8/11/23
Yn ddiweddar, aeth Dirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry, i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant ym Mhentwyn i siarad â disgyblion am ddemocratiaeth leol a chlywed eu barn ar faterion sy'n bwysig iddyn nhw.
Roedd yr ymweliad yn rhan o raglen ar gyfer ysgolion a drefnwyd gan adran Gwasanaethau Etholiadol y Cyngor i ennyn diddordeb plant a phobl ifanc yn y broses ddemocrataidd. Gall athrawon gofrestru i fod yn 'Cennad Democratiaeth' a manteisio ar ystod eang o adnoddau parod, hyfforddiant DPP a syniadau i'w gweithredu yn yr ystafell ddosbarth.
Fel rhan o'r Rhaglen Cenhadon Democratiaeth, mae'r Cyngor yn gweithio gyda'r Prosiect Gwleidyddiaeth sy'n darparu'r cynllun Deialog Ddigidol ihelpu ysgolion i gyflawni pwrpas 'dinasyddion moesegol, gwybodus' y Cwricwlwm newydd i Gymru.
Mae'r Prosiect Gwleidyddiaeth, sefydliad addysg ddemocrataidd, yn cefnogi'r Rhaglen Cennad Democratiaeth drwy alluogi athrawon i gyflwyno Deialog Ddigidol: Cymru, cynllun sy'n caniatáu i ddisgyblion ofyn cwestiynau i'w gwleidyddion lleol am faterion sy'n bwysig iddyn nhw.
Treuliodd y Cynghorydd Merry amser gyda disgyblion Bl 5 yn egluro am ei rôl yn y Cyngor ac yn ateb eu cwestiynau wedi'u paratoi ar amrywiaeth o faterion.
Dwedodd y Cynghorydd Merry: "Roedd yn ymweliad gwych ag Ysgol Gynradd Dewi Sant. Gofynnodd y plant y gwnes i gwrdd â nhw gwestiynau deallus iawn a gobeithiaf fy mod wedi gallu rhoi cipolwg iddyn nhw ar sut mae'r cyngor yn gweithio a sut y gallant gymryd rhan mewn democratiaeth leol. Nod y prosiect yw creu deialog ystyrlon rhwng gwleidyddion a phlant ac rwy'n credu ein bod wedi cyflawni hynny yn Dewi Sant."
Dywedodd Cennad Democratiaeth yn Ysgol Gynradd Dewi Sant, Allyson Underhill-Jones: "Rydym wrth ein bodd o fod yn rhan o'r rhaglen Deialog Ddigidol drwy'r Rhaglen Cenhadon Democratiaeth yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant ac rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu rhoi'r cyfle hwn i'n plant. Mae'n hanfodol bod plant yn cael y cyfle i ymgysylltu a dysgu am wleidyddiaeth o oedran cynnar ac mae'r amlygiad cynnar hwn yn ysbrydoli plant i leisio eu barn, adeiladu ymwybyddiaeth gymdeithasol, a meithrin arweinwyr y dyfodol.
"Mae'n arfogi plant â'r wybodaeth, y sgiliau a'r gwerthoedd i fod yn asiantau newid cadarnhaol mewn cymdeithas ddemocrataidd ac yn annog ymwybyddiaeth a chyfranogiad gwleidyddol plant fel buddsoddiad yn nyfodol democratiaeth a chymdeithas fwy ymgysylltiol, empathig a gwybodus."
Os ydych chi'n athro o Gaerdydd sydd â diddordeb i gyflwyno Deialog Ddigidol: Cymru yn eich ysgol, gallwch gofrestru ar gyfer y sesiwn hyfforddi ar-lein nesaf ddydd Mercher, Tachwedd, 15 (3.30pm - 5.30pm) -Cofrestrwch yma
Os oes gennych ddiddordeb yn yr hyfforddiant hwn ond na allwch ymrwymo i'r sesiwn uchod, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Cenhadon Democratiaeth neu Ddeialog Ddigidol: Cymru, cysylltwch â:selma.abdalla@cardiff.gov.uk