Back
Mae data yn dangos bod ansawdd aer yng Nghaerdydd yn gwella o'i gymharu â lefelau cyn COVID ond mae gwaith i'w wneud o h

04/12/23


Mae'r data ansawdd aer ar gyfer 2022 yn dangos bod aer y ddinas yn lanach o'i gymharu â lefelau cyn y pandemig, er ei fod yn derbyn bod mwy o waith i'w wneud mewn ardaloedd penodol o'r ddinas.       

Mae gan y cyngor amrywiaeth o orsafoedd monitro ansawdd aer gwahanol ar draws y ddinas sy'n monitro amrywiaeth o lygryddion, gan gynnwys Nitrogen Deuocsid(NO2) a gronynnau bach iawn o lwch a elwir yn Ddeunydd Gronynnol (PM10a PM2.5).  Yn ôl y gyfraith, gosodir terfynau cyfreithiol ar gyfer pob llygrydd ac mae gan bob awdurdod lleol yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i'w monitro ac adrodd ar eu canfyddiadau, ynghyd â mesurau lliniaru, i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.

Mae'r data'n dangos nad oedd unrhyw achosion o dorri amcanion ansawdd aer yn unrhyw un o'r safleoedd monitro yn ystod 2022 ac er bod y lefelauNO2ychydig yn uwch nag yn 2021, mae hyn yn ddealladwy oherwydd y cyfyngiadau COVID a oedd ar waith bryd hynny. 

Ar hyn o bryd mae gan Gaerdydd bedair Ardal Rheoli Ansawdd Aer (ARhAA) mewn wardiau ar draws y ddinas.  Amlygwyd yr ardaloedd hyn fel rhai sy'n peri pryder, gan fod cyfartaledd blynyddol llygryddion hysbys yn hanesyddol wedi torri neu'n agos at y terfyn cyfreithiol.  

Ar hyn o bryd maen ARhAAau ar waith yng nghanol y ddinas, Stephenson Court (Heol Casnewydd), Pont Elái a Llandaf.   Mae'r data diweddaraf yn dangos bod llygredd aer ym mhob un o'r ARhAAau yng Nghaerdydd yn parhau i wella, ac mae crynodiadau yn is na'r gwerthoedd terfyn a ganiateir yn gyfreithiol ar gyferNO2.  

Yn gynharach eleni, gosododd y cyngor 47 o orsafoedd monitro ansawdd aer ychwanegol ar draws y ddinas.   Cafodd y monitorau eu rhoi mewn ardaloedd o'r ddinas lle mae pryderon am ansawdd aer wedi cael eu hamlygu.  Mae pob un o'r 47 gorsaf fonitro newydd hyn yn dangos, hyd yma yn 2023, na fu unrhyw achosion o dorri safonau ansawdd aer yn y lleoliadau hyn, fel y nodir ym mhob deddfwriaeth berthnasol.  Cyn bo hir, bydd y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn cyhoeddi canlyniadau o'r lleoliadau monitro ychwanegol hyn ar eu gwefan. 

Dywedodd y Cynghorydd Dan De'Ath, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth yng Nghyngor Caerdydd:   "Ansawdd aer gwael yw'r risg amgylcheddol mwyaf i iechyd y cyhoedd yn y DU, ac ar ôl ysmygu, yr ail fygythiad mwyaf i iechyd y cyhoedd.   Mae tystiolaeth glir i ddangos bod dod i gysylltiad â llygredd aer yn lleihau disgwyliad oes ac yn cynyddu'n sylweddol y risg o farw o glefyd y galon, strôc, clefydau anadlol, canser yr ysgyfaint a chyflyrau eraill. 

"Mewn ymateb i heriau llygredd aer, sefydlodd y cyngor Gynllun Aer Glân i leihau lefelau llygryddion a gwella ansawdd aer ar draws y ddinas.   Roedd hyn yn canolbwyntio ar gyflwyno bysus trydan ar gyfer llwybrau sy'n rhedeg i ganol y ddinas, rhaglen ôl-osod bysus i leihau allyriadau cerbydau o'r cerbydau hyn, mesurau lliniaru tacsis, gwelliannau i drafnidiaeth canol y ddinas yn ogystal â'n ffocws parhaus ar wella llwybrau beicio a cherdded. 

"Mae'r mesurau hyn wedi'u gosod neu'n parhau i gael eu gosod, gyda'r newyddion diweddaraf y bydd trwyddedau cerbydau hacni newydd yn cael eu rhoi i gerbydau sydd â'r injan EURO V1 diweddaraf yn unig neu sy'n gerbydau hybrid neu drydan.  

"Mae'r astudiaeth ddiweddaraf i lygredd aer yng Nghaerdydd yn dangos bod trigolion wedi mwynhau aer glanach ledled y ddinas gydol 2022 o gymharu â ffigyrau cyn y pandemig yn 2019.  Er bod y data hwn yn galonogol, mae mwy o waith i'w wneud.   Mae angen i ni barhau i leihau lefelau llygryddion.   Os ydyn ni am i bobl fod yn iachach, mae'n rhaid i ni annog pobl i fod yn llai dibynnol ar eu ceir, ac i wneud y newid i drafnidiaeth gyhoeddus, beicio neu gerdded.   Nid yn unig y bydd o fudd i iechyd pobl ond bydd yn helpu'r ddinas i leihau ein hôl troed carbon wrth i ni geisio brwydro yn erbyn newid hinsawdd. 

"Ynghyd ag allyriadau diwydiant, allyriadau cerbydau, yn enwedig o gerbydau disel, yw'r ffactor sy'n cyfrannu fwyaf at ansawdd aer gwael mewn dinasoedd ledled y DU.  Er mwyn mynd i'r afael â'r broblem ehangach o allyriadau o geir, mae'r cyngor wedi cytuno i'r egwyddor o godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd, a fydd yn newid y darlun yn llwyr, gan y bydd yn rhaid i bobl wneud ymdrech fwy ymwybodol p'un a ydynt am ddefnyddio eu car ai peidio.  Bydd ymgynghoriad cyhoeddus helaeth ar hyn, a bydd cyfres o fesurau yn cael eu cyflwyno cyn gweithredu unrhyw dâl, gan gynnwys cyflwyno tocynnau bws £1 ar lwybrau allweddol, gwasanaethau bysus gwell ac estynedig, darparu cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd a gwella cymudo rhanbarthol.  Byddai'rarian a godwyd - ochr yn ochr â chyfraniadau ariannol y Llywodraeth - yn cael ei fuddsoddi yn rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Caerdydd."

Bydd yr Adroddiad Monitro Ansawdd Aer Lleol ar gyfer 2022 yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol ar 7 Rhagfyr, a bydd papurau yn cael eu cyhoeddiymaddydd Gwener 1 Rhagfyr.  Gellir dilyn gwe-ddarllediad o'r pwyllgoryma.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn cymryd yr adroddiad yn ei gyfarfod ar ddydd Iau 14 Rhagfyr. Mae'r agenda ar gael yma:Gweld y cyfarfodydd - Cabinet : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk)

Gellir gweld y cyfarfod yma:https://cardiff.public-i.tv/core/portal/home