Back
Streic i effeithio ar rai casgliadau gwastraff yng Nghaerdydd


28/12/23

Mae'n debygol yr effeithir ar rai casgliadau gwastraff yng Nghaerdydd yn dilyn penderfyniad Unite i streicio rhwng dydd Iau, 28 Rhagfyr a dydd Iau, 25 Ionawr.

Mae Cyngor Caerdydd yn rhoi cynllun ar waith i gynnal gwasanaethau ac rydym yn ymddiheuro o flaen llaw i drigolion am unrhyw anghyfleustra.

Yn anffodus, oherwydd y streic ni fydd y cyngor yn gallu casglu coed Nadolig eleni.

I helpu trigolion i gael gwared ar eu coed, bydd pwynt gollwng coed Nadolig ar gael ym Mharc y Mynydd Bychan ddydd Sadwrn 6 a dydd Sul 7 Ionawr 2024, rhwng 10am a 4pm.

Fel arall, gall preswylwyr hefyd ddod â'u coeden Nadolig i Ganolfannau Ailgylchu Ffordd Lamby neu Clos Bessemer - heb archebu drwy'r system ar-lein.

Os oes gan breswylwyr le, gallai eu coeden Nadolig hefyd gael ei thorri a'i rhoi yn eu biniau gwyrdd nes bod y casgliadau gwastraff gardd yn ailgychwyn yn y gwanwyn. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra.

Yn ystod y streic rydym yn anelu at weithredu'r holl wasanaethau casglu fel arfer, ar wahân i hylendid. Bydd gwastraff hylendid unrhyw un sydd wedi cofrestru gyda'r gwasanaeth hylendid yn cael ei gasglu bob pythefnos gyda'r gwastraff bagiau du/biniau du.

Gofynnwn i drigolion gadw golwg ar y diweddariadau casglu gwastraff drwy wefan y cyngor https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Pryd-gaiff-fy-miniau-eu-casglu/Pages/default.aspx neu ap Cardiff Gov - https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/app-caerdydd-gov/Pages/default.aspx.Gall y streic achosi rhywfaint o darfu ac oedi felly bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar gael yno.

Bydd y canolfannau ailgylchu yn Ffordd Lamby a Clos Bessemer yn parhau ar agor yn ystod oriau gweithredu arferol ac ni fydd y streic yn effeithio arnynt. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y cyngor: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Pryd-gaiff-fy-miniau-eu-casglu/Pages/default.aspx

Yn ystod cyfnodau streicio, bydd y cyngor bob amser yn blaenoriaethu casglu gwastraff bwyd, gwastraff cyffredinol ac ailgylchu i sicrhau bod bwyd a chynhwysyddion gwastraff bwyd yn cael eu tynnu oddi ar y strydoedd cyn gynted â phosibl, gan leihau'r risg y bydd y bagiau yn cael eu rhwygo gan adar neu anifeiliaid gan greu sbwriel stryd ledled y ddinas.

Rydym yn bwriadu clirio'r holl wastraff yn ôl yr arfer drwy gyfnod y streic gyda gwastraff hylendid yn unig yn symud i gasgliad bob pythefnos gyda gwastraff bagiau du a biniau du.

Unwaith eto, rydym yn diolch i chi am eich amynedd ac rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra y gallai'r streic hon ei achosi i chi dros gyfnod yr ŵyl.