Dyma'r diweddaraf gennym ni, sy'n cynnwys:
Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru
Bydd defod genedlaethol Sul y Cofio yng Nghymru yn cael ei chynnal ar y cyd rhwng Cyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â'r Lleng Brydeinig Frenhinol, ddydd Sul 12 Tachwedd 2023.
Bydd carfannau o'r Llynges Frenhinol, y Fyddin a'r Llu Awyr Brenhinol, y Llynges Bysgota a'r Cadetiaid yn gorymdeithio heibio Neuadd y Ddinas ac ar hyd Rhodfa'r Brenin Edward VII at Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays, Caerdydd lle byddant yn cyrraedd erbyn 10:40am ac yn ymgynnull o amgylch y gofeb.
Yn ymuno â nhw fydd colofnau o gyn-aelodau'r Lluoedd, wedi'u trefnu gan y Lleng Brydeinig Frenhinol a cholofnau o sifiliaid yn cynrychioli sefydliadau sy'n gysylltiedig â gwrthdaro yn y presennol a'r gorffennol.
Bydd detholiad o gerddoriaeth yn cael ei chwarae gan Fand Byddin Yr Iachawdwriaeth Treganna o 10:30am tan ychydig cyn 11am, pan fydd y gwasanaeth yn dechrau gyda galwad a gair o'r Ysgrythur gan Gaplan Anrhydeddus Cyngor Caerdydd, y Parchedig Ganon Stewart Lisk. Bydd Côr Gwragedd Milwrol Caerdydd a Chôr Meibion Parc yr Arfau yn arwain y canu yn ystod y gwasanaeth.
Am 10:59am bydd biwglwr o Fand Catrawd Brenhinol Cymru a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol yn seinio'r 'Caniad Olaf' wedi ei ddilyn am 11am gan daniad gwn gan Gatrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol, Casnewydd i nodi dechrau cadw'r ddwy funud o dawelwch. Bydd tanio'r gwn unwaith eto yn nodi'r terfyn a'r Biwglwr yn chwarae'r 'Reveille'.
Bydd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AoS, yn ymuno â chyfranogwyr eraill i osod torchau yng Nghofeb Ryfel Genedlaethol Cymru.
"Wrth ddod at ein gilydd fel prifddinas ac fel cenedl ar gyfer ein gwasanaeth coffa blynyddol, rydym yn anrhydeddu atgofion y rhai a roddodd eu bywydau i wasanaethu eu gwlad ac i sefyll mewn undod â phawb sydd wedi'u heffeithio gan realiti di-baid rhyfel a gwrthdaro hyd heddiw. Mae'r gwrthdaro parhaus yn Wcráin a'r Dwyrain Canol yn atgofion pwerus a thrasig o gost ddynol rhyfel. Boed i'n hymgynulliad gofio fod yn atgof difrifol o'r gost barhaus honno o wrthdaro a nodi'r chwilio di-ildio am heddwch i bawb," meddai'r Cynghorydd Huw Thomas.
Rhowch gynnig ar rywbeth newydd! Caerdydd yn lansio bwydlen prydau ysgol cynradd newydd yn ystod Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol: 6 - 10 Tachwedd 2023
Mae Caerdydd yn dathlu Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol 2023 gyda lansiad bwydlen prydau ysgol cynradd newydd ar gyfer dechrau'r hanner tymor newydd.
Mae Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol yn ymgyrch genedlaethol gan LACA - The School Food People, sy'n ceisio taflu goleuni ar y manteision y mae prydau ysgol o safon yn eu cael ar iechyd a lles plant a phobl ifanc. Mae'r ymgyrch hefyd yn tynnu sylw at werth prydau ysgol, yn enwedig i deuluoedd a allai fod yn wynebu heriau a achosir gan yr argyfwng costau byw a chostau bwyd cynyddol. Gallwch ddarllen mwy yma:
Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol - Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol (lacansmw.co.uk)
Eleni, nod yr ymgyrch wythnos o hyd yw annog plant nad ydynt wedi rhoi cynnig ar brydau ysgol ers tro i roi cynnig arnynt, neu i gwsmeriaid presennol flasu prydau newydd.
Mae bwydlen prydau ysgol cynradd newydd Caerdydd wedi'i datblygu i gynnig deg pryd newydd ynghyd â ffefrynnau disgyblion. Gwnaed amrywiaeth o welliannau i'r fwydlen newydd, gan gynnwys defnyddio nifer o gynhyrchion Cymreig fel bara, selsig ac iogwrt gan helpu i gefnogi economi Cymru a hyrwyddo cynaliadwyedd.
Bydd dau ddogn o lysiau yn parhau i gael eu cynnig gyda phob pryd fel rhan o ymrwymiad parhaus Cyngor Caerdydd i'r addewid llysiau Pys Plîs, sydd uwchlaw safon isaf Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth Cymru 2013), mae pob cynnyrch pysgod wedi'i ardystio'n gynaliadwy gan yr MSC (Cyngor Stiwardiaeth Forol) ac ehangwyd nifer yr opsiynau sy'n seiliedig ar blanhigion ar draws y prif gyrsiau a phwdinau.
Mae'r fwydlen yn cydymffurfio'n llawn â Bwyta'n Iach mewn Ysgolion ac mae wedi derbyn y dystysgrif cydymffurfio gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n gyfrifol am fonitro cydymffurfiaeth yng Nghymru.
Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Rydym yn gwybod bod darparu prydau ysgol iach a maethlon yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr ac mae wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol yn helpu i dynnu sylw at hyn. Mae ein timau arlwyo ysgolion yn gweithio'n galed i ddatblygu bwydlen amrywiol a chynhwysol i blant ei mwynhau, gan fodloni'r gofynion a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Yn ogystal, gyda'r defnydd o gynnyrch Cymreig, Prydeinig ac ardystiedig, gall teuluoedd fod yn dawel eu meddwl bod dewis prydau ysgol yn cynnig ystod o fanteision cadarnhaol."
Wythnos Cyflog Byw: Yn Bwysicach Nag Erioed
"Y peth iawn i'w wneud", "effaith bositif ar staff", "mae'n bwysig bod pobl sy'n gweithio'n galed yn cael eu talu yn unol â hynny".
Yn ystod Wythnos Cyflog Byw (6 - 12 Tachwedd), dyma rai o feddyliau un cyflogwr yng Nghaerdydd a ymunodd â mwy na 200 o sefydliadau eraill yn y ddinas yn ddiweddar trwy ddod yn gyflogwr Cyflog Byw.
Cefnogodd Cyngor Caerdydd Ganolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd i ennill achrediad cyflogwr Cyflog Byw a thalu'r Cyflog Byw gwirioneddol i'w staff yn gynharach eleni.
Mae rheolwr cyffredinol y ganolfan, Gareth Roberts, yn esbonio pam: "Roedd yn teimlo fel y peth iawn i'w wneud. Rydym yn dîm bach yma ac er bod effaith ariannol i ni fel busnes, roedd yr effaith honno'n ddim o'i chymharu â'r effaith gadarnhaol yn byddai'n ei chael ar ein staff isafswm cyflog.
"Gall lletygarwch fod yn ddiwydiant digon heriol i weithio ynddo ac maen nhw'n gweithio'n galed. Roedd yn teimlo'n briodol eu talu yn unol â hynny. Mae'n gwneud y staff yn hapusach."
Dywedodd Ren Tryner sy'n gweithio yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd: "Mae gweithio i gyflogwr Cyflog Byw yn wych yn fy marn i. Yn amlwg, mae'n golygu mwy o arian a, wyddoch chi, mae popeth yn helpu yn y math yma o hinsawdd."
Mae sefydliadau fel Canolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd wedi helpu Caerdydd, Dinas Cyflog Byw, i gyflawni targedau uchelgeisiol. Erbyn hyn mae mwy na 210 o gyflogwyr Cyflog Byw achrededig yn y ddinas, sy'n cyflogi dros 76,000 o weithwyr, y mae dros 13,000 ohonynt wedi cael codiad i'r Cyflog Byw gwirioneddol.
Cyhoeddwyd yn ddiweddar mai £12 yr awr oedd y gyfradd Cyflog Byw gwirioneddol ar hyn o bryd i Gymru - sydd yn gyfradd sy'n cael ei chyfrifo yn unol â chost sylfaenol byw yn y DU. Nod y gyfradd yw sicrhau na ddylai unrhyw un orfod gweithio am lai nag y gallant fyw arno.
Yn ystod Wythnos Cyflog Byw eleni, mae Partneriaeth Dinas Cyflog Byw Caerdydd wedi gosod targed newydd o 300 o gyflogwyr Cyflog Byw achrededig yng Nghaerdydd, gan gyflogi 95,000 o staff y bydd 13,900 ohonynt yn gweld eu cyflog yn cael ei godi i'r Cyflog Byw gwirioneddol erbyn mis Tachwedd 2025.