27.11.23
Gofynnir i drigolion Butetown helpu i ddatblygu uwchgynllun newydd ar gyfer Parc y Gamlas drwy rannu eu barn am y parc mewn sesiwn galw heibio a gynhelir ym Mhafiliwn Butetown.
Cynhelir y sesiwn, a fydd yn nodi lansiad ymgynghoriad cymunedol, ddydd Mercher 29 Tachwedd, rhwng 3pm a 7pm.
Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Mae hwn yn fan gwyrdd pwysig i'r gymuned leol ac rydym wir eisiau clywed beth sydd ganddynt i'w ddweud am sut maen nhw'n defnyddio'r parc nawr, a sut maen nhw am ei ddefnyddio yn y dyfodol.
"Dyma gyfle'r gymuned i ddylanwadu ar y dyluniadau yn gynnar yn y broses a byddwn yn annog cynifer o bobl â phosib i gymryd rhan naill ai drwy fynd i'r sesiwn hon, neu drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein pan fydd yn cael ei lansio."
Parc y Gamlas
Cynhelir y sesiwn galw heibio, yr ymgynghoriad a'r ymarfer uwchgynllunio ehangach gan The Urbanists, tîm o Ddylunwyr Trefol, Penseiri Tirlunio a Chynllunwyr sydd wedi'u comisiynu gan Gyngor Caerdydd i baratoi'r uwchgynllun ar gyfer Parc y Gamlas.
Gall trigolion nad ydynt yn gallu bod yn bresennol yn y sesiwn galw heibio gymryd rhan yn yr ymgynghoriad o hyd. Bydd arolwg ar-lein ar gael ar ôl y digwyddiad galw heibio.