8/12/23
Mae Caerdydd yn wynebu sefyllfa o argyfwng tai, gyda phwysau eithriadol ar wasanaethau digartrefedd a galw parhaus amdanynt.
Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, mewn cyfarfod diweddar o'r Cyngor Llawn fod y ddinas yn wynebu cyfnod 'anhygoel o heriol', ond nid Caerdydd yw'r unig ddinas i ddioddef. Mae dinasoedd mawr eraill fel Glasgow a Chaeredin hefyd yn datgan argyfwng tai.
"Mae Caerdydd yn llygad storm y mater hwn yng Nghymru," meddai'r Cynghorydd Thorne. "Dyma'r cyfnod mwyaf heriol o ran tai ers degawdau.
"Rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod o hyd i ateb ac mae ystod o gamau gweithredu'n cael eu cynnig i leddfu'r pwysau hyn."
Oherwydd prinder tai fforddiadwy a chan fod perchentyaeth allan o gyrraedd llawer o bobl, mae nifer ddigynsail o deuluoedd ac unigolion yn ddigartref yn y ddinas ac mae angen cymorth gan y Cyngor.
Mae'r Cyngor eisoes wedi cymryd camau i gynyddu argaeledd ac ansawdd llety dros dro yn y ddinas yn ystod y blynyddoedd diwethaf, felly erbyn hyn mae yna tua 1,700 o unedau llety dros dro ar gyfer teuluoedd, unigolion a phobl ifanc. Mae dwy ganolfan ddigartrefedd ychwanegol i deuluoedd wedi cael eu hagor eleni'n unig.
Er gwaethaf y cyflenwad da hwn o lety dros dro, mae'r ddarpariaeth yn llawn a disgwylir i'r pwysau sy'n dod i'r amlwg roi mwy fyth o straen ar wasanaethau yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Does dim ffordd arall o ddisgrifio'r sefyllfa yr ydym ynddi heblaw am argyfwng. Mae ein llety yn llawn ac mae gwasanaethau wrthi'n ddiflino yn cefnogi pobl sydd heb gartref eu hunain.
"Rydyn ni wedi bod dan bwysau ers misoedd bellach ac wedi cymryd camau fel cryfhau gwasanaethau atal digartrefedd a chynyddu adnoddau i symud ymlaen o lety dros dro, ond er gwaethaf atal canran uwch o aelwydydd rhag mynd yn ddigartref, bob mis mae gennym tua 28 yn fwy o deuluoedd yn mynd i lety dros dro nag sy'n gadael i fynd i gartrefi parhaol.
"Mae'r galw am dai fforddiadwy yng Nghaerdydd yn llawer mwy na'r cyflenwad. Mae cost uchel llety rhent preifat yn y ddinas wedi ei gwneud yn anfforddiadwy i lawer o bobl, tra bod perchentyaeth hefyd allan o gyrraedd llawer.
"Yn ogystal â'n cyflenwad da o lety dros dro, rydym yn defnyddio pedwar gwesty i ymdopi â'r niferoedd uchel o deuluoedd sydd angen cefnogaeth, ac mae gwesty arall ar gyfer pobl sengl wedi agor yn ddiweddar iawn, ond nid yw'r mesurau hyn, hyd yn oed, yn ddigon i ddelio â'r galw."
Bydd adroddiad yn amlinellu'r pwysau difrifol hyn ar dai a nifer o gynigion i helpu i leddfu'r sefyllfa frys yn cael ei ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 14 Rhagfyr.
Dywedodd y Cynghorydd Thorne: "Rydyn ni'n gwybod y bydd pwysau'n gwaethygu cyn i bethau wella felly rydyn ni wedi datblygu cynigion i helpu i leihau'r galw gymaint ag y gallwn. Mae hyn yn cynnwys newidiadau i'r ffordd rydym yn cefnogi pobl sydd angen gwasanaethau digartrefedd ar hyn o bryd yn ogystal â chynlluniau i gynyddu faint o lety fforddiadwy sydd gennym ar gael."
Mae'r cynigion y bydd y Cabinet yn eu hystyried yn cynnwys, lle bo'n briodol, cynnig llety rhent preifat y tu allan i Gaerdydd i aelwydydd digartref heb anghenion cymorth lle mae llety'n fwy fforddiadwy, ac ar gyfer tai cymdeithasol, cynnig unrhyw le yn y ddinas i helpu i gynyddu nifer y bobl sy'n symud ymlaen o lety dros dro.
O dan y cynigion, ni fyddai unrhyw ddyletswydd tai yn cael ei derbyn ar gyfer ymgeiswyr lle mae tystiolaeth glir eu bod wedi gwneud eu hunain yn ddigartref yn fwriadol. Byddai pobl dan 21 oed, pobl ifanc sy'n gadael gofal, teuluoedd / menywod beichiog, a'r rhai ag anghenion cymhleth yn cael eu hamddiffyn.
Dywedodd y Cynghorydd Thorne: "Mae gennym dystiolaeth bod rhai unigolion yn ceisio gwasanaethau digartrefedd fel llwybr byr i dai cymdeithasol. Mae hyn yn atal aelwydydd eraill sy'n wirioneddol ddigartref neu sydd ar y rhestr aros gyffredinol â lefelau uchel o angen o ran tai rhag symud ymlaen. Er bod hyn ond yn wir am y lleiafrif o achosion, mae'n bwysig ein bod yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r annhegwch hwn."
Mae'r adroddiad yn cynnwys cynlluniau uchelgeisiol i gyflymu'r gwaith o ddarparu mwy o dai fforddiadwy, gan adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yma i fynd i'r afael â'r galw am dai drwy raglen ddatblygu uchelgeisiol y Cyngor.
Y mis hwn, bydd nifer y cartrefi Cyngor newydd a ddarparwyd fel rhan o'r rhaglen yn rhagori ar 1,000 ac mae gan y rhaglen gyfan y capasiti i greu mwy na 4,000 o gartrefi newydd yn y tymor hwy.
Er mwyn hybu'r cyflenwad o lety fforddiadwy yn gyflymach, mae'r Cyngor yn bwriadu prynu eiddo masnachol mawr newydd yng nghanol y ddinas sy'n addas i'w droi'n lety preswyl ac a fyddai'n darparu mwy nag 84 o gartrefi i deuluoedd, gyda'r cyfle i ddarparu 150 o fflatiau ychwanegol ar dir cyfagos.
Yn ogystal, cynigir ymestyn y defnydd llwyddiannus o gartrefi modiwlaidd arloesol ar safleoedd nad ydynt yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd. Mae disgwyl i hen safle'r Gwaith Nwy yn Grangetown ddarparu 155 o gartrefi modiwlaidd o ansawdd da erbyn mis Ebrill 2024. Bydd y cynnig yn golygu y bydd 350 o gartrefi modiwlaidd newydd pellach yn cael eu darparu ar bedwar safle arall ar draws y ddinas.
Er mwyn darllen yr adroddiad llawn, a fydd hefyd yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Craffu Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol yn ei gyfarfod yn Neuadd y Sir am 4:30pm ar 11 Rhagfyr, ewch i
https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=8212&LLL=1
Bydd y cyfarfod craffu yn cael ei we-ddarlledu'n fyw yma:Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol - Dydd Llun 11 Rhagfyr 2023, 4:30pm - Gwe-ddarllediad Cyngor Caerdydd (public-i.tv)
ARGYFWNG TAI CAERDYDD - ESBONIAD CYFLYM
Beth rydym wedi'i wneud
Rydym yn bwriadu