Back
Ardal chwarae Drovers Way yn ailagor ar ôl ei hadnewyddu

11.12.23

Mae ardal chwarae Drovers Way yn Radur wedi ailagor i'r cyhoedd yn dilyn adnewyddu helaeth ar thema dŵr.

Yn addas ar gyfer plant bach, plant iau, a chwarae hygyrch, mae'r ardal chwarae yn cynnwys amrywiaeth o offer sydd newydd gael eu gosod, gan gynnwys:

  • siglenni;
  • mat bownsio;
  • carwsél hygyrch;
  • troellwyr;
  • uned amlddefnydd gyda llithren;
  • teganau sbring; ac
  • elfennau chwarae dychmygol.

Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys wyneb diogelwch rwber newydd, gyda phatrymau crychau a phyllau dŵr arno. Mae palmant a seddi newydd wedi cael eu gosod hefyd.

A playground with a blue circle and a fenceDescription automatically generated

Ardal chwarae Drovers Way ar ei newydd wedd yn Radur.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau:   "Mae ardal chwarae Drovers Way yn gyfleuster pwysig i'r gymuned leol, felly mae'n newyddion da ei bod yn barod ar gyfer gwyliau'r Nadolig ar ôl y gwelliannau hyn."

"Gall cael defnydd o ardal chwarae o ansawdd da, yn agos i'w cartref, wneud gwahaniaeth mawr iawn i deuluoedd. Dyna pam yr ydym yn parhau i fuddsoddi mewn ardaloedd chwarae ledled y ddinas, gan greu mannau diogel, hygyrch a llawn hwyl i blant eu mwynhau."