Back
Perfformiad cryf Caerdydd mewn asesiad blynyddol o’r gwasanaeth llyfrgell


17/11/23

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Caerdydd yn perfformio'n gryf i ddiwallu anghenion ei gwsmeriaid gydag ymrwymiad clir i iechyd a lles, yn ôl adroddiad cenedlaethol newydd.

 

Bob blwyddyn, mae gwasanaethau llyfrgelloedd ledled Cymru yn cael eu hasesu yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru ac unwaith eto, mae darpariaeth Caerdydd wedi'i chanmol am y gwasanaethau o'r safon uchaf a ddarperir i drigolion ledled y ddinas.

 

Mae'r fframwaith safonau yn cynnwys hawliau craidd, dangosyddion ansawdd gyda thargedau, dangosyddion ansawdd gyda meincnodau a mesurau effaith.  Mae Caerdydd wedi bodloni 12 hawl graidd y safonau yn llawn ac o'r 10 dangosydd ansawdd sydd â thargedau, mae'n cyflawni naw yn llawn ac un yn rhannol.

 

Adroddodd yr asesiad blynyddol fod Caerdydd yn darparu ystod eang o weithgareddau a gwasanaethau i gefnogi cymunedau amrywiol y ddinas, ac yn benodol, mae ymrwymiad cryf i iechyd a lles yn y ddinas, gan raddio yn chwartel uchaf awdurdodau llyfrgell o ran oedolion sy'n teimlo bod y llyfrgell yn gwneud gwahaniaeth wrth ddatblygu sgiliau, iechyd a lles.

 

"Mae'r gwasanaeth wedi mynd ar drywydd datblygiad nifer o fentrau arloesol sy'n gysylltiedig â lles", medd yr adroddiad, "gan gynnwys sgriniau digidol sy'n dangos gwybodaeth am iechyd a lles; cyfieithu fideos Cancer Research UK i ieithoedd cymunedol; ymgorffori gweithgarwch corfforol mewn amser stori; llyfrgell benthyg offer chwaraeon; a gweithgareddau corfforol i bobl hŷn."

 

Mae'r ddinas yn chwartel uchaf gwasanaethau llyfrgell o ran nifer yr ymweliadau ac ymweliadau rhithwir y pen ac er nad yw nifer yr ymweliadau corfforol â llyfrgelloedd y ddinas wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig, mae ymweliadau rhithwir wedi cynyddu'n sylweddol, gyda'r galw am ddeunyddiau darllen digidol yn parhau i godi'n gyflym.

 

Mae adnoddau plant yn cael eu cydnabod fel blaenoriaeth i'r gwasanaeth, sy'n cynnig rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau i blant gyda gweithgareddau ar draws yr ystod oedran.

 

Mae Canolfan Rhiwbeina, a agorodd yn gynharach eleni ar ôl ei hadnewyddu, yn cael ei hamlygu fel enghraifft o le cymunedol bywiog tra bod rhaglen y gwasanaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau i oedolion mewn hybiau cymunedol yn helpu i fynd i'r afael ag ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd.

 

Mae gan lyfrgelloedd a hybiau Caerdydd fwy o gyfrifiaduron y pen na chyfartaledd Cymru ac mae cyflwyniadau diweddar i gyfleusterau yn cynnwys argraffu WiFi ac ap fideo arwyddo sy'n caniatáu i gwsmeriaid byddar gyfathrebu'n uniongyrchol â chyfieithwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:  "Rydym wrth ein bodd gyda'n perfformiad yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru ac mor falch bod ein pwyslais cryf ar ddarparu gwasanaeth sy'n ceisio hybu iechyd a lles pobl yn cael ei gydnabod cystal yn yr adroddiad.

 

"Mae'r asesiad hwn yn dangos ein bod yn darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i gwsmeriaid yn y ddinas a byddwn yn parhau i wneud gwelliannau. Bydd llesiant yn parhau i fod yn faes ffocws allweddol wrth i ni weithio gyda phartneriaid i gyflawni prosiectau, gan gynnwys therapi llyfrau, Dechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.

 

"Rydym hefyd yn dymuno cyfrannu at les diwylliannol a datblygu casgliadau sy'n cyd-fynd â chymunedau unigol er mwyn sicrhau bod pob cwsmer yn gallu uniaethu â'r casgliadau llyfrau yn eu llyfrgell neu ganolfan leol."