Back
Sky i agor Hyb Digidol Sky Up cyntaf yng Nghymru mewn partneriaeth â Gwasanaethau Ieuenctid Cyngor Caerdydd


8/12/23

Mewn partneriaeth â Gwasanaethau Ieuenctid Cyngor Caerdydd, mae Sky wedi agor ei hyb digidol cyntaf i Gymru, yng Nghanolfan Ieuenctid Eastmoor yn y Sblot. Mae'r hyb yn darparu mynediad i 27 o ddyfeisiau digidol newydd, cysylltiad WiFi Sky am ddim a gweithdai sgiliau digidol rheolaidd, sy'n cael eu cynnal gan wirfoddolwyr.

 

  • Bydd yr Hyb Digidol newydd yng Nghanolfan Ieuenctid Eastmoor yn rhoi mynediad i bobl ifanc i gysylltiad WiFi Sky am ddim ac amrywiaeth o ddyfeisiau technoleg newydd gan gynnwys Sky Glass TV, cyfrifiaduron llechen, gliniaduron a mwy. 
  • Bydd gwirfoddolwyr o Wasanaethau Ieuenctid Cyngor Caerdydd a Sky yn cynnal rhaglenni uwchsgilio digidol rheolaidd. 
  • Mae cyflwyniad hybiau digidol Sky yn buddsoddi hyd at £100,000 ym mhob lleoliad, fel rhan o'i gronfa Sky Up gwerth £10 miliwn i fynd i'r afael ag allgáu digidol.  

 

Mae'r prosiect yn cynnwys adnewyddu gofod cymunedol Canolfan Ieuenctid Eastmoor lle mae hyd at 150 o bobl ifanc yn mynychu sesiynau a chyrsiau bob wythnos.  Mae'r Sblot wedi cael ei rhestru fel y deuddegfed ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru gyda 42% o blant a phobl ifanc yn byw mewn tlodi.   

 

Yn y seremoni agoriadol swyddogol, torrwyd rhuban gyda'rCynghorydd Peter Bradbury, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc achwaraewr canol cae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a Chapten tîm cenedlaethol Cymru,Aaron Ramseya rododd araith gyweirnod ar bwysigrwydd darparu mannau fel Yr Hyb i helpu cymunedau i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fanteisio ar gyfleoedd newydd.

 

Yn ystod yr agoriad swyddogol rhoddwyd cyfle i westeion archwilio Esports Gaming, cerddoriaeth, codio/rhaglennu, creu digidol, profiadau chwaraeon realiti rhithwir a realiti estynedig.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, Aelod CabinetCyngor Caerdydd dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc:   "Mae Caerdydd wedi ymrwymo ifynd i'r afael ag anghydraddoldeb digidol, lleddfu rhwystrau i addysg a rhagolygon y dyfodol a allai fod yn gysylltiedig â chael eu hallgáu'n ddigidol.   Yn ystod cyfnodau clo'r pandemig, darparwyd dros 30,000 o ddyfeisiau i ysgolion fel y gallai plant a phobl ifanc barhau i ddysgu wrth bod ysgolion ar gau, un o lawer o fentrau sy'n cefnogi cydnabyddiaeth ddiweddar Caerdydd fel Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF gyntaf y DU. 

 

"Mae'r hyb digidol newydd yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth a bydd yn darparu gofod newydd gwych i bobl ifanc o Ganolfan Ieuenctid Eastmoor, ac amrywiaeth o gyfleoedd gan gynnwys technoleg a chysylltedd am ddim.   Yn ogystal â mynd i'r afael â fforddiadwyedd, bydd y rhaglen gyffrous o sesiynau digidol yn helpu i ddatblygu sgiliau a hyder ar gyfer y dyfodol." 

 

Dywedodd Fiona Ball, Cyfarwyddwr Grŵp,Bigger Picture & Sustainability, Sky: "Mae Sky yn canolbwyntio ar helpu pobl yng Nghaerdydd i ddatgloi cyfleoedd newydd gydag offer, hyfforddiant sgiliau a rhaglenni y byddwn yn eu darparu yn yr hyb digidol newyddhwn.  Rydym am helpu pobl o bob oed a chefndir i gysylltu a gwneud yn fawr o'r byd digidol, gan eu galluogi i lwyddo mewn bywyd, boed hynny ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol, hyfforddiant sgiliau neu addysg."

 

Wrth edrych yn ôl ar y digwyddiad, dywedodd Aaron Ramsey:"Roedd yn wych bod yn agoriad yr Hyb Sky Up cyntaf yng Nghymru. Mae'r cymorth y bydd Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd a Sky yn ei ddarparu mor bwysig i bobl ifanc yn y ddinas, gall eu helpu i ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fanteisio ar gyfleoedd cyffrous newydd. 

Rwyf wir wedi mwynhau cwrdd â'r bobl ifanc a'r gwirfoddolwyr ac rwy'n dymuno'r gorau iddynt ar gyfer y dyfodol."

 

Mae'r hyb newydd gwerth £100,000 yn cael ei ddarparu fel rhan o raglen tegwch digidol Sky Up..   Yn 2022, lansiodd Sky ei uchelgais i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb digidol gyda menter tair rhan yn darparu cefnogaeth i chwarter miliwn o bobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol trwy gronfa bwrpasol gwerth £10 miliwn.    Crëwyd Sky Upi sicrhau bod grwpiau sydd fwyaf mewn perygl o allgáu digidol - pobl dan 25 oed a thros 65 oed - yn cael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo.

 

Mae Sky yn bwriadu darparu 100 o hybiau digidol Sky Up erbyn diwedd 2024 gyda'r nod o gynnig adnoddau digidol i gefnogi'r cymunedau mwyaf agored i niwed.  Canolfan Ieuenctid Eastmoor Caerdydd yw'r ganolfan ddigidol gyntaf yng Nghymru, gydag wyth arall ar y gweill yn cynrychioli ymrwymiad newydd Sky i barhau i fuddsoddi yng Nghymru.