Back
Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru

07/11/23 

Bydd defod genedlaethol Sul y Cofio yng Nghymru yn cael ei chynnal ar y cyd rhwng Cyngor Caerdydd, Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â'r Lleng Brydeinig Frenhinol, ddydd Sul 12 Tachwedd 2023. 

A statue in a circular structureDescription automatically generated

Bydd carfannau o'r Llynges Frenhinol, y Fyddin a'r Llu Awyr Brenhinol, y Llynges Bysgota a'r Cadetiaid yn gorymdeithio heibio Neuadd y Ddinas ac ar hyd Rhodfa'r Brenin Edward VII at Gofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Ngerddi Alexandra, Parc Cathays, Caerdydd lle byddant yn cyrraedd erbyn 10:40am ac yn ymgynnull o amgylch y gofeb. 

Yn ymuno â nhw fydd colofnau o gyn-aelodau'r Lluoedd, wedi'u trefnu gan y Lleng Brydeinig Frenhinol a cholofnau o sifiliaid yn cynrychioli sefydliadau sy'n gysylltiedig â gwrthdaro yn y presennol a'r gorffennol. 

Bydd detholiad o gerddoriaeth yn cael ei chwarae gan Fand Byddin Yr Iachawdwriaeth Treganna o 10:30am tan ychydig cyn 11am, pan fydd y gwasanaeth yn dechrau gyda galwad a gair o'r Ysgrythur gan Gaplan Anrhydeddus Cyngor Caerdydd, y Parchedig Ganon Stewart Lisk. Bydd Côr Gwragedd Milwrol Caerdydd a Chôr Meibion Parc yr Arfau yn arwain y canu yn ystod y gwasanaeth. 

Am 10:59am bydd biwglwr o Fand Catrawd Brenhinol Cymru a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol yn seinio'r 'Caniad Olaf' wedi ei ddilyn am 11am gan daniad gwn gan Gatrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol, Casnewydd i nodi dechrau cadw'r ddwy funud o dawelwch. Bydd tanio'r gwn unwaith eto yn nodi'r terfyn a'r Biwglwr yn chwarae'r 'Reveille'. 

Bydd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AoS, yn ymuno â chyfranogwyr eraill i osod torchau yng Nghofeb Ryfel Genedlaethol Cymru. 

"Wrth ddod at ein gilydd fel prifddinas ac fel cenedl ar gyfer ein gwasanaeth coffa blynyddol, rydym yn anrhydeddu atgofion y rhai a roddodd eu bywydau i wasanaethu eu gwlad ac i sefyll mewn undod â phawb sydd wedi'u heffeithio gan realiti di-baid rhyfel a gwrthdaro hyd heddiw. Mae'r gwrthdaro parhaus yn Wcráin a'r Dwyrain Canol yn atgofion pwerus a thrasig o gost ddynol rhyfel. Boed i'n hymgynulliad gofio fod yn atgof difrifol o'r gost barhaus honno o wrthdaro a nodi'r chwilio di-ildio am heddwch i bawb," meddai'r Cynghorydd Huw Thomas. 

Dwedodd y Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS: "Mae Gwasanaeth Cofio Cenedlaethol Cymru yn rhoi cyfle i ni anrhydeddu'r cyfraniad anhunanol a wnaed gan bawb a gollodd eu bywydau mewn gwrthdaro yn y gorffennol a'r rhai presennol. Mae'r gwasanaeth eleni mor berthnasol ac ingol ag erioed, wrth i drais waethygu yn Israel a Gaza, y rhyfel parhaus yn Wcráin, a gwrthdaro hefyd mewn llefydd eraill. 

"Byddwn yn dod ynghyd hefyd i anrhydeddu'r milwyr Cymreig sy'n cyflawni dyletswyddau cadw heddwch ledled y byd.  Bydd ein meddyliau a'n gweddïau gyda nhw, a gyda'n cyn-filwyr, eu teuluoedd a'u ffrindiau." 

Bydd Band y Cymry Brenhinol a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol yn chwarae anthemau cenedlaethol Cymru a Phrydain Fawr ar ddiwedd y seremoni.  Caiff Aelodau'r cyhoedd hefyd osod torchau wrth y Gofeb Genedlaethol ar ôl y gwasanaeth. 

Ar ddiwedd y gwasanaeth, bydd yr holl gyfranogwyr a gwesteion yn ymgynnull o flaen Neuadd y Ddinas i weld yr Orymdaith a'r Saliwt gan Arglwydd Raglaw EF, ochr yn ochr ag Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Bablin Molik. 

Tua diwedd mis Hydref, arweiniodd Arglwydd Faer Caerdydd deyrngedau'r ddinas i'r rhai yn y Lluoedd Arfog a gollodd eu bywydau mewn dau ryfel byd a gwrthdaro arall, yn agoriad y Maes Coffa ar dir Castell Caerdydd. 

Wrth fyfyrio ar yr agoriad, dywedodd y Cynghorydd Molik: "Mae arwain teyrngedau'r ddinas i ddynion a menywod ein Lluoedd Arfog a gollodd eu bywyd mewn gwrthdaro - ac sy'n parhau i beryglu eu bywyd i'n cadw ni'n ddiogel - yn un o'r dyletswyddau pwysicaf rwy'n eu cyflawni yn ystod fy mlwyddyn yn y swydd. Mae'r Maes Cofio, wrth gwrs, yn ingol mewn unrhyw flwyddyn ond mae'r digwyddiadau yn Wcráin a'r Dwyrain Canol ar hyn o bryd yn amlygu'n glir y ddyled sy'n ddyledus i bob un ohonom i'n milwyr a'n menywod. Roedd yn fraint ac anrhydedd i fod wedi talu fy nheyrnged ar ran pobl Caerdydd." 

Mae'r Maes Cofio wedi dod yn draddodiad blynyddol yn y ddinas a bydd yn cau ar 15 Tachwedd. Yr oriau agor yw 9am hyd 5pm ac mae mynediad am ddim i aelodau'r cyhoedd.