Sefydlwyd yr Academi Atgyweiriadau Ymatebol y llynedd
gyda'r nod o 'dyfu' gweithlu cynnal a chadw y Cyngor ei hun. Mae wedi cyflogi
nifer o hyfforddeion a phrentisiaid sydd, ar ôl hyfforddiant mewn crefftau
gwahanol a gweithio gyda mentoriaid cymwys, wedi dewis arbenigo mewn meysydd
fel gwaith coed, plymio, paentio ac addurno, a phlastro.
Ar hyn o bryd mae gan y Cyngor chwe phrentis, ynghyd â
phum person sydd ar hyfforddeiaeth dwy flynedd a all arwain at gwrs rhan-amser
pedair blynedd wedi’i noddi yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro i ennill cymhwyster
proffesiynol. Mae rheolwyr y Cyngor yn gobeithio cyflogi mwy o recriwtiaid
newydd y flwyddyn nesaf ar gyflog cychwynnol o tua £19,100. Dilynwch y ddolen hon am
ragor o wybodaeth/swyddi gwag.
Mae'r gwasanaeth Atgyweiriadau Ymatebol yn cynnal stoc
dai'r Cyngor (tua 14,000 o gartrefi), gan gynnwys atgyweirio drysau a
ffenestri, gosod ceginau a chynnal a chadw trydanol. Y llynedd, cyflawnodd y
gwasanaeth tua 50,000 o dasgau, ynghyd â 5,700 arall y tu allan i oriau.
Ymhlith y rhai sydd wedi ymuno â thîm y Cyngor drwy'r
Academi Atgyweiriadau Ymatebol mae Connor Jones a Connor Evans, y ddau yn 25
oed, o Gaerau.
"Fe wnes i gais ym mis Hydref y llynedd i fod yn
weithredwr cynnal a chadw ac yn y pen draw roeddwn yn arbenigo mewn gwaith
coed," meddai Connor Jones, a oedd wedi gweithio i gwmni yn adeiladu
golygfeydd theatrig. "Dechreuais wneud gwaith trwsio llai yng nghartrefi'r
Cyngor, ond gyda chefnogaeth y tîm fe wnes i gais i ddod yn grefftwr medrus,
gan arbenigo mewn gwaith coed, a chael y swydd.
"Dwi nawr yn gweithio ar fy mhen fy hun lot o'r
amser," meddai, "cwrdd â llawer o wahanol bobl a gwneud llawer o
bethau gwahanol bob dydd. Rwy'n ei fwynhau'n fawr a byddwn yn argymell yr
Academi i unrhyw un sydd eisiau dysgu crefft fedrus."
Roedd Connor Evans yn dasgmon hunangyflogedig pan wnaeth
gais ar-lein ym mis Ebrill am hyfforddeiaeth, gan obeithio y byddai'n rhoi mwy
o sicrwydd swydd iddo. "Rwyf wrth fy modd," meddai. "Rwy'n
gwneud gwaith cynnal a chadw cyffredinol, yn cynorthwyo pobl i osod drysau neu
geginau. Rwy'n gweithio gyda phlastrwyr a bricwyr sydd i gyd wedi bod yn
gefnogol ac yn llawer o help, ond rwy'n gobeithio cael fy nghymwysterau gwaith
coed y flwyddyn nesaf."
Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, Aelod Cabinet dros
Dai a Chymunedau Cyngor Caerdydd, ei bod yn falch iawn bod yr Academi
Atgyweiriadau Ymatebol yn profi i fod yn gymaint o lwyddiant. "Rydym wedi
ymrwymo i 'dyfu ein gweithlu ein hunain'," meddai. "Mae'r Academi yn
cefnogi hyfforddeion a phrentisiaid a gweithwyr cynnal a chadw i ddod yn
grefftwyr cymwysedig - mae'n ffordd wych o ddod â chyfleoedd i bobl ar draws
ein cymunedau."