Back
Cyngor yn cyhoeddi adroddiad canol tymor ar ei berfformiad

22/12/23 

A building with a body of waterDescription automatically generated

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi ei arfarniad 'Lles' canol tymor - gan gynnig hunanasesiad cynhwysfawr o'r ffordd y mae wedi perfformio wrth gyflawni amcanion a nodir yn ei gynllun corfforaethol ar gyfer 2023-26. 

Mae'r amcanion yn canolbwyntio ar saith ymrwymiad allweddol y Cyngor:

  • Mae Caerdydd yn lle gwych i gael eich magu
  • Mae Caerdydd yn lle gwych i dyfu'n hŷn
  • Cefnogi pobl allan o dlodi 
  • Cymunedau diogel, hyderus a grymus
  • Prifddinas sy'n gweithio dros Gymru
  • Caerdydd Un Blaned
  • Moderneiddio ac integreiddio ein gwasanaethau cyhoeddus

Wrth lunio'r adroddiad, mae'r Cyngor yn defnyddio nifer o ffynonellau gwybodaeth perfformiad, gan gynnwys arolwg dinasyddion blynyddol, Holi Caerdydd, Adroddiad Monitro'r Gyllideb, ei berfformiad yn erbyn ei ymrwymiadau Cynllun Corfforaethol Allweddol yn ogystal â'i adroddiad Canmoliaeth a Chwynion blynyddol. 

Mae hefyd yn ymgorffori'r arolygiadau rheolaidd a gynhelir gan Archwilio Cymru, Estyn - yr arolygiaeth ysgolion - ac Arolygiaeth Gofal Cymru.  Mae'r adroddiad yn ceisio darparu cyfrif teg a chytbwys o berfformiad y Cyngor.

Mae'r adroddiad yn ei gwneud hi'n glir bod canlyniadau addysg yng Nghaerdydd ymysg yr uchaf yng Nghymru a bod y ddinas wedi sicrhau statws UNICEF sy'n dda i blant.   Mae hefyd yn nodi sut mae'r Cyngor yn helpu'r nifer uchaf erioed o bobl i mewn i waith ac i gael gafael ar fudd-daliadau, yn ogystal â chyflawni yn erbyn ei darged ar gyfer cartrefi newydd.   Ar draws pob amcan lles mae enghreifftiau o'r cynnydd sy'n cael ei wneud.

Mae hefyd yn nodi'r heriau y mae'r Cyngor yn eu hwynebu, gan ei gwneud yn glir bod bron pob un o'i wasanaethau yn wynebu cynnydd yn y galw.   Mae'r adroddiad hefyd yn nodi'r anawsterau mae chwyddiant mewn prisiau ynni, bwyd a thanwydd yn eu cyflwyno. 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas, fod llawer o bethau cadarnhaol i'w dysgu o'r asesiad canol tymor. "O fod y ddinas gyntaf ym Mhrydain i ennill statws Dinas sy'n Dda i Blant gan UNICEF, ein llwyddiannau addysg, rhaglen adeiladu tai cyngor a'r cynnydd yn nifer y cwmnïau yng Nghaerdydd sy'n talu'r Cyflog Byw gwirioneddol, mae'n amlwg ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir wrth sefydlu'r ddinas fel lle gwych i fyw a gweithio.    

"Ond rydym yn dal i weld effeithiau'r pandemig ac er ein bod yn arwain yr adferiad economaidd yng Nghymru mae llawer i'w wneud o hyd.  Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at yr holl feysydd lle rydym yn cael llwyddiannau sylweddol ac, yn briodol, yn tynnu sylw at y meysydd hynny lle gallwn, ac y byddwn, yn gwneud yn well a chyflawni ein nod o Gaerdydd ‘Gryfach, Decach, Wyrddach'." 

UCHAFBWYNTIAU'R ADRODDIAD 

  • Mae Caerdydd yn lle gwych i gael eich magu

-         Yn ogystal â gwobr UNICEF, mae'r cyngor yn adrodd bod canlyniadau arholiadau ysgolion wedi bod yn uwch na'r disgwyliadau ac mae arolygiadau ysgolion yn dda, yn enwedig yn y sector cynradd.  

-         Mae Addewid Caerdydd yn parhau i helpu pobl ifanc i gael profiad gwaith, gyda 300 o leoliadau wedi'u sicrhau drwy'r prosiect Beth Nesaf? a phartneriaid ychwanegol gan gynnwys BBC Studios a Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn ymuno â'r fenter, 

 

  • Mae Caerdydd yn lle gwych i dyfu'n hŷn 

-         Mae'r ddarpariaeth gofal i bobl hŷn yn "dda ar y cyfan" medd yr adroddiad, tra bod mynediad at ofal cartref yn cael ei farnu'n "dda iawn" er bod heriau'n parhau, yn enwedig wrth recriwtio gweithwyr cymdeithasol.   

-         Mae'r Gwasanaeth Byw'n Annibynnol (GBA) yn cael ei ganmol am y gefnogaeth y mae'n ei chynnig, gyda 98% o bobl yn dweud eu bod yn gallu byw'n annibynnol gartref yn dilyn cyswllt â'r GBA. 

-         Yn dilyn llwyddiant dau gynllun byw â chymorth - Blue Dragon a Llys Maelfryn - disgwylir i gynlluniau pellach ddechrau cyn diwedd y flwyddyn, gan gynnig rhagor o gefnogaeth i bobl sy'n gadael gofal preswyl.      Yn ogystal, mae datblygiad amryw o gynlluniau ar gyfer y tair blynedd nesaf ar y gweill ar gyfer y rheini ag anableddau dysgu ac iechyd meddwl. 

 

  • Cefnogi pobl allan o dlodi

-         Mewn ymateb i'r argyfwng costau byw, mae arlwy cymorth y Cyngor "yn parhau i gael ei ddarparu'n effeithiol" gyda bron i 3,300 o bobl yn cael cymorth gyda Chredyd Cynhwysol rhwng mis Ebrill a mis Medi eleni.    Yn ystod yr un cyfnod, nododd Tîm Cyngor Ariannol y Cyngor fuddion wythnosol ychwanegol o fwy na £10m i'w gleientiaid. Mae hefyd wedi cynnig gwasanaethau hanfodol fel mannau cynnes mewn hybiau cymunedol.

-         Mae cefnogi pobl leol i mewn i waith wedi gwneud cynnydd da. Sicrhaodd tua 620 o bobl waith yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon a llenwyd 1,600 o swyddi'r Cyngor trwy leoliadau gwaith gan Caerdydd ar Waith, ei asiantaeth gyflogaeth fewnol.     Mae'r Cyngor hefyd wedi creu 35 o leoliadau prentisiaeth a hyfforddeion newydd, gan ddod â chyfanswm y Cyngor i 120. 

-         Mae statws Caerdydd fel Dinas Cyflog Byw yn y DU wedi golygu manteision i filoedd o bobl.      Erbyn hyn mae 210 o gwmnïau yn y ddinas sy'n talu'r Cyflog Byw gwirioneddol ac mae nifer y bobl nad ydynt yn ei ennill wedi gostwng o tua 42,000 o bobl yn 2017 i 18,000 o bobl heddiw, gostyngiad o bron i 13%. 

 

  • Cymunedau diogel, hyderus a grymus

-         Mae'r Cyngor yn parhau i fod ar y trywydd iawn i ddarparu 1,000 o gartrefi newydd erbyn mis Rhagfyr 2023, gyda 645 arall wedi'u cynllunio cyn mis Mawrth 2024.

-         Mae'r Cyngor yn parhau i ailddefnyddio cartrefi gwag, ac ar y trywydd iawn o ran cyrraedd ei darged, gyda 46 eiddo wedi'u hadfywio hyd yma. 

-         Mae'r rhwydwaith o lyfrgelloedd a hybiau yn parhau i gael eu gwerthfawrogi'n fawr ac mae llawer yn eu defnyddio, gyda mwy na miliwn o ymwelwyr hyd yma eleni a sgoriau boddhad cwsmeriaid uchel. 

-         Mae'r Cyngor yn defnyddio Cronfa Strydoedd Saffach Llywodraeth y DU i ddarparu ymyriadau ledled y ddinas i ddatrys mannau problemus o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol a chynnal ymarfer ymgysylltu cymunedol manwl yn dilyn marwolaeth dau fachgen yn Nhrelái a'r cythrwfl difrifol a ddilynodd. 

-         Mae'n parhau i chwarae rhan flaenllaw wrth gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches, yn enwedig y rheini o Wcráin (1,200 o unigolion) ac Afghanistan (800).

-         Dangosodd Cyfrifiad 2021 fod nifer y bobl sy'n gallu siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg wedi cynyddu o fwy na 6,500 o bobl (23%) ers 2011, y cynnydd rhifol neu ganrannol mwyaf ar draws holl awdurdodau lleol Cymru.  

 

  • Prifddinas sy'n gweithio dros Gymru 

-         Y llynedd, dyrannwyd £42m i Gaerdydd dros 2½ flynedd o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a fydd yn helpu i ariannu amrywiaeth o fentrau cymorth busnes lleol, trafnidiaeth, sgiliau a diogelwch cymunedol.   Yn ogystal, mae'r Cyngor hefyd wedi sicrhau £50m o'r Gronfa Ffyniant Bro i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn y ddinas, wedi'i ariannu yn gyfatebol gan grant gwerth £50m gan Lywodraeth Cymru. 

-         Mae'r cyngor wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno gŵyl gerddoriaeth ryngwladol yn Nhymor yr Hydref 2024, ac mae Caerdydd wedi'i chadarnhau fel dinas groeso ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop UEFA 2028.

 

  • Caerdydd Un Blaned  

-         Mae gwaith i osod y rhwydwaith gwres (gan ddefnyddio Cyfleuster Adennill Ynni Viridor ym Mharc Trident i bweru bron i 70,000 o gartrefi) yn mynd rhagddo'n dda, wrth bod mesurau effeithlonrwydd ynni ôl-osod mewn tai cyngor yn uwch na'r targed. 

-         Mae gwaith yn mynd rhagddo i reoli'r newid i ddinas 20mya ddiofyn, ac mae gwaith dylunio wedi symud ymlaen ar ddatblygu rhwydwaith beicio ar wahân; ym mis Ebrill, penderfynodd y Cyngor ystyried ystod o gynlluniau tâl defnyddwyr ffyrdd.

-         Mae prosiectau gwella aer glân yng nghanol y ddinas wedi gwneud "cynnydd sylweddol", gyda "chynnydd da" wedi ei wneud ar sicrhau gwelliannau i ffyrdd a throedffyrdd Caerdydd.  Yn ogystal, mae 95% o'r rhaglen i ddisodli pob un o'r 24,000 o oleuadau preswyl gyda bylbiau LED ynni isel wedi'i chwblhau. 

 

  • Moderneiddio ac integreiddio ein gwasanaethau cyhoeddus  

-         Er mwyn lleihau costau rhedeg a helpu i leihau targedau allyriadau carbon, mae'r Cyngor wedi cau dwy adain o Neuadd y Sir ac yn ildio Tŷ Willcox ym Mae Caerdydd, gan symud ei weithrediadau i Neuadd y Sir.

-         Mae mwy o ddinasyddion (82,500, cynnydd o 12% dros hanner cyntaf y flwyddyn) yn rhyngweithio â'r Cyngor yn ddigidol trwy Ap Caerdydd.   Mae'r newid digidol wedi helpu'r Cyngor i reoli'r galw ar wasanaethau yn fwy effeithiol gyda nifer y galwadau ffôn yn gostwng o 1,612 y chwarter i 35 yn unig.

-         Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod gweithlu'r Cyngor yn cynrychioli ac yn cynnwys y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Mae Tasglu Cydraddoldeb Hiliol Caerdydd wedi gwneud cynnydd nodedig mewn meysydd gan gynnwys datblygu'r gweithlu, cynyddu cyfranogiad grwpiau lleiafrifoedd ethnig a gwella mynediad at Caerdydd ar Waith a'i welededd ar gyfer grwpiau lleiafrifoedd ethnig.  

Gellir darllen copi o'r adroddiad llawn yma.