wedi bod yn ardderchog.
"Dydw i ddim yn teimlo'n wahanol
i fod yr unig fenyw ar y tîm," meddai. "Mae yna gyfeillgarwch da iawn
yn y depo ac rydw i wrth fy modd yn gweithio yma. Rwy'n credu y dylai fod mwy o
fenywod yn gweithio yn y maes hwn - yn draddodiadol mae wedi bod yn faes sy'n
cael ei ddominyddu gan ddynion."
Mae ei rheolwr yn cytuno: "Mae
prinder mecanyddion wedi bod yn eang yn ystod y blynyddoedd diwethaf,"
meddai Mathew. "O ganlyniad, mae mwy o arian ar gael ac mae'n fwy apelgar
nawr i ferched ifanc. Hefyd, nid dim ond swydd i ddynion cryf yw hi erbyn hyn -
mae ganddon ni offer o'r radd flaenaf yma ac mae hynny'n gwneud gweithio gyda’r
injans trwm yn lot haws ac yn fwy diogel."
Mae prentisiaid yn dechrau ar gyflog
o tua £22,700, gan godi i bron i £34,000 pan fyddant - fel James - wedi cwblhau
eu prentisiaeth pedair blynedd. Maent yn gweithio tuag at NVQ Lefel Tri mewn
cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau nwyddau trwm ac yn cael cyfle i ddilyn
cyrsiau galwedigaethol eraill, fel trydan cerbydau.
Mae James, o'r Barri, wrth ei fodd
â'r cyfle i weithio ar ystod eang o gerbydau ac mae am wneud mwy o gyrsiau nawr
ei fod yn ffitiwr cerbydau nwyddau trwm cymwysedig. "Dwi eisiau gweithio
tuag at fy nhrwydded yrru ar gyfer cerbydau nwyddau trwm - bydd hynny'n golygu
fy mod i'n gallu profi'r cerbydau mwy o faint rydyn ni'n gweithio arnyn nhw ar
y ffordd."
Mae'r ddau yn teimlo mai
prentisiaethau yw'r ffordd berffaith o fynd i mewn i'r maes ac yn teimlo'n siŵr
y byddant yn rhan o'r tîm am flynyddoedd i ddod.