Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 08 Rhagfyr 2023

Diweddariad Dydd Gwener, sy'n cynnwys:

  • Nextbike - Cynllun llogi beiciau ar y stryd Caerdydd a Bro Morgannwg i ddod i ben ym mis Ionawr, 2024
  • Adroddiad yn dangos ansawdd aer gwell yng Nghaerdydd - ond mae gwaith i'w wneud o hyd
  • Adolygiad derbyniadau blynyddol i ysgolion - gallwch ddweud eich dweud yn ein hymgynghoriad diweddaraf
  • Adroddiadau diweddaraf Estyn - canmoliaeth a chydnabyddiaeth i Ysgol Gynradd Rhiwbeina ac Ysgol Uwchradd Llanisien

 

Cynllun llogi beiciau ar y stryd Caerdydd a Bro Morgannwg i ddod i ben ym mis Ionawr, 2024

Bydd cynllun llogi beiciau ar y stryd Caerdydd a Bro Morgannwg yn dod i ben o fis Ionawr, ond mae gwaith i gyflwyno gwasanaeth newydd, gwell eisoes ar y gweill.

Hwn oedd un o gynlluniau mwyaf llwyddiannus Nextbike yn y DU o ran defnydd, gyda dwy filiwn o sesiynau llogi ar draws y ddwy sir dros oes y cynllun.

Ond, ochr yn ochr â'i boblogrwydd, gwelwyd digwyddiadau rheolaidd o fandaliaeth a dwyn yng Nghaerdydd - problemau sydd wedi gorfodi'r cynllun i gau.

Roedd Nextbike yn rhedeg yng Nghaerdydd a'r Fro am nifer o flynyddoedd ac yn y cyfnod hwnnw cafodd 3,000 o feiciau eu dwyn neu eu fandaleiddio gan adael dim ond traean o'r fflyd ar gael i'w ddefnyddio. Gwnaeth y difrod parhaus i'r beiciau adael Nextbike, a Chyngor Caerdydd, heb fawr o ddewis ond cau'r cynllun presennol.

Roedd y contract Nextbike i fod i ddod i ben ddechrau 2025 ac roedd Cyngor Caerdydd eisoes wedi dechrau gweithio ar sut y gallai cynllun newydd, gwell edrych.

Mae astudiaeth ddichonoldeb ar y gweill, a bydd y ddau gyngor yn cynnig atebion ar y ffordd orau ymlaen.

Bydd yr astudiaeth hon yn edrych ar gynlluniau ledled y byd, yn ystyried gwelliannau mewn diogelwch a'r dechnoleg ddiweddaraf, ac yn adolygu amrywiaeth o gyflenwyr a modelau gweithredu a noddi gwahanol.

Mae Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg yn gobeithio gallu mynd i'r farchnad yn fuan am gynllun newydd sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Drafnidiaeth a Chynllunio Strategol:  "Er gwaethaf ei heriau, mae cynllun llogi beiciau Caerdydd a'r Fro wedi bod yn gynllun hynod boblogaidd gyda nifer sylweddol o ddefnyddwyr, ac rydym yn diolch i gwsmeriaid ymroddedig a ffyddlon am eu cefnogaeth.

"Rwyf am iddynt wybod mai ein bwriad yw gweld cynllun llogi beiciau newydd yn dychwelyd i'r ddinas cyn gynted â phosibl.

"Mae'r Cyngor yn obeithiol y gallwn ddod o hyd i bartner newydd. Yn y pen draw, mae'n amlwg bod awydd a dyhead am y math hwn o gynllun, ac mae'r niferoedd uchel o ddefnyddwyr yn dyst i hyn. Nawr mae angen i ni ddod o hyd i ffordd ymlaen, gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf, a fydd yn ei gwneud hi'n anoddach i bobl sy'n benderfynol o fandaleiddio neu ddwyn beiciau.

"Mae astudiaeth ddichonoldeb ar y gweill a fydd yn rhoi eglurder i'r Cyngor ar y ffordd orau ymlaen. Bydd yn edrych ar y dechnoleg ddiweddaraf sydd ar gael, gan gynnwys: gwelliannau o ran diogelwch beiciau a'r cynllun; adolygiad o gyflenwyr byd-eang, a modelau gweithredu a noddi gwahanol. Byddwn hefyd yn edrych ar yr holl gyllid grant sydd ar gael. Dylai hyn ein galluogi i fynd i'r farchnad am gynllun newydd sy'n addas ar gyfer y dyfodol."

O ran aelodaeth - bydd pawb yn cael eu had-dalu'n rhagweithiol erbyn diwedd Ionawr.

Darllenwch fwy yma

 

Mae data yn dangos bod ansawdd aer yng Nghaerdydd yn gwella o'i gymharu â lefelau cyn COVID ond mae gwaith i'w wneud o hyd

Mae'r data ansawdd aer ar gyfer 2022 yn dangos bod aer y ddinas yn lanach o'i gymharu â lefelau cyn y pandemig, er ei fod yn derbyn bod mwy o waith i'w wneud mewn ardaloedd penodol o'r ddinas.     

Mae gan y cyngor amrywiaeth o orsafoedd monitro ansawdd aer gwahanol ar draws y ddinas sy'n monitro amrywiaeth o lygryddion, gan gynnwys Nitrogen Deuocsid (NO2) a gronynnau bach iawn o lwch a elwir yn Ddeunydd Gronynnol (PM10 a PM2.5).  Yn ôl y gyfraith, gosodir terfynau cyfreithiol ar gyfer pob llygrydd ac mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i'w monitro ac adrodd ar eu canfyddiadau, ynghyd â mesurau lliniaru, i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.

Mae'r data'n dangos nad oedd unrhyw achosion o dorri amcanion ansawdd aer yn unrhyw un o'r safleoedd monitro yn ystod 2022 ac er bod y lefelau NO2 ychydig yn uwch nag yn 2021, mae hyn yn ddealladwy oherwydd y cyfyngiadau COVID a oedd ar waith bryd hynny. 

Ar hyn o bryd mae gan Gaerdydd bedair Ardal Rheoli Ansawdd Aer (ARhAA) mewn wardiau ar draws y ddinas.  Amlygwyd yr ardaloedd hyn fel rhai sy'n peri pryder, gan fod cyfartaledd blynyddol llygryddion hysbys yn hanesyddol wedi torri neu'n agos at y terfyn cyfreithiol.  

Ar hyn o bryd maen ARhAAau ar waith yng nghanol y ddinas, Stephenson Court (Heol Casnewydd), Pont Elái a Llandaf.   Mae'r data diweddaraf yn dangos bod llygredd aer ym mhob un o'r ARhAAau yng Nghaerdydd yn parhau i wella, ac mae crynodiadau yn is na'r gwerthoedd terfyn a ganiateir yn gyfreithiol ar gyfer NO2.  

Dywedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth yng Nghyngor Caerdydd:   "Ansawdd aer gwael yw'r risg amgylcheddol mwyaf i iechyd y cyhoedd yn y DU, ac ar ôl ysmygu, yr ail fygythiad mwyaf i iechyd y cyhoedd.   Mae tystiolaeth glir i ddangos bod dod i gysylltiad â llygredd aer yn lleihau disgwyliad oes ac yn cynyddu'n sylweddol y risg o farw o glefyd y galon, strôc, clefydau anadlol, canser yr ysgyfaint a chyflyrau eraill. 

"Mae'r astudiaeth ddiweddaraf i lygredd aer yng Nghaerdydd yn dangos bod trigolion wedi mwynhau aer glanach ledled y ddinas gydol 2022 o gymharu â ffigyrau cyn y pandemig yn 2019.  Er bod y data hwn yn galonogol, mae mwy o waith i'w wneud.   Mae angen i ni barhau i leihau lefelau llygryddion.   Os ydyn ni am i bobl fod yn iachach, mae'n rhaid i ni annog pobl i fod yn llai dibynnol ar eu ceir, ac i wneud y newid i drafnidiaeth gyhoeddus, beicio neu gerdded.   Nid yn unig y bydd o fudd i iechyd pobl ond bydd yn helpu'r ddinas i leihau ein hôl troed carbon wrth i ni geisio brwydro yn erbyn newid hinsawdd. 

"Ynghyd ag allyriadau diwydiant, allyriadau cerbydau, yn enwedig o gerbydau disel, yw'r ffactor sy'n cyfrannu fwyaf at ansawdd aer gwael mewn dinasoedd ledled y DU.  Er mwyn mynd i'r afael â'r broblem ehangach o allyriadau o geir, mae'r cyngor wedi cytuno i'r egwyddor o godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd, a fydd yn newid y darlun yn llwyr, gan y bydd yn rhaid i bobl wneud ymdrech fwy ymwybodol p'un a ydynt am ddefnyddio eu car ai peidio.  Bydd ymgynghoriad cyhoeddus helaeth ar hyn, a bydd cyfres o fesurau yn cael eu cyflwyno cyn gweithredu unrhyw dâl, gan gynnwys cyflwyno tocynnau bws £1 ar lwybrau allweddol, gwasanaethau bysus gwell ac estynedig, darparu cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd a gwella cymudo rhanbarthol.  Byddai'r arian a godwyd - ochr yn ochr â chyfraniadau ariannol y Llywodraeth - yn cael ei fuddsoddi yn rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Caerdydd."

Darllenwch fwy yma

 

Trefniadau Derbyn i Ysgolion yng Nghaerdydd ar gyfer 2025/26

Mae ymgynghoriad yn fyw sy'n gyfle i bobl ddysgu am newidiadau arfaethedig i Drefniadau Derbyn i Ysgolion Cyngor Caerdydd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025-2026

Mae gofyn i Awdurdodau Lleol adolygu eu Trefniadau Derbyn i Ysgolion yn flynyddol.  Mae'r newidiadau arfaethedig i drefniadau 2025/26 yn cynnwys:

  • Dileu'r adran ar blant sy'n derbyn datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)
  • Eglurhad ar drefniadau derbyn i ysgolion cydlynol
  • Eglurhad ar newid ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd
  • Gwybodaeth am y trefniadau derbyn ar gyfer Ysgol Gynradd Groes-wen
  • Eglurhad ar seiliau meddygol/cymdeithasol cymhellol
  • Ychwanegu paragraff ar frodyr a chwiorydd yn yr un flwyddyn ysgol nad ydynt yn frodyr a chwiorydd genedigaeth luosog
  • Eglurhad ar gyflwyno dogfennau sy'n ymwneud â chyfeiriad cartref Plentyn

Mae'r cyfnod ymgynghori yn rhedeg tan ddydd Gwener, 19 Ionawr 2024.

Mae manylion yr ymgynghoriad ar gael i'w gweld ar wefan y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen yma:

www.caerdydd.gov.uk/trefniadauderbyn

Gall aelodau'r cyhoedd roi eu barn drwy e-bostio ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk  neu drwy'r post i'r Tîm Cynllunio Trefniadaeth Ysgol, Ystafell 463, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW.

 

Canmol Ysgol Gynradd Rhiwbeina am ei hymrwymiad i ragoriaeth mewn addysg gan Estyn

Mewn arolygiad diweddar a gynhaliwyd gan Estyn, Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, cafodd Ysgol Gynradd Rhiwbeina yng Nghaerdydd ei chydnabod am ei hymrwymiad i ragoriaeth mewn addysg a'i hamgylchedd dysgu bywiog.

Canfu arolygwyr fod ymrwymiad yr ysgol i ddarparu addysg o ansawdd uchel yn amlwg drwy gydol yr asesiad gydag uchafbwyntiau cadarnhaol yn cynnwys:

  • Cynnydd Academaidd: Mae staff yr ysgol yn meithrin amgylchedd dysgu bywiog lle mae bron pob disgybl yn gwneud cynnydd cryf o'u mannau cychwyn unigol.
  • Arloesi Cwricwlwm:  Mae athrawon yn cael eu canmol am gynllunio cwricwlwm cyffrous sy'n ymgorffori safbwyntiau myfyrwyr ac sy'n defnyddio'r gymuned leol yn effeithiol.
  • Treftadaeth a Diwylliant Cymru:  Mae'r ysgol yn darparu cyfleoedd buddiol i ddisgyblion ddysgu am dreftadaeth a diwylliant Cymru.
  • Arweinyddiaeth a Llywodraethu: Mae arweinwyr ysgolion yn sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion diwygio cenedlaethol, ac mae'r Pennaeth yn monitro cynnydd ac addysgu disgyblion yn ddiwyd.  
  • Rhagoriaeth Addysgu:  Mae'r addysgu ar draws yr ysgol yn gryf ar y cyfan, gyda datblygiad proffesiynol priodol ar gyfer staff. 
  • Llywodraethu a Rheoli Cyllideb:  Mae llywodraethwyr yn gweithio'n agos gyda'r Pennaeth i reoli cyllideb yr ysgol yn effeithiol, gan sicrhau adnoddau priodol ar gyfer dysgu ac addysgu.

Cymeradwyodd arolygwyr ddefnydd yr ysgol o ddrama a dulliau creadigol a ganfuwyd ganddynt i wella sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol.    Mae Estyn wedi cydnabod hyn fel maes arfer gorau ac wedi gwahodd yr ysgol i baratoi astudiaeth achos, i'w defnyddio fel adnodd ar wefan Estyn. 

Gan fyfyrio ar yr adroddiad, dywedodd y Pennaeth, Carol Harry:  "Mae ein hymagwedd ysgol 'Gyda'n gilydd mae pawb yn cyflawni mwy' yn cael ei adlewyrchu'n dda iawn drwy gydol yr adroddiad. Mae sylwadau Estyn yn dyst i frwdfrydedd y disgyblion dros ddysgu ac ymrwymiad yr holl staff, yn staff addysgu a chymorth, i roi'r dechrau gorau posibl i'n disgyblion ar eu taith ddysgu.   Hefyd, i ymrwymiad llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned leol, am eu cefnogaeth a'r cyfleoedd a ddarperir i wella pob agwedd ar ddysgu ein disgyblion.

"Gyda'n gilydd rydym yn cyflawni ein gweledigaeth i ddarparu amgylchedd dysgu diogel, hapus ac ysbrydoledig, gan rymuso pob dysgwr i gaffael y sgiliau a'r wybodaeth ar gyfer dysgu yn y dyfodol mewn byd sy'n newid yn gyflym."

Darllenwch fwy yma

 

Mae Ysgol Uwchradd Llanisien yn cael ei chydnabod am ragoriaeth gynhwysol gan Estyn

Mae Ysgol Uwchradd Llanisien yng Nghaerdydd wedi derbyn canmoliaeth gan Estyn am ei hymrwymiad i ddarparu amgylchedd dysgu bywiog a chynhwysol i 1694 o ddisgyblion yr ysgol.

Yn ystod ymweliad gan Arolygiaeth Addysg Cymru, canmolwyd yr ysgol am ei hymroddiad i sicrhau llwyddiant pob disgybl a chymryd camau pendant i leihau effaith tlodi.

Canfu'r arolygwyr fod yr ysgol yn darparu ystod eithriadol eang o weithgareddau allgyrsiol, gan feithrin cymuned gynhwysol a chodi dyheadau myfyrwyr.  Nodwyd hefyd bod perthnasoedd gwaith cadarnhaol rhwng staff a myfyrwyr yn cyfrannu at amgylchedd dysgu parchus a diddorol, gyda'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn ymddwyn yn dda ac yn dangos lefelau uchel o barch at staff a chyfoedion.

Amlygodd Estyn fod athrawon yn ennyn diddordeb gan fyfyrwyr yn effeithiol, gan feithrin eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth, ac roedd yn canmol yr ystod amrywiol o bynciau sydd ar gael yng Nghyfnod Allweddol 4 a'r chweched dosbarth, yn ogystal â'r canllawiau sydd ar gael i fyfyrwyr fel y gallant wneud dewisiadau gwybodus am eu dyfodol. Mae'r Cwricwlwm i Gymru a gyflwynwyd yn ddiweddar ym Mlwyddyn 7 a Blwyddyn 8 yn pwysleisio amrywiaeth a chynhwysiant, er bod gwelliannau o ran galw a darpariaeth i datblygu sgiliau a hyfedredd y Gymraeg yn cael eu hargymell.

Mae Estyn wedi gwahodd Ysgol Uwchradd Llanisien i baratoi astudiaeth achos ar ei hymdrechion i leihau effaith tlodi a'i rhaglen gyfoethogi.

Wrth ystyried yr adroddiad, dywedodd y Pennaeth, Mrs Sarah Parry:  "Rwyf mor falch o gymuned fywiog, amrywiol a chynhwysol ein hysgol.  Mae'r cryfderau sy'n cael eu nodi yn yr adroddiad isod yn dangos bod ein cenhadaeth creu amgylchedd cefnogol, cynhwysol sy'n meithrin twf a llwyddiant unigol wedi'i blethu trwy bob agwedd ar ein bywyd ysgol. 

"Hoffwn ganmol ein corff staff anhygoel sy'n gweithio gydag angerdd a gofal bob dydd.   Hoffwn hefyd ddiolch yn ddiffuant i'n myfyrwyr, eu teuluoedd a'n corff llywodraethu am eu cyfraniad i'r ysgol unigryw hon."

Darllenwch fwy yma