Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 21 Tachwedd 2023

Dyma'r diweddaraf, gan gynnwys:

  • Ehangu Rhaglen Urddas Mislif - cyflwyno'r ddarpariaeth i fwy o blant ysgol a phobl ifanc yn dilyn ei lansio yn 2019
  • Asesiad blynyddol o'r gwasanaeth llyfrgelloedd - mae adroddiad cenedlaethol newydd yn canfod bod llyfrgelloedd Caerdydd yn perfformio'n gryf
  • Adnewyddu ffyrdd carbon sero - Ffordd Pengam wedi'i hailwynebu gan ddefnyddio technegau carbon sero newydd
  • Ddiwrnod Plant y Byd - mae Caerdydd yn myfyrio ar ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF gyntaf erioed y DU a beth mae hyn yn ei olygu i chi

 

Ymestyn Rhaglen Urddas Mislif

Bydd rhaglen Cyngor Caerdydd i hyrwyddo urddas mislif yn cael ei ehangu ymhellach.

O ddechrau'r tymor newydd, mae nicers mislif amldro wedi bod ar gael i ddysgwyr mewn ysgolion cynradd, yn rhad ac am ddim.

Yn ogystal â bod yn opsiwn eco-gyfeillgar rhagorol, mae nicers mislif yn boblogaidd gyda phobl ifanc oherwydd eu bod mor hawdd i'w defnyddio, yn ogystal â'r ffaith eu bod yn eu paratoi ar gyfer eu mislif cyntaf.

Mae nicers mislif eisoes ar gael yn ysgolion uwchradd Caerdydd, ynghyd ag amrywiaeth ehangach o opsiynau eco-gyfeillgar ac amldro.

Ers 2019, mae menter urddas mislif Caerdydd wedi gweld buddsoddiad o bron i £1.5 miliwn, gan ddarparu nwyddau mislif am ddim i'r rhai sydd eu hangen. Nod y fenter yw helpu i fynd i'r afael â stigma ac ymdrin â thlodi mislif mewn cymunedau, tra'n gwella cyfleusterau mewn ysgolion i sicrhau urddas i ddysgwyr.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry:  "Mae rhaglen urddas mislif Caerdydd wedi mynd o nerth i nerth a thros y pum mlynedd diwethaf, mae cannoedd ar filoedd o nwyddau mislif wedi cael eu dosbarthu i ysgolion, gan helpu i leddfu rhwystrau i addysg a mynd i'r afael â materion fforddiadwyedd."

Mae'r rhaglen, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi cyfrannu at gydnabod Caerdydd fel Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF, lle mae barn a blaenoriaethau plant yn greiddiol i benderfyniadau.

Darllenwch fwy yma

 

Perfformiad cryf Caerdydd mewn asesiad blynyddol o'r gwasanaeth llyfrgell

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Caerdydd yn perfformio'n gryf i ddiwallu anghenion ei gwsmeriaid gydag ymrwymiad clir i iechyd a lles, yn ôl adroddiad cenedlaethol newydd.

Bob blwyddyn, mae gwasanaethau llyfrgelloedd ledled Cymru yn cael eu hasesu yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru ac unwaith eto, mae darpariaeth Caerdydd wedi'i chanmol am y gwasanaethau o'r safon uchaf a ddarperir i drigolion ledled y ddinas.

Mae'r fframwaith safonau yn cynnwys hawliau craidd, dangosyddion ansawdd gyda thargedau, dangosyddion ansawdd gyda meincnodau a mesurau effaith.  Mae Caerdydd wedi bodloni 12 hawl graidd y safonau yn llawn ac o'r 10 dangosydd ansawdd sydd â thargedau, mae'n cyflawni naw yn llawn ac un yn rhannol.

Adroddodd yr asesiad blynyddol fod Caerdydd yn darparu ystod eang o weithgareddau a gwasanaethau i gefnogi cymunedau amrywiol y ddinas, ac yn benodol, mae ymrwymiad cryf i iechyd a lles yn y ddinas, gan raddio yn chwartel uchaf awdurdodau llyfrgell o ran oedolion sy'n teimlo bod y llyfrgell yn gwneud gwahaniaeth wrth ddatblygu sgiliau, iechyd a lles.

Mae'r ddinas yn chwartel uchaf gwasanaethau llyfrgell o ran nifer yr ymweliadau ac ymweliadau rhithwir y pen ac er nad yw nifer yr ymweliadau corfforol â llyfrgelloedd y ddinas wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig, mae ymweliadau rhithwir wedi cynyddu'n sylweddol, gyda'r galw am ddeunyddiau darllen digidol yn parhau i godi'n gyflym.

Mae adnoddau plant yn cael eu cydnabod fel blaenoriaeth i'r gwasanaeth, sy'n cynnig rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau i blant gyda gweithgareddau ar draws yr ystod oedran.

Mae Canolfan Rhiwbeina, a agorodd yn gynharach eleni ar ôl ei hadnewyddu, yn cael ei hamlygu fel enghraifft o le cymunedol bywiog tra bod rhaglen y gwasanaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau i oedolion mewn hybiau cymunedol yn helpu i fynd i'r afael ag ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd.

Mae gan lyfrgelloedd a hybiau Caerdydd fwy o gyfrifiaduron y pen na chyfartaledd Cymru ac mae cyflwyniadau diweddar i gyfleusterau yn cynnwys argraffu WiFi ac ap fideo arwyddo sy'n caniatáu i gwsmeriaid byddar gyfathrebu'n uniongyrchol â chyfieithwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:  "Rydym wrth ein bodd gyda'n perfformiad yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru ac mor falch bod ein pwyslais cryf ar ddarparu gwasanaeth sy'n ceisio hybu iechyd a lles pobl yn cael ei gydnabod cystal yn yr adroddiad."

Darllenwch fwy yma

 

Treialu dull newydd yng Nghaerdydd o ail osod wyneb ffyrdd heb unrhyw effaith carbon na mesurau gwrthbwyso carbon

Mae wyneb newydd wedi ei rhoi ar Heol Pengam yn y Sblot, Caerdydd, gan ddefnyddio techneg arloesol newydd i sicrhau bod y deunyddiau a ddefnyddir yn garbon sero - heb yr angen i blannu coed i 'wrthbwyso'r' effaith carbon.

Mae rhan 877m² o Heol Pengam wedi cael wyneb newydd gan ddefnyddio cymysgedd haen arwyneb sy'n cynnwys agregau dur slag a Bio-olosg, gan ymgorffori ac ymwreiddio pwysau cyfatebol carbon wedi'i naturioli i'r arwyneb, gan arbed dros 4.5 tunnell o allyriant carbon.

Y cynhwysyn allweddol i'r dull newydd hwn o ailosod wyneb ffyrdd yw Bio-olosg, sef sgil-gynnyrch i'r dechnoleg trin gwastraff, Pyrolysis.  Mae pob deunydd organig (pren, bwyd, compost, carthffosiaeth) yn diraddio'n naturiol, gan ryddhau ei holl garbon i'r atmosffer yn y pen draw.  Mae Pyrolysis yn defnyddio triniaeth wres ar 500 a 600 Gradd Celsius heb ocsigen, sy'n dal a storio'r Bio-nwy, Nwy Synthesis a Bio-olosg mewn deunydd organig. Mae gan y Bio-olosg sy'n deillio o hyn elfen carbon sefydlog uchel, sydd yn ei dro yn cael ei hymgorffori i'r deunydd arwyneb newydd i roi'r effaith carbon negatif.

Gan weithio'n agos gyda'n contractwr Miles Macadam, mae'r cyngor yn treialu'r deunydd unigryw hwn ac amrywiadau ar y dyluniad, oherwydd po fwyaf o fio-olosg sy'n cael ei ychwanegu at y gymysgedd, yr isaf fydd effaith carbon y deunyddiau a ddefnyddir. Os ychwanegir digon o Bio-olosg at y cynnyrch, gallai effaith elfennau eraill sy'n rhan o'r broses, fel cludo'r deunyddiau, hefyd ddod yn garbon niwtral yn ddiofyn.  Unwaith eto, os defnyddir y system hon ym mhob gwaith ailosod wyneb ffyrdd, byddai'n arwain at arbedion carbon sylweddol ar draws y ddinas ac yn genedlaethol.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Dan De'Ath:  "Mae'r cyngor yn parhau â'n taith i leihau effaith carbon gwasanaethau'r cyngor, ac mae hon yn enghraifft wych o sut y gallwn leihau effaith carbon ailosod wyneb ein ffyrdd.  Newid hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf sy'n wynebu ein planed a rhaid cymryd camau i leihau faint o garbon sy'n cael ei gynhyrchu yn ein bywydau bob dydd.   Mae'r gostyngiad mewn carbon yn y diwydiant petrocemegol, sy'n cynnwys ailosod wyneb ffyrdd, yn dipyn o gamp ac rydym bellach yn edrych ar sut i leihau'r effaith carbon ymhellach, fel y gallwn ailosod wyneb ffyrdd heb unrhyw effaith carbon na mesurau gwrthbwyso carbon."

Darllenwch fwy yma

 

Ar Ddiwrnod Plant y Byd mae Caerdydd yn myfyrio ar ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF gyntaf erioed y DU a beth mae hyn yn ei olygu i chi

I gyd-fynd â Diwrnod Plant y Byd, bydd baner Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF yn cael ei hedfan o fastiwn yng Nghastell Caerdydd wrth i Brifddinas Cymru fyfyrio ar gyhoeddiad balch y mis diwethaf fod y ddinas wedi'i datgan yn swyddogol yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF - y gyntaf yn y DU.

Mae'r statws clodfawr a gydnabyddir yn fyd-eang wedi'i ddyfarnu i gydnabod y camau y mae'r cyngor a'i bartneriaid wedi'u cymryd dros y pum mlynedd ddiwethaf i ddatblygu hawliau dynol plant a phobl ifanc ledled y ddinas.

Beth mae cydnabyddiaeth Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF yn ei golygu i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd sy'n byw yng Nghaerdydd?

I blant, mae Caerdydd sy'n Dda i Blant yn golygu bod y ddinas wedi'i chynllunio i wneud eich bywyd yn well ac yn fwy o hwyl. O'r gallu i chwarae'n ddiogel yn yr awyr iach i ysgolion sy'n eich dysgu am y pethau sy'n bwysig i chi, mae Caerdydd bob amser yn gweithio i sicrhau y gallwch chi fod yn hapus, dysgu llawer, a theimlo'n ddiogel. Rydym am i chi wybod am yr hawliau sydd gennych chi, teimlo bod rhywun yn gwrando arnoch chi, a gallu cyfrannu at benderfyniadau ar bethau sy'n bwysig i chi.

I ddysgu am y cyfleoedd sydd ar gael i ddweud eich dweud ar y materion sy'n bwysig i chi, ewch i  CaerdyddSynDdaiBlant@caerdydd.gov.uk 

I bobl ifanc, mae Caerdydd sy'n Dda i Blant yn golygu bod eich dinas yn gwrando arnoch chi, yn gwerthfawrogi eich barn, ac yn gweithio i wneud eich bywyd yn well. O ysgolion sy'n eich dysgu am eich hawliau i fyrddau ieuenctid sy'n eich cefnogi i ddweud eich dweud ar bolisïau iechyd, mae Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau eich bod chi a'ch ffrindiau'n cael y cyfleoedd a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch i ffynnu. Rydym am i chi gael dweud eich dweud ar sut mae Caerdydd yn edrych a theimlo i bobl ifanc sy'n byw yma.

Os ydych chi'n 11 oed neu hŷn ac â diddordeb mewn ymuno â Chyngor Ieuenctid Caerdydd, e-bostiwch  CyngorIeuenctidCaerdydd@caerdydd.gov.uk.  Gallwch hefyd fynd i  CaerdyddSynDdaiBlant@caerdydd.gov.uk  i ddysgu am y cyfleoedd sydd ar gael i ddweud eich dweud ar y materion sy'n bwysig i chi.

I rieni / gwarcheidwaid, mae'n golygu nad yw'r ddinas wedi'i hadeiladu ar gyfer oedolion yn unig - yn hytrach mae wedi'i chynllunio gyda hawliau, anghenion a dyheadau eich plant wrth ei gwraidd. O addysg ac iechyd i gyfranogiad dinesig a diogelwch, mae Caerdydd wedi ymrwymo i greu amgylchedd lle gall pob plentyn ffynnu - rhywle lle gallwch chi fagu eich teulu yn hyderus.

Darllenwch fwy yma