9/11/23
Mae partneriaeth gyffrous newydd rhwng Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg yn canolbwyntio ar adeiladu cartrefi fforddiadwy cynaliadwy o ansawdd uchel yn gyflym ar draws y rhanbarth.
Ar adeg ddigynsail o ran pwysau'n ymwneud â thai, mae'r ddau awdurdod yn defnyddio dull cydweithredol o ddelio â'r galw trwy ymuno i archwilio cyfleoedd trawsffiniol fydd yn darparu tua 2,500 o gartrefi newydd i'r ardal dros y 10 mlynedd nesaf.
Mae'r bartneriaeth - ail raglen dai Caerdydd yn dilyn llwyddiant ei chynllun Cartrefi Caerdydd gyda Wates Group, bellach yn chwilio am bartner datblygu sy'n rhannu ymrwymiad a gweledigaeth y ddau awdurdod i greu cartrefi a chymunedau rhagorol.
Bydd y rhaglen £500m yn canolbwyntio ar adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd i'w rhentu a'u gwerthu'n gyflym ar draws 16 safle yng Nghaerdydd ac wyth safle ym Mro Morgannwg, gan fuddsoddi mewn cymunedau presennol a darparu pecyn mawr o werth cymdeithasol. Wedi'i gynnwys yn y rhaglen mae datblygu 500 o gartrefi newydd ar hen safle Gasworks yn Ferry Road, Grangetown; 400 o gartrefi newydd yng Nglanfa'r Iwerydd a mwy na 130 o gartrefi ar hen Gaeau Chwarae Ysgol Uwchradd Pencoedtre; 130 o gartrefi ar draws dau safle ym Mhorth y Gorllewin a Colcot Road yn y Barri.
Bydd hyblygrwydd yn strwythur y rhaglen yn galluogi ychwanegu safleoedd newydd yn ôl yr angen.
Nod allweddol y rhaglen yw nid yn unig cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy ond, fel Cartrefi Caerdydd, bydd hynny wedi creu 1,700 o gartrefi newydd i'r ddinas erbyn diwedd ei oes o 10 mlynedd, i wella ansawdd cartrefi yn y ddau awdurdod, trwy ddarparu cartrefi carbon isel, ynni-effeithlon er mwyn mynd i'r afael â biliau ynni uchel a thlodi tanwydd. Mae hyn yn unol ag uchelgais Caerdydd Un Blaned ar gyfer dinas garbon niwtral erbyn 2030 a Phrosiect Sero, Chynllun Her Hinsawdd y Fro.
Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd: "Ni fu cymaint o alw erioed am dai fforddiadwy ac oherwydd y pwysau presennol, mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddarparu cartrefi yn gyflymach, bod yn fwy arloesol yn ein dull gweithredu ac yn fwy hyblyg i'n galluogi i addasu'n effeithiol i anghenion tai sy'n newid.
"Bydd y partner yr ydym yn chwilio amdano yn gwneud mwy nag adeiladu tai yn unig - rydym yn chwilio am ddatblygwr fydd yn mynd y filltir ychwanegol honno i greu gwaddol hirhoedlog trwy ddarparu buddion cymunedol a chefnogi swyddi.
"Ein gweledigaeth yw i'r holl eiddo fodloni lefelau eithriadol o ddylunio, cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd ynni, ac mae arloesi yn hanfodol."
DywedoddCllr Sandra Perkes, Aelod Cabinet dros Dai Sector Cyhoeddus a Chynnwys Tenantiaid dros Gyngor Bro Morgannwg: "Nid yw Bro Morgannwg yn unigryw o ran wynebu prinder sylweddol o dai fforddiadwy a chymdeithasol. Yr hyn sy'n ein gosod ar wahân yw maint ein huchelgais wrth ymateb i hyn.
"Un o'n blaenoriaethau fel Cyngor yw cynyddu'r cyflenwad o dai hygyrch a fforddiadwy o safon uchel sydd ar gael drwy weithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â'r angen am dai. Rydym am wneud hyn gyda datblygiadau o bob maint sydd naill ai'n gwella ein cymunedau presennol neu'n creu rhai newydd.
"Bydd ein Rhaglen Partneriaeth Tai yn ein galluogi i adeiladu datblygiadau cymysg o gartrefi preifat a fforddiadwy yn gyflym ac ar raddfa fawr. Mae cydweithredu yn un o gryfderau ein sefydliad ac rydym yn credu y bydd dull rhagweithiol a galluogol o weithio gyda phartner yn y sector preifat yn sicrhau canlyniadau rhagorol i bob parti."
Ynghyd â'r ddau awdurdod lleol, mae Savills Housing Development & Regeneration, Browne Jacobson a Strongs yn rhan o dîm y prosiect ar gyfer caffael datblygwr partner ar gyfer y rhaglen. Gall partïon sydd â diddordeb yn y rhaglen gael rhagor o wybodaeth a chofnodi eu diddordeb drwy ymweld â:
https://www.sell2wales.gov.wales/search/show/search_view.aspx?ID=NOV456351