Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 22 Rhagfyr 2023

Diweddariad Dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Streic i effeithio ar rai casgliadau gwastraff yng Nghaerdydd ar ôl y Nadolig
  • Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd yn derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am iechyd a lles
  • Adeiladu perthnasoedd cadarnhaol rhwng pobl ifanc ar draws Caerdydd drwy bêl-droed

 

Streic i effeithio ar rai casgliadau gwastraff yng Nghaerdydd ar ôl y Nadolig

Mae'n debygol yr effeithir ar rai casgliadau gwastraff yng Nghaerdydd yn syth ar ôl y Nadolig yn dilyn penderfyniad Unite i streicio rhwng dydd Iau, 28 Rhagfyr a dydd Iau, 25 Ionawr.

Mae Cyngor Caerdydd yn rhoi cynllun ar waith i gynnal gwasanaethau ac rydym yn ymddiheuro o flaen llaw i drigolion am unrhyw anghyfleustra.

Yn ystod y streic rydym yn anelu at weithredu'r holl wasanaethau casglu fel arfer, ar wahân i hylendid. Bydd gwastraff hylendid unrhyw un sydd wedi cofrestru gyda'r gwasanaeth hylendid yn cael ei gasglu bob pythefnos gyda'r gwastraff bagiau du/biniau du.

Oherwydd bod Dydd San Steffan ar ddydd Mawrth, bydd casgliadau gwastraff ar gyfer yr wythnos honno yn symud diwrnod yn hwyrach, gan ddechrau ddydd Mercher, 27 Rhagfyr.

Felly, os oedd eich casgliad i fod i ddigwydd ar:

  • Ddydd Mawrth, 26 Rhagfyr - bydd nawr yn digwydd ddydd Mercher, 27 Rhagfyr.
  • Dydd Mercher, 27 Rhagfyr - bydd yn newid i ddydd Iau, 28 Rhagfyr.
  • Dydd Iau, 28 Rhagfyr - bydd yn newid i ddydd Gwener, 29 Rhagfyr.
  • Dydd Gwener, 29 Rhagfyr - bydd yn newid i ddydd Sadwrn, 30 Rhagfyr.

Gofynnwn i drigolion gadw golwg ar y diweddariadau casglu gwastraff  drwy wefan y cyngor  neu  ap Cardiff Gov.

Bydd y canolfannau ailgylchu yn Ffordd Lamby a Clos Bessemer yn parhau ar agor yn ystod oriau gweithredu arferol ac ni fydd y streic yn effeithio arnynt. Am ragor o wybodaeth,  ewch i wefan y cyngor.

Yn ystod cyfnodau streicio, bydd y cyngor bob amser yn blaenoriaethu casglu gwastraff bwyd, gwastraff cyffredinol ac ailgylchu i sicrhau bod bwyd a chynhwysyddion gwastraff bwyd yn cael eu tynnu oddi ar y strydoedd cyn gynted â phosibl, gan leihau'r risg y bydd y bagiau yn cael eu rhwygo gan adar neu anifeiliaid gan greu sbwriel stryd ledled y ddinas.

Rydym yn bwriadu clirio'r holl wastraff yn ôl yr arfer drwy gyfnod y streic gyda gwastraff hylendid yn unig yn symud i gasgliad bob pythefnos gyda gwastraff bagiau du a biniau du.

Unwaith eto, rydym yn diolch i chi am eich amynedd ac rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra y gallai'r streic hon ei achosi i chi dros gyfnod yr ŵyl.

 

Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd yn derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am iechyd a lles

Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd yng ngogledd Caerdydd wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am ei gwaith i hyrwyddo iechyd a lles ledled ei chymuned ysgol, ar y safon uchaf bosib.

Mae aseswyr Rhwydwaith Cymru y Cynllun Ysgolion Iach - wedi rhoi "Gwobr Ansawdd Genedlaethol (GAG) Ysgolion Iach" am ddangos rhagoriaeth ym mhob maes iechyd a lles, gyda chymorth Tîm Ysgolion Iach Cyngor Caerdydd.

Mae'r Wobr Ansawdd Genedlaethol Ysgolion Iach yn gyflawniad sy'n canolbwyntio ar bwysigrwydd cyfranogiad disgyblion mewn meysydd craidd bywyd ysgol, sy'n effeithio'n uniongyrchol ar iechyd a lles plant a phobl ifanc.

Mae'r cyflawniad arbennig yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion fynd trwy broses drwyadl sy'n rhychwantu o leiaf naw mlynedd ac mae'n cydnabod gwaith caled staff, disgyblion a'r gymuned ysgol ehangach.

Mae rhai o uchafbwyntiau'r adroddiad ar Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd yn cynnwys: 

  • Yr ysgol yn ennill Gwobr Aur Ysgol sy'n Parchu Hawliau gan ddefnyddio Hawliau'r Plentyn ym mron pob agwedd ar fywyd yr ysgol.
  • Mae cyfathrebu ac ymgysylltu â rhieni yn nodwedd allweddol ragorol gyda newyddion a gwybodaeth Ysgolion Iach yn cael eu cyfleu i holl aelodau cymuned yr ysgol.
  • Mae amgylchedd yr ysgol yn groesawgar ac yn ddeniadol iawn, gan ddarparu amgylchedd dysgu ysgogol, creadigol a diogel i bob dysgwr. 
  • Mae'r ysgol yn elwa o diroedd ysgol gwych, sydd wedi'u datblygu i gynnig nifer o gyfleoedd dysgu awyr agored gan gynnwys nifer o welyau tyfu, pwll, tŷ gwydr ac ystafelloedd dosbarth awyr agored.
  • Mae llais disgyblion yn yr ysgol gyda'r cryfaf y mae'r arolygwyr wedi ei weld, gan ymgorffori ethos o berchnogaeth a gwir bartneriaeth. Mae disgyblion yn glir ynghylch natur eu rolau priodol ac mae pob grŵp yn cwblhau adolygiad Effaith a Gweithredu bob blwyddyn i ddeall deilliannau'r gwaith y maent yn ei wneud.
  • Mae diogelu a hyrwyddo iechyd meddwl a lles da pawb sy'n gysylltiedig â'r ysgol yn amlwg. 
  • Mae gan yr Uwch Dîm a'r athrawon agwedd gadarnhaol tuag at groesawu newid a syniadau newydd, sy'n golygu bod yr ysgol yn esblygu'n barhaus ac yn datblygu ac yn barod i addasu i anghenion wrth iddynt godi, ac i faterion lleol.

Darllenwch fwy yma

 

Adeiladu perthnasoedd cadarnhaol rhwng pobl ifanc ar draws Caerdydd drwy bêl-droed

Mae Caerdydd wedi cynnal ei thwrnamaint pêl-droed rhyng-ieuenctid cyntaf y mis hwn, gan ddod â mwy na 90 o bobl ifanc o glybiau ieuenctid ledled y ddinas at ei gilydd.

Cefnogir y prosiect partneriaeth ar y cyd rhwng Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd, Coleg Caerdydd a'r Fro (CCF) a Heddlu De Cymru gan Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a'i nod yw adeiladu perthnasoedd cadarnhaol rhwng pobl ifanc sy'n byw mewn gwahanol ardaloedd o'r ddinas.

Bu timau o Gabalfa, Llanrhymni, Llaneirwg, y Powerhouse yn Llanedern, Eastmoors yn y Sblot, Gogledd Trelái a Chaerau, yn ogystal â Heddlu De Cymru a gweithwyr ieuenctid Caerdydd, yn cystadlu yn y twrnamaint a gynhaliwyd yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, Heol Dumballs.

Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd ymgysylltu â phobl ifanc, gan gynnig gwybodaeth, cefnogaeth ac arweiniad am faterion y gallent eu hwynebu yn eu cymunedau.

Darllenwch fwy yma