02/01/24
Mae preswylwyr Caerdydd yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ymgynghoriad pellgyrhaeddol ar y gyllideb a allai weld gwasanaethau'n cael eu cwtogi a thaliadau'n cael eu cynyddu wrth i'r cyngor geisio dod o hyd i £30.5m i fantoli'r gyllideb yn 2024/25 yng nghanol argyfwng ariannu'r sector cyhoeddus.
Mae sawl ffactor gan gynnwys chwyddiant, pwysau o ran galw a chynnydd disgwyliedig mewn cyflogau i athrawon, gofalwyr a gweithwyr eraill y sector cyhoeddus, yn golygu y bydd cyllideb y cyngor ar gyfer darparu gwasanaethau o ddydd i ddydd fel addysg, gofal cymdeithasol, casglu sbwriel, parciau a llyfrgelloedd yn costio £56m yn fwy'r flwyddyn nesaf nag y bydd eleni.
Bydd cynnydd grant o 4.1% Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer Caerdydd - llai na hanner yr hyn a dderbyniodd y cyngor ar gyfer cyllideb y flwyddyn bresennol - yn dod â £25.5m ychwanegol i mewn, gan adael bwlch o £30.5m yn y gyllideb. Bydd angen llenwi'r bwlch hwn nawr drwy doriadau i wasanaethau, arbedion effeithlonrwydd, a chynnydd mewn taliadau fel y Dreth Gyngor.
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfres o newidiadau posibl i wasanaethau a allai helpu i wneud arbedion a chynyddu incwm yn agor ddydd Llun, 8 Ionawr ac yn para am tua phedair wythnos tan hanner nos, nos Sul, 4 Chwefror. Yn ystod yr ymgynghoriad, bydd gofyn i breswylwyr roi eu barn ar newidiadau posibl i wasanaethau a allai helpu i bontio'r bwlch.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Moderneiddio, y Cynghorydd Chris Weaver: "Mae'r cynnydd yn y setliad a gawsom gan Lywodraeth Cymru yn doriad enfawr ar y flwyddyn flaenorol, mae'r gostyngiad yn golygu ein bod bron £30m yn waeth ein byd. Gwyddom nad yw Caerdydd ar ei phen ei hun yn hyn o beth. Mae argyfwng ariannu'r sector cyhoeddus ar draws y DU sy'n effeithio ar bob elfen o gymdeithas. Bydd yn golygu toriadau i wasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt a chynnydd mewn taliadau ar adeg pan fo'r wlad gyfan yn wynebu argyfwng costau byw.
"Mae'n rhaid i ni fantoli'r gyllideb a gwneud hynny ar ôl degawd o gyni, a welodd wasanaethau'r cyngor yn cael eu cwtogi'n sylweddol, ac yna ymdrin â'r pandemig a'r argyfwng costau byw a ddilynodd, sy'n golygu bod rhai dewisiadau anodd iawn o'n blaenau. Yr ymgynghoriad cyllideb hwn fydd yr un pwysicaf yr ydym erioed wedi'i gynnal. Bydd yn rhaid i'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt, ac yn eu disgwyl, newid neu fynd, a bydd yn rhaid i daliadau gynyddu er mwyn cynnal gwasanaethau eraill. Rwy'n annog preswylwyr Caerdydd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn. Rydym am i chi ddweud wrthym pa wasanaethau sydd bwysicaf i chi. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu ysgolion, gofal cymdeithasol, a gwasanaethau rheng flaen fel gwasanaethau ieuenctid - ond mae dewisiadau anodd yn ein hwynebu i ddiogelu'r gwasanaethau hanfodol hyn, ac mae Cynghorau mewn sefyllfa lle gallai rhai gwasanaethau ddiflannu am byth."
Ers yr argyfwng costau byw, mae mwy a mwy o bobl yn troi at y Cyngor am gymorth. Mae hyn yn golygu bod y galw am wasanaethau yn cynyddu. Er enghraifft:
Mae popeth sydd angen i'r cyngor ei brynu i ddarparu ei wasanaethau yn costio mwy. Bu cynnydd arbennig o uchel yng nghost gofal y mae'n rhaid i'r Cyngor ei gomisiynu i ofalu am bobl sy'n agored i niwed, ac yn y swm y mae'n ei dalu i helpu i gludo plant sydd angen cymorth i'r ysgol.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r cyngor wedi gorfod ymateb i bandemig Covid-19, ac argyfwng costau byw ac ynni sydd wedi bod yn ergyd drom i wasanaethau cyhoeddus.
Mae mwy a mwy o bobl yn troi at y Cyngor am gymorth, boed hynny ar gyfer tai, ar gyfer cyflogaeth, am ofal ar gyfer perthnasau hŷn neu am gefnogaeth deuluol. Ond mae'r amodau economaidd presennol a phenderfyniadau gwariant y llywodraeth yn golygu nad oes gan y cyngor yr arian sydd ei angen arno i ymateb.
Mae ymgynghoriad y gyllideb yn nodi'r newidiadau i wasanaethau'r cyngor sy'n cael eu hystyried i fantoli'r gyllideb yn 2024/25, gan gynnwys:
Bydd y manylion llawn ar gael i breswylwyr pan fydd yr ymgynghoriad yn agor ar-lein ar 8 Ionawr. Bydd copïau wedi eu hargraffu o'r ymgynghoriad mewn sawl iaith hefyd ar gael mewn llyfrgelloedd, Hybiau ac adeiladau'r cyngor yn y flwyddyn newydd ar gyfer unrhyw un sy'n methu cymryd rhan yn ddigidol.
Unwaith y bydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben, bydd cynigion terfynol yn cael eu cyflwyno gerbron y Cyngor Llawn i'w ystyried ddydd Iau, 7 Mawrth.
Mae'r rhan fwyaf o gyllideb flynyddol bresennol y cyngor o £804m - tua 70% - yn mynd ar ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol. Mae pob 1% o'r cynnydd yn y dreth gyngor yn creu tua £1.7m o incwm.
Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver: "Daw'r rhan fwyaf o'r arian y mae'r Cyngor yn ei dderbyn o grantiau gan Lywodraeth Cymru. Dim ond tua 26% sy'n dod o'r Dreth Gyngor. Mae dros ddwy ran o dair yn cael ei wario ar gynnal ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol. Heb y dreth gyngor, gallai llawer o'r gwasanaethau pwysig eraill a ddarparwn gael eu colli neu wynebu toriadau difrifol. Bydd unrhyw gynnydd yn y Dreth Gyngor yn mynd tuag at ein helpu i gynnal gwasanaethau pwysig y mae ein dinasyddion yn dibynnu arnynt wrth i ni gynllunio ar gyfer yr argyfwng hwn.
"Rydym yn bwriadu diogelu ysgolion cystal ag y gallwn rhag toriadau ac rydym wedi ceisio sicrhau ein bod ni'n cynnal gwasanaethau allweddol ledled y ddinas cystal ag y gallwn, er y gall rhai gwasanaethau gael eu cwtogi neu rai taliadau gynyddu yn dilyn yr ymgynghoriad hwn.
"O ystyried hyn i gyd, mae'r Cyngor yn wynebu pwysau cynyddol yn y galw a chostau cynyddol sy'n arwain at her gyllidebol mor sylweddol ag unrhyw beth yr ydym erioed wedi'i wynebu.
"Y llynedd, cafodd y cyngor gynnydd o 9% yn ei grant gan Lywodraeth Cymru, eleni mae'r ffigur hwnnw wedi mwy na haneru. Roedd Llywodraeth Cymru yn wynebu dewisiadau anodd iawn eu hunain gan nad oes digon o gyllid i Gymru i gynnal gwasanaethau fel y maent, ond mae'n amlwg yn ein gadael â bwlch sylweddol yn ein cyllid y mae angen i ni ei ddatrys.
"Mae angen i ni ddod o hyd i £30.5m - swm enfawr o arian - yn enwedig ar ôl torri tua chwarter biliwn o'n cyllideb dros y deng mlynedd diwethaf.
"Rydym eisoes wedi bod yn gwneud arbedion effeithlonrwydd drwy gydol y flwyddyn i baratoi ar gyfer y storm ariannol yr oeddem yn gwybod oedd o'n blaenau. Rydym yn gwybod bod argyfwng costau byw ond does dim amheuaeth y bydd yn rhaid i'r dreth gyngor gynyddu i helpu i gau'r bwlch. Ni allwn ddweud beth fydd y cynnydd, eto. Mae angen i ni ddeall y gwasanaethau y mae pobl am eu gweld yn cael eu darparu yn y dyfodol a'r hyn y maent yn barod i dalu mwy amdano, a dyna pam mae'r ymgynghoriad hwn mor bwysig.
Mae pob cynnydd canrannol yn y Dreth Gyngor ond yn dod â £1.7 miliwn i mewn, felly i osod cyllideb gytbwys bydd angen i ni wneud arbedion sylweddol o wasanaethau a thaliadau incwm.
"Bydd y cynnydd o 4.1% yn y gyllideb a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i geisio diogelu gwasanaethau pwysig fel cyllidebau ysgolion a gofal cymdeithasol. Rydym yn ystyried cynyddu cyllidebau ysgolion 4.1% sy'n cyfateb i'r arian a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddiogelu gwasanaethau cymdeithasol a'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
"Ond does dim amheuaeth bod angen i ni nawr edrych ar rai opsiynau anoddach eu hwynebu i bontio'r bwlch. Mae rhai dewisiadau anodd iawn y bydd angen eu gwneud, a dyna pam ei bod mor bwysig bod preswylwyr yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar y gyllideb ac yn dweud wrthym am yr hyn sydd wir yn bwysig iddyn nhw."
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn ar y gyllideb yma
Canllaw i Gyllideb 2024/25 y Cyngor yma
Bydd nifer o Bwyllgorau Craffu'r cyngor yn craffu ar gynigion y Gyllideb yn yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, 8 Ionawr.
Bydd modd gwylio ffrwd fyw o'r holl gyfarfodydd Craffu ar gynigion y Gyllideb drwy'r calendr o gyfarfodydd sydd ar gael i'w gweld yma. Cliciwch ar y calendr, yna ar gyfarfod y pwyllgor unigol, yna'r agenda lle cewch hyd i'r ddolen we ar gyfer y ffrwd fideo fyw.
Bydd y cynigion yn mynd gerbron y Cabinet i'w cymeradwyo ddydd Llun, 8 Ionawr. Bydd modd gweld ffrwd fyw o'r cyfarfod hwnnw yma.
Os bydd y Cabinet yn cytuno, bydd y Cyngor Llawn yn pleidleisio ar y cynigion ddydd Iau, 7 Mawrth, o 4.30pm.