Back
Cyngor Caerdydd yn gweithredu argymhellion adfer natur Coed Cadw

19.12.23

Mae Cyngor Caerdydd wedi croesawu papur polisi Coed Cadw a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy'n nodi pwysigrwydd coed a choedwigoedd ar gyfer adfer natur yng Nghymru ac sy'n gwneud pum argymhelliad allweddol ar gyfer awdurdodau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau:   "Mae'r dirywiad cyflym o ran natur yng Nghymru a'r tu hwnt yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn peri pryder mawr ac ers datgan argyfwng natur yn 2021, mae'r Cyngor wedi cymryd camau sylweddol i gefnogi ei adferiad, ac mae eisoes wedi gweithredu, neu wedi dechrau gweithredu, yr holl fesurau y mae'r Coed Cadw yn argymell y dylai awdurdodau lleol eu cymryd."

"Wrth wraidd yr hyn rydyn ni'n ei wneud yw ein prosiect coedwig drefol uchelgeisiol, Coed Caerdydd. Yn rhan o'n dull strategol o reoli coed a choetiroedd, nod y prosiect yw cynyddu gorchudd y canopi coed yng Nghaerdydd o 18.9% i 25% erbyn 2030, trwy blannu ardal o oddeutu 839 hectar gyda rhywogaethau brodorol o goed yn bennaf.

"Rydyn ni wedi cael dechrau gwych, gyda 50,000 o goed wedi'u plannu ar dir y cyngor a rhywfaint o dir preifat dros ddau dymor plannu yn unig - ac mae hynny i raddau helaeth oherwydd y gwirfoddolwyr cymunedol sy'n ein helpu i'w plannu, ond sydd hefyd yn helpu i nodi safleoedd plannu posibl, yn helpu i ddewis y coed, ac yn rhoi cymorth a gofal ychwanegol i'r coed wrth iddynt dyfu. Gyda chymorth Coed Cadw, rydym hefyd yn datblygu Planhigfa Goed yn Fferm y Fforest lle rydym yn lluosogi stoc frodorol o darddiad lleol, y gellir ei phlannu wedyn fel rhan o'r prosiect.

"Ond nid dyna ddiwedd ein cynlluniau. Yn ddiweddar, sicrhawyd £1.3 miliwn o gyllid ar gyfer ein Partneriaeth Natur Leol i helpu i barhau â'n rhaglen o blannu sy'n denu pryfed peillio a chreu ac adfer cynefinoedd bywyd gwyllt. Mewn ymgynghoriad â phreswylwyr, a chyda mewnbwn gan ein swyddogion coed ac ecoleg, rydym wrthi'n datblygu ein Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol a fydd yn nodi ystod o gamau gweithredu sydd eu hangen i helpu i adfer natur yng Nghaerdydd."

"Mae angen i Gaerdydd dyfu er mwyn cefnogi swyddi newydd a darparu cartrefi mawr eu hangen i bobl, ond mae'n bwysig bod twf yn cael ei reoli mewn ffordd gynaliadwy sy'n cynnal natur. Dyna pam, fel rhan o'n Cynllun Datblygu Lleol newydd, mae gennym nod o sicrhau bod pob datblygiad yn cyflawni cynnydd net mewn bioamrywiaeth, ac yn diogelu ymhell dros 5,500 hectar o gefn gwlad a dyffrynnoedd afonydd yn y ddinas rhag cael eu datblygu."

"Ar ben hynny, rydym yn hyfforddi gwirfoddolwyr i nodi coed hynafol a hynod, i helpu i gynyddu dealltwriaeth o dreftadaeth coed y ddinas ac annog eu hamddiffyniad."

Dywedodd Cyfarwyddwr Coed Cadw, Natalie Buttriss: "Rydym yn croesawu'r camau y mae Cyngor Caerdydd yn eu cymryd tuag at gyflawni ein hargymhellion ar gyfer buddsoddi mewn gorchudd coed i gyflawni'r nodau cydberthnasol o adfer natur a lles cymunedol. Edrychwn ymlaen at strategaeth goed a choetiroedd integredig ar gyfer Caerdydd, un sy'n sicrhau'r holl fuddion y mae coed aeddfed yn eu darparu ac sy'n cynyddu gorchudd coed, yn enwedig yn y rhannau hynny o'r ddinas gyda sgôr ecwiti coed isel."

Argymhellion Coed Cadw ar gyfer Awdurdodau Lleol yw:

  1. Datgan argyfwng natur wrth baratoi ar gyfer Deddf Natur Gadarnhaol ac ymgorffori yn Strategaeth Coed a Choetir y Cyngor y camau sydd eu hangen i adfer natur.
  2. Cyflogi ecolegydd arbenigol a swyddog coed i sicrhau bod bioamrywiaeth wrth wraidd pob penderfyniad.
  3. Darparu mwy o fentrau ar y cyd â sawl tirfeddiannwr, yn enwedig mewn parciau cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNEau), gan ddefnyddio gorchudd coed i helpu i yrru adfer natur ar raddfa tirwedd a chyflawni'r blaenoriaethau a nodwyd mewn Datganiadau Ardal.
  4. Mewn ardaloedd trefol, gwarchod coed a choedwigoedd a chynefinoedd lled-naturiol cysylltiedig, a chefnogi dulliau rheoli cadwraeth gweithredol trwy gymhwyso canllawiau Polisi Cynllunio Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn drwyadl i leihau'r pwysau ar natur.
  5. Cyd-ddylunio a gweithredu strategaethau coed gyda chymunedau - gan ddatblygu dealltwriaeth a gwydnwch cymunedol ar draws pob adran a darparu mwy o fynediad i fyd natur wrth gefnogi ymdrechion i'w adfer.

 

EGLURHAD CYFLYM O RAN COED A CHOETIROEDD CAERDYDD

Yr hyn rydym wedi'i wneud:

  • Datgan argyfwng natur.
  • Cyflogi swyddogion coed ac ecolegydd.
  • Gweithio gyda chymunedau i nodi safleoedd posibl a mathau o goed, ar gyfer plannu.
  • Plannu 50,000 o goed newydd fel rhan o'n prosiect coedwig drefol 'Coed Caerdydd' gyda chymorth gwirfoddolwyr cymunedol sydd hefyd yn darparu gofal ychwanegol ar gyfer y coed wrth iddynt dyfu.
  • Sefydlu Planhigfa Goed newydd yn Fferm y Fforest.
  • Cytuno i amddiffyn ymhell dros 5,500 hectar o gefn gwlad a dyffrynnoedd afonydd yn y ddinas rhag cael eu datblygu fel rhan o'r Strategaeth a Ffefrir ar gyfer ein Cynllun Datblygu Lleol newydd.
  • Hyfforddi gwirfoddolwyr i adnabod coed hynafol a hynod yng Nghaerdydd.

Ein nod:

  • Plannu 30,000 o goed ychwanegol yn ystod y tymor plannu hwn.
  • Cynyddu gorchudd y canopi coed yng Nghaerdydd o 18.9% i 25% erbyn 2030, trwy blannu ardal o oddeutu 839 hectar gyda rhywogaethau brodorol o goed yn bennaf.
  • Tyfu ein cyflenwad ein hunain o goed brodorol lleol o hadau, i'w plannu yng Nghaerdydd.
  • Sicrhau bod pob datblygiad yn cyflawni cynnydd net mewn bioamrywiaeth.
  • Cyhoeddi Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol sy'n nodi'r camau sydd eu hangen i gynnal natur yng Nghaerdydd.