Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 10 Tachwedd 2023

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, yn cynnwys:

  • Mae Caerdydd wedi ei choroni'n 'Ddinas y Flwyddyn' yng Ngwobrau blynyddol EG
  • Newidiadau cyffrous arfaethedig wrth ddarparu Gwasanaethau Gwaith Ieuenctid yng Nghaerdydd
  • Cynghorau'n chwilio am bartner datblygu ar gyfer rhaglen tai fforddiadwy o ansawdd uchel

 

Caerdydd yn ennill Gwobr Dinas y Flwyddyn

Mae Caerdydd wedi ei choroni'n 'Ddinas y Flwyddyn' yng Ngwobrau blynyddol EG, 2023.

Mae gwobrau EG yn dathlu'r pethau gorau oll am y sector eiddo tiriog; gan gynnwys y bargeinion gorau; y datblygiadau gorau; y busnesau gorau; y lleoedd gorau i weithio; y dalent sy'n codi; y rhai sy'n newid y gêm a'r rhai sy'n ysbrydoli. Yn fyr, mae hwn yn ddigwyddiad sy'n dathlu'r holl bethau da y mae eiddo tiriog yn ei wneud.

Cyflwynwyd ceisiadau am y gwobrau gan ystod o sefydliadau'r sector cyhoeddus a phreifat, gan gwmpasu categorïau, gan gynnwys Partneriaethau Cyhoeddus/Preifat; Seren y Dyfodol; Cynaliadwyedd; Effaith Gymdeithasol; Bargen Ranbarthol; Man Gwaith Gorau, a llawer mwy.

Enillodd 'Cyfoethogi Caerdydd' wobr 'Dinas y Flwyddyn', gan gystadlu yn erbyn Cyngor Dinas Birmingham a 'Marketing Derby' ar gyfer y wobr.

Mae'r wobr yn cydnabod gweledigaeth Caerdydd ar gyfer y ddinas a rhaglen adeiladu tai cyngor arloesol Caerdydd, sef y mwyaf yng Nghymru, gan groesawu'r agenda cynaliadwyedd a datgarboneiddio parhaus.

Daeth y beirniaid i'r casgliad bod Caerdydd, fel dinas, wedi mynd y filltir ychwanegol o ran cofleidio ei gweledigaeth werdd trwy gyflenwi cartrefi mwy fforddiadwy a chynaliadwy i'w dinasyddion.

Ers derbyn y wobr, dwedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: " Rwy'n falch iawn bod Caerdydd wedi cael ei chydnabod yng Ngwobrau EG fel Dinas y Flwyddyn.  Mae Caerdydd yn ymfalchïo mewn bod yn lle gwych i weithio a gwneud busnes, sy'n denu ac yn cadw'r dalent orau, lle mae pobl wrth eu bodd yn byw ac yn ddinas i bawb, waeth beth fo'u cefndir. 

"Mae hyn yn cynnwys cyflawni'r canlyniadau tai gorau i bobl Caerdydd, gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod ein holl ddinasyddion yn gallu manteisio ar gartrefi fforddiadwy a chynaliadwy o ansawdd uchel, drwy ddangos sut y bydd Cyngor Dinas Caerdydd a'i bartneriaid yn siapio a chyflawni darpariaeth a gwasanaethau tai yn y dyfodol ar draws y ddinas".

"Fel rhan o weledigaeth Cryfach, Tecach, Gwyrddach Cyngor Caerdydd, mae ein rhaglen ddatblygu arloesol ac arobryn yn parhau i fod y rhaglen adeiladu tai cyngor fwyaf yng Nghymru ac mae'n parhau hefyd i gyflawni cartrefi newydd ar raddfa fawr. Mae'r holl gartrefi a adeiladwn yn cyrraedd safonau effeithlonrwydd ynni o ansawdd uchel iawn i sicrhau bod cartrefi'n fforddiadwy i'w rhedeg ar gyfer ein tenantiaid ac yn gyfforddus i fyw ynddynt yn ogystal â helpu'r cyngor i gyflawni ei amcanion datgarboneiddio".

 

Newidiadau cyffrous arfaethedig wrth ddarparu Gwasanaethau Gwaith Ieuenctid yng Nghaerdydd

Mae adolygiad eang o sut mae Cyngor Caerdydd yn helpu pobl ifanc drwy waith ieuenctid wedi cynnig amrywiaeth o newidiadau i dimau Gwasanaeth Ieuenctid yr awdurdod.

Mewn adroddiad newydd a fydd yn cael ei drafod gan Gabinet y Cyngor ddydd Iau, 23 Tachwedd, gofynnir i gynghorwyr gytuno ar weledigaeth, egwyddorion a model gweithredu newydd ar gyfer Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd sy'n newid y dull presennol o 'Un dull i bawb', i strategaeth sy'n seiliedig ar ardal, ac sy'n mynd i'r afael â bylchau yn y ddarpariaeth wrth dargedu ardaloedd lle mae'r angen mwyaf.

Lluniwyd yr adroddiad ar ôl adolygiad ar raddfa lawn o'r gwasanaeth yn 2022 ac arfarniad dilynol o naw mis o sut mae gwasanaethau gwaith ieuenctid yn gweithredu yng Nghaerdydd. Mae wedi ystyried barn pobl ifanc ledled y ddinas a gyfrannodd at drafodaethau ar y mathau o gefnogaeth a gwasanaethau yr hoffent eu gweld.

Daeth adolygiad o Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn 2021 gan arolygwyr Estyn i'r casgliad ei fod yn cynnig 'darpariaeth o ansawdd uchel' gyda chanmoliaeth arbennig am y gefnogaeth a gynigir i iechyd a lles emosiynol pobl ifanc a defnydd effeithiol o lwyfannau digidol.

Ond mae uchelgeisiau 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach' y Cyngor yn cynnwys ymrwymiad i wella bywydau pobl ifanc a sicrhau bod gwasanaethau ieuenctid ar gael ar lefel gyfartal ledled y ddinas ac yn ymateb i anghenion gwahanol gymunedau a grwpiau o bobl ifanc, gan gynnwys unigolion LHDTC+ ifanc, y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, y rhai ag anableddau, gofalwyr ifanc a phobl ifanc sydd â phrofiad o'r system ofal.

Byddai'r model gweithredu newydd ar waith erbyn mis Ebrill 2024 a byddai ganddo dimau lleol cryf wrth ei wraidd, wedi'u lleoli mewn ardaloedd lle mae'r angen mwyaf.

Wrth drafod yr adroddiad newydd, dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc: "Drwy gydol y pandemig ac, yn fwy diweddar, yn ystod cyfnodau heriol iawn i bobl ifanc, fel yr aflonyddwch yn Nhrelái ym mis Mai, mae'r Gwasanaeth Ieuenctid wedi profi ei werth.

"Mae'n chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod y genhedlaeth iau wedi'u paratoi, eu cefnogi a'u grymuso'n dda i lywio heriau'r byd sydd ohoni.

"Mae'r adolygiad hwn, a'r argymhellion ynddo, yn sicrhau y bydd y gwaith hwn yn parhau ac, yn bwysig, bydd yn cael ei dargedu i gyrraedd yr ardaloedd a'r bobl ifanc hynny sydd ei angen fwyaf - rydyn ni'n rhoi ein hadnoddau lle mae'r angen mwyaf.

"Un o'r buddugoliaethau mawr fydd gweld darpariaeth ieuenctid sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn ac nid yn ystod tymor ysgol yn unig, fel y mae nawr. Byddwn yn mabwysiadu dull gweithredu cyngor cyfan. Bydd hyn yn gweld gwasanaethau eraill sy'n darparu cyfleoedd i bobl ifanc gysylltu â gwasanaethau ieuenctid i ddarparu gwasanaeth mor eang â phosibl, un sydd wedi'i integreiddio'n well gyda chynnig mwy eang."

Darllenwch fwy yma

 

Cynghorau'n chwilio am bartner datblygu ar gyfer rhaglen tai fforddiadwy o ansawdd uchel

Mae partneriaeth gyffrous newydd rhwng Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg yn canolbwyntio ar adeiladu cartrefi fforddiadwy cynaliadwy o ansawdd uchel yn gyflym ar draws y rhanbarth.

Ar adeg ddigynsail o ran pwysau'n ymwneud â thai, mae'r ddau awdurdod yn defnyddio dull cydweithredol o ddelio â'r galw trwy ymuno i archwilio cyfleoedd trawsffiniol fydd yn darparu tua 2,500 o gartrefi newydd i'r ardal dros y 10 mlynedd nesaf.

Mae'r bartneriaeth - ail raglen dai Caerdydd yn dilyn llwyddiant ei chynllun Cartrefi Caerdydd gyda Wates Group, bellach yn chwilio am bartner datblygu sy'n rhannu ymrwymiad a gweledigaeth y ddau awdurdod i greu cartrefi a chymunedau rhagorol.

Bydd y rhaglen £500m yn canolbwyntio ar adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd i'w rhentu a'u gwerthu'n gyflym ar draws 16 safle yng Nghaerdydd ac wyth safle ym Mro Morgannwg, gan fuddsoddi mewn cymunedau presennol a darparu pecyn mawr o werth cymdeithasol. Wedi'i gynnwys yn y rhaglen mae datblygu 500 o gartrefi newydd ar hen safle Gasworks yn Ferry Road, Grangetown; 400 o gartrefi newydd yng Nglanfa'r Iwerydd a mwy na 130 o gartrefi ar hen Gaeau Chwarae Ysgol Uwchradd Pencoedtre; 130 o gartrefi ar draws dau safle ym Mhorth y Gorllewin a Colcot Road yn y Barri.

Bydd hyblygrwydd yn strwythur y rhaglen yn galluogi ychwanegu safleoedd newydd yn ôl yr angen.

Nod allweddol y rhaglen yw nid yn unig cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy ond, fel Cartrefi Caerdydd, bydd hynny wedi creu 1,700 o gartrefi newydd i'r ddinas erbyn diwedd ei oes o 10 mlynedd, i wella ansawdd cartrefi yn y ddau awdurdod, trwy ddarparu cartrefi carbon isel, ynni-effeithlon er mwyn mynd i'r afael â biliau ynni uchel a thlodi tanwydd. Mae hyn yn unol ag uchelgais Caerdydd Un Blaned ar gyfer dinas garbon niwtral erbyn 2030 a Phrosiect Sero, Chynllun Her Hinsawdd y Fro.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd: "Ni fu cymaint o alw erioed am dai fforddiadwy ac oherwydd y pwysau presennol, mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddarparu cartrefi yn gyflymach, bod yn fwy arloesol yn ein dull gweithredu ac yn fwy hyblyg i'n galluogi i addasu'n effeithiol i anghenion tai sy'n newid.

"Bydd y partner yr ydym yn chwilio amdano yn gwneud mwy nag adeiladu tai yn unig - rydym yn chwilio am ddatblygwr fydd yn mynd y filltir ychwanegol honno i greu gwaddol hirhoedlog trwy ddarparu buddion cymunedol a chefnogi swyddi.

"Ein gweledigaeth yw i'r holl eiddo fodloni lefelau eithriadol o ddylunio, cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ynni, ac mae arloesi yn hanfodol."

Darllenwch fwy yma