Back
Straeon gofalwyr maeth Caerdydd yn dangos bod gan bawb rywbeth i’w gynnig i gefnogi plant lleol mewn gofal.


9/1/24
 
Nod yr ymgyrch newydd yw ysbrydoli pobl o bob cefndir i ystyried maethu gyda'u Cyngor lleol.

 

Mae dros 7,000 o blant yn y system ofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth.

 

Yng Nghaerdydd, mae 400 o blant mewn gofal maeth ar hyn o bryd. Mae 105 o ofalwyr maeth gyda Maethu Cymru Caerdydd (eu Cyngor lleol), ond mae angen llawer mwy arnom yn y ddinas.

 

Heddiw, nododd Maethu Cymru - y rhwydwaith cenedlaethol o dimau maethu'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru - nod beiddgar o recriwtio mwy nag 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026, i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol.

 

Mae Maethu Cymru Caerdydd wedi ymuno â'r ymgyrch newydd, sy'n dangos bod gan bawb rywbeth i'w gynnig, gan ddefnyddio eu hased gorau - gofalwyr maeth cyfredol - i rannu profiadau realistig o ofal maeth ac archwilio'r priodoleddau dynol bach ond arwyddocaol sydd gan bobl a all wneud byd o wahaniaeth i berson ifanc mewn gofal.

 

Mae Maethu Cymru wedi siarad â mwy na 100 o bobl i ddatblygu'r ymgyrch - gan gynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, aelodau o'r cyhoedd a phobl sy'n gadael gofal.

 

Amlygodd ymatebion y grwpiau hyn dri pheth allweddol sy'n atal darpar ofalwyr rhag ymholi:

  • Diffyg hyder yn eu sgiliau a'u gallu i gefnogi plentyn mewn gofal.
  • Y gred nad yw maethu yn cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.
  • Camsyniadau ynghylch y meini prawf i ddod yn ofalwr.

Gyda'r wybodaeth hon, mae Maethu Cymru wedi defnyddio straeon gwirioneddol gofalwyr yng Nghymru i ddangos bod maethu gyda'ch Cyngor lleol yn hyblyg, yn gynhwysol ac yn dod â chyfleoedd hyfforddiant a datblygu proffesiynol helaeth, ynghyd â ffioedd a lwfansau hael.

 

Mae Claire a Heather o Gaerdydd wedi bod yn ofalwyr maeth ers 14 mlynedd. Maent yn deall efallai nad yw'r plant y maent yn gofalu amdanynt yn hoffi arferion fel amser gwely neu eistedd wrth y bwrdd i gael swper oherwydd efallai nad yw hyn yn rhywbeth y maent wedi arfer ag ef.  Fodd bynnag, gydag amynedd a dyfalbarhad, mae'r plant yn ymgartrefu.

 

Dywedodd Claire: "Gydag amser, mae'r plant yn ein gofal yn dod yn annwyl, maent yn dod i roi cwtsh i ni ac yn dweud, 'ti yw'r gofalwr maeth gorau' a 'dwi'n dy garu di'. Mae'r eiliadau hyn yn arbennig iawn.

 

"Mae maethu yn heriol ond mae'n rhaid i chi edrych ar yr hyn rydych chi wedi'i gyflawni ac mae'r gwahaniaeth rydych chi'n ei weld mewn plentyn yn anhygoel."

 

Mae Cymru wrthi'n newid y system gyfan ar gyfer y gwasanaethau plant, yn dilyn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal'. 

 

 

Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddielw, ac mae'r angen am ofalwyr maeth Cyngor lleol yn fwy nag erioed.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Plant): "Rwyf wedi cael y pleser o gwrdd â rhai o'n gofalwyr maeth yng Nghaerdydd sy'n gwneud gwaith anhygoel, gan gefnogi plant trwy gynnig eu sgiliau, eu profiad, eu hempathi a'u caredigrwydd i sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel.

"Ond er mwyn gallu darparu cartref croesawgar a'r gofalwr maeth cywir i blant lleol sydd eu hangen, mae angen mwy o bobl anhygoel arnom i gynnig eu sgiliau a'u profiad.

 

"Pan fyddwch chi'n maethu gyda Maethu Cymru Caerdydd, bydd gennych fynediad at gymorth a gwybodaeth leol bwrpasol gan ein tîm, pecyn dysgu a datblygu gwych ac yn bwysicach fyth, gallwch helpu plant i aros yn eu cymuned leol eu hunain, yn agos at ffrindiau, eu hysgol a phopeth sy'n  bwysig iddynt.

 

"Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn yng Nghaerdydd gyda'ch sgiliau a'ch profiad, yna cysylltwch â ni."

 

Mae'r ymgyrch yn dechrau ddydd Llun 8 Ionawr ar draws y teledu, gwasanaethau ffrydio, y radio, digidol, y cyfryngau cymdeithasol, a gyda digwyddiadau amrywiol mewn cymunedau lleol ledled Cymru. 

 

I gael mwy o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, ewch i:

 

https://caerdydd.maethucymru.llyw.cymru/