Back
Y newyddion gennym ni - 20/11/23

Image

17/11/23 - Treialu dull newydd yng Nghaerdydd o ail osod wyneb ffyrdd heb unrhyw effaith carbon na mesurau gwrthbwyso carbon

Mae wyneb newydd wedi ei rhoi ar Heol Pengam yn y Sblot, Caerdydd, gan ddefnyddio techneg arloesol newydd i sicrhau bod y deunyddiau a ddefnyddir yn garbon sero - heb yr angen i blannu coed i 'wrthbwyso'r' effaith carbon.

Darllenwch fwy yma

 

Image

17/11/23 - Perfformiad cryf Caerdydd mewn asesiad blynyddol o'r gwasanaeth llyfrgell

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Caerdydd yn perfformio'n gryf i ddiwallu anghenion ei gwsmeriaid gydag ymrwymiad clir i iechyd a lles, yn ôl adroddiad cenedlaethol newydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

16/11/23 - Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd yn cael ei hagor yn swyddogol

Heddiw, agorwyd Ysgol Uwchradd Fitzalan yn swyddogol gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas a Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Addysg Caerdydd, y Cynghorydd Sarah Merry.

Darllenwch fwy yma

 

Image

16/11/23 - Adnewyddu Marchnad Caerdydd i fynd yn ei flaen yn dilyn cadarnhau'r cyllid llawn

Mae gwaith adnewyddu sylweddol ar Farchnad Ganolog hanesyddol Caerdydd bellach wedi'i ariannu'n llawn, gyda disgwyl i'r gwaith ddechrau yn Haf 2024, ar ôl i Gyngor Caerdydd lwyddo i sicrhau £3.1 miliwn tuag at y prosiect.

Darllenwch fwy yma

 

Image

15/11/23 - Ymestyn Rhaglen Urddas Mislif

Bydd rhaglen Cyngor Caerdydd i hyrwyddo urddas mislif yn cael ei ehangu ymhellach.

Darllenwch fwy yma

 

Image

15/11/23 - Tîm Ceidwaid Parciau Cymunedol yn ennill gwobr 'Tîm y Flwyddyn'

Mae Gwarchodfa Natur Fferm y Fforest yn gartref i las y dorlan, crëyr glas, gweision y neidr, mursennod, clychau'r gog, garlleg gwyllt, coetir hynafol, a nawr, enillwyr 'Tîm y Flwyddyn' Green Flag Parks UK 2023.

Darllenwch fwy yma