Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 17 Tachwedd 2023

Diweddariad Dydd Gwener, yn cynnwys:

  • Gwaith i adfer Marchnad Caerdydd yn cael mynd yn ei flaen - prosiect buddsoddi mawr gwerth £6.5m bellach wedi cael cyllid llawn
  • Ysgol Uwchradd Fitzalan - agorodd y cyfleusterau newydd sbon yn swyddogol yr wythnos hon
  • Gwobr Tîm y Flwyddyn - Parciau Baner Werdd y DU yn enwi ein tîm Ceidwaid Parciau Cymunedol fel tîm gorau 2023 

 

Adnewyddu Marchnad Caerdydd i fynd yn ei flaen yn dilyn cadarnhau'r cyllid llawn

Mae gwaith adnewyddu sylweddol ar Farchnad Ganolog hanesyddol Caerdydd bellach wedi'i ariannu'n llawn, gyda disgwyl i'r gwaith ddechrau yn Haf 2024, ar ôl i Gyngor Caerdydd lwyddo i sicrhau £3.1 miliwn tuag at y prosiect o raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Mae hyn yn dilyn y cyhoeddiad diweddar am grant o £2.1 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.  Bydd gweddill y gwaith adnewyddu yn cael ei ariannu drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a buddsoddiad uniongyrchol gan y Cyngor.

Bydd cyfanswm o tua £6.5 miliwn yn cael ei fuddsoddi i warchod, cadw a diogelu'r farchnad Fictoraidd Restredig Gradd II* 130 oed i'r dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor:  "Mae cadarnhau'r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru yn newyddion gwych. Mae'r Farchnad yn un o adeiladau treftadaeth pwysicaf Caerdydd, yn ogystal â gofod hanfodol yng nghanol y ddinas ar gyfer masnachwyr bach annibynnol.  Bydd unrhyw un sydd wedi ymweld yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn gwybod ei fod yn lle arbennig, gydag awyrgylch unigryw wedi ei gwreiddio mewn 130 mlynedd o hanes. Bydd ein cynlluniau adnewyddu yn cadw ac yn diogelu'r hanes hwnnw ac yn sicrhau y bydd yr adeilad, yr ydym i gyd yn ei hadnabod ac yn ei charu, yn parhau i fod yn galon brysur i'r ddinas am flynyddoedd lawer i ddod."

Darllenwch fwy yma

 

Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd yn cael ei hagor yn swyddogol

Heddiw, agorwyd Ysgol Uwchradd Fitzalan yn swyddogol gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas a Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Addysg Caerdydd, y Cynghorydd Sarah Merry.

Bu staff yr ysgol, disgyblion a llywodraethwyr yn croesawu gwesteion i'r ysgol gan gynnwys gwleidyddion lleol a chynrychiolwyr o Kier a chwaraeodd ran allweddol yn adeiladwaith yr ysgol.

Ariannwyd yr ysgol newydd gwerth £64m ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, drwy'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu.

Mae'r ysgol uwchradd tri llawr yn gallu darparu ar gyfer 1850 o ddisgyblion ac mae'n cynnwys pwll nofio cymunedol a phedair Ardal Gemau Aml-ddefnydd. Mae dau gae 3G ar gael ar gyfer rygbi, pêl-droed a hoci ac mae'r safle hefyd yn cynnwys ardaloedd chwarae caled a meddal yn ogystal â maes parcio i staff ac ymwelwyr. 

Dechreuodd y gwaith adeiladu am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2021 ac mae llysgenhadon o'r ysgol wedi bod yn rhan drwy gydol o broses gan gynnwys ymweld â'r safle yn rheolaidd, cyfrannu eu barn ar yr adeiladu ac adrodd ar gynnydd i fyfyrwyr eraill. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry:  "Mae dathlu agoriad swyddogol yr ysgol newydd yn garreg filltir bwysig i ddisgyblion a staff Fitzalan, yn ogystal â thrawsnewid i'r gymuned leol trwy gyfleoedd newydd sydd ar gael yn yr ysgol.

"Rwyf wedi mwynhau dilyn cynnydd y datblygiad yn agos er gwaethaf yr heriau yn sgil y pandemig, o ddylunio cychwynnol i weld drosof fi fy hun, yr adeilad newydd trawiadol a groesawodd ddisgyblion ddechrau'r tymor.

"Mae'r ysgol newydd, sy'n hwb sylweddol i'r ardal leol, yn enghraifft o adeilad trefol a modern a fydd yn darparu cyfleusterau, cyfleoedd ac amgylcheddau dysgu o ansawdd rhagorol i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol am flynyddoedd i ddod.  Yn ysgol i fod yn falch ohoni, does gen i ddim amheuaeth y bydd dyfodol Ysgol Uwchradd Fitzalan yn parhau i fynd o nerth i nerth."

Darllenwch fwy yma

 

Tîm Ceidwaid Parciau Cymunedol yn ennill gwobr 'Tîm y Flwyddyn'

Mae Gwarchodfa Natur Fferm y Fforest yn gartref i las y dorlan, crëyr glas, gweision y neidr, mursennod, clychau'r gog, garlleg gwyllt, coetir hynafol, a nawr, enillwyr 'Tîm y Flwyddyn' Green Flag Parks UK 2023. 

Yn gweithio mewn hen ffermdy ar gyrion gwarchodfa Fferm y Fforest, Ceidwaid Parciau Cymunedol Caerdydd yw enillwyr diweddaraf y wobr 'Gorau o'r Gorau' hon sy'n dathlu'r timau sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r 2,216 o barciau a mannau gwyrdd yn y DU sydd â Gwobr y Faner Werdd - y safon ansawdd rhyngwladol sy'n cydnabod ac yn gwobrwyo mannau gwyrdd sy'n cael eu rheoli'n dda.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau:  "Mae gan ein tîm Ceidwad Cymunedol gyfoeth o brofiad cadwraeth amgylcheddol ac, ochr yn ochr â gwirfoddolwyr gwych, maen nhw'n chwarae rhan sylweddol wrth reoli'r cyfoeth o wahanol gynefinoedd rydym yn gofalu amdanynt. Mae eu gwybodaeth a'u hangerdd am fyd natur heb ei ail ac rydw i wrth fy modd eu bod wedi cael eu cydnabod gyda'r wobr hon."

Mae'r tîm Ceidwaid Parciau Cymunedol yn rheoli amrywiaeth o gynefinoedd ar Fferm y Fforest, gan gynnwys dolydd blodau gwyllt, coetir, gwrychoedd, gwlyptiroedd, perllan, a phlanhigfa goed newydd, a sefydlwyd fel rhan o raglen plannu coed dorfol Cyngor Caerdydd, Coed Caerdydd.

Maent hefyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau a chyfleoedd gwirfoddoli drwy gydol y flwyddyn gyda'r nod o gynyddu ymgysylltiad y cyhoedd â natur. 

Darllenwch fwy yma