4.1.24
I ddathlu lansio sioe newydd Huw Stephens yn ystod yr wythnos ar BBC Radio 6 Music, mae Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn cefnogi gig am ddim yng Nghlwb Ifor Bach, gyda CVC, y rocwyr seic sy'n prysur ennill enw iddynt eu hunain.
Gyda'u halbwm a enwebwyd am Wobr Gerddoriaeth Gymreig, a ddisgrifiwyd gan yr NME fel "albwm gyntaf anhygoel o drysorau hollol retro" a chan The Times fel un "hynod o gyflawn," roedd CVC yn un o berfformwyr arloesol 2023.
Bydd y gydweithfa gerddorol chwe darn o Bentre'r Eglwys, y tu allan i Gaerdydd, yn chwarae Clwb Ifor Bach ddydd Iau 11 Ionawr, ynghyd â dau artist arall o Gaerdydd, a enwyd gan Huw Stephens fel artistiaid addawol ar gyfer 2024.
Mae'r tocynnau am ddim ac ond ar gael wrth y drws, felly dewch yn gynnar er mwyn osgoi colli'r cyfle.
Sioe newydd Huw Stephens, yn darlledu o Stiwdios BBC Cymru Wales yn Sgwâr Canolog, Caerdydd, fydd rhaglen reolaidd gyntaf 6 Music a ddarlledir o Gymru, fel rhan o gynlluniau Across the UK y BBC i adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu pob cynulleidfa yn well. Bydd y sioe yn cael ei darlledu dydd Mawrth - dydd Gwener (4-7pm) o ddydd Mawrth 9 Ionawr. Bydd Huw yn parhau i gyflwyno ei sioeau wythnosol ar y BBC ar Radio Wales bob dydd Llun (7-10pm) a'i sioe Gymraeg ar Radio Cymru bob dydd Iau (7-9pm).
Gan siarad am sioe newydd 6 Music, dywedodd Cadeirydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd ac Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Mae Huw wedi bod yn cefnogi cerddoriaeth newydd, ac yn arbennig cerddoriaeth newydd o Gymru, ers bron i 25 mlynedd bellach felly bydd ei gael fel un o brif hyrwyddwyr cerddoriaeth newydd 6 Music yn hwb gwirioneddol i leoliadau ac artistiaid llawr gwlad Caerdydd.
"Mae yna gryfder gwirioneddol, a llawer o ddiddordeb ym myd cerddoriaeth Caerdydd ar hyn o bryd ac rydym yn falch iawn o allu cefnogi'r dathliad hwn o wythnos gyntaf Huw a'r dalent leol sydd gennym yma yng Nghaerdydd, fel rhan o'n strategaeth gerddoriaeth barhaus i wneud cerddoriaeth, yn haeddiannol, yn ganolog i'r ddinas."
Dywedodd Huw Stephens: "Rwy'n llawn cyffro i fod yn darlledu fy sioe 6 Music newydd yn fyw o Gaerdydd bob dydd, o ddydd Mawrth i ddydd Gwener. Mae gan Gymru sîn gerddoriaeth wych felly mae cael fy lleoli yma yn golygu y gallaf gyflwyno hyd yn oed mwy o artistiaid Cymreig gwych i gynulleidfa ehangach, a pharhau i fwrw golwg ar yr artistiaid newydd gorau o bob rhan o'r DU a thu hwnt. Diolch i'r Clwb Ifor Bach eiconig am gynnal y gig arbennig yma - mae cymaint o gyffro am CVC ar hyn o bryd, efallai mai dyma'r cyfle olaf i'w gweld mewn lleoliad llawr gwlad am dipyn, a bydd rhai artistiaid newydd cyffrous iawn yn cefnogi hefyd."