22/11/23
Cyhoeddwyd £160 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru yn Natganiad yr Hydref i gynorthwyo twf economaidd dwys yn Ne-ddwyrain Cymru.
Cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Natganiad yr Hydref ddydd Mercher y bydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn cynnal un o Barthau Buddsoddi â ffocws newydd y Deyrnas Unedig mewn pecyn cyllido ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Mae'r pecyn ar y cyd yn werth £160 miliwn dros gyfnod o bump i ddeng mlynedd, a chaiff ei gyflenwi gan Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru o 2024 ymlaen.
Yn ychwanegol at Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, dewiswyd Gogledd Cymru hefyd ar gyfer Parth Buddsoddi yn Wrecsam a Sir Ddinbych. Lleolir y Parth ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ledled Caerdydd sydd â'i chanolfan ymchwil dwys, a Chasnewydd â'i harbenigedd mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd, gyda'r Rhanbarth ehangach wedi'i ddynodi fel Maes Buddiannau.
Y bwriad wrth wraidd y Parthau Buddsoddi yw catalyddu clystyrau twf gwybodaeth-ddwys, potensial uchel ledled y Deyrnas Unedig, gyda phob Parth yn ysgogi twf o leiaf un sector allweddol i'r dyfodol o fysg diwydiannau gwyrdd, technolegau digidol, gwyddorau bywyd, diwydiannau creadigol a gweithgynhyrchu uwch. Yn achos Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, bydd y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd sy'n arwain y byd yn cael ei gynnwys fel rhan o hyn.
Roedd ystyriaethau allweddol gan y ddwy Lywodraeth o ran dyfarnu Parthau Buddsoddi yn cynnwys y dystiolaeth eglur o botensial economaidd, potensial arloesi, sefydliadau angori gwybodaeth cryfion a chryfderau penodol i glystyrau a sectorau cydnabyddedig yn y Rhanbarth.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd, am y cyhoeddiad: "Mae hyn yn newyddion i'w groesawu'n fawr iawn i'r Rhanbarth ac i Gaerdydd. Mae ein prifysgolion yn cynnal galluoedd ymchwil o safon byd, mae gennym sector technoleg ffyniannus, ac mae trefniadau partneriaethau sylweddol eisoes ar waith. Golyga hyn ein bod wedi'n paratoi, ein bod yn barod ac yn gallu gwneud y defnydd gorau o'r cyfle hwn. Caerdydd yw'r sbardun ysgogi economaidd y tu cefn i Gymru, a bydd rôl Caerdydd yn y parthau buddsoddi newydd hyn yn sicrhau bod y Rhanbarth, a Chaerdydd, yn elwa o'r pecyn llywodraethol ar y cyd hwn am flynyddoedd i ddod."
Bwriodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y sylw am y rôl roedd gan y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd hollbwysig yn ardal Casnewydd: "Sefydlodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd glwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd yng Nghasnewydd, ac mae'r statws ‘cyntaf i'r farchnad' hwn wedi golygu bod y Rhanbarth yn mynd â bryd Llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig, ill dwy, o ran arloesi a buddsoddi. Rwyf wrth fy modd y daw'r Parth Buddsoddi i ardal De-ddwyrain Cymru, ac edrychwn ymlaen at lewyrch yn y dyfodol y bydd hyn yn ei gynhyrchu."
Wrth gloi, dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chadeirydd Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: "Mae hyn yn newyddion gwych i'r Rhanbarth ac i economi Cymru yn gyffredinol. Mae cael dau o'r Parthau Buddsoddi newydd hyn wedi'u lleoli yng Nghymru yn dangos mor ddwfn a llydan yw'n galluoedd. Gallwn ystyried y cyhoeddiad hwn fel arwydd o hyder yn yr uchelgais a'r doniau ledled y deg Awdurdod Lleol sy'n ffurfio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraethau'r Deyrnas Unedig a Chymru ynglŷn â hyn."