Back
Wythnos Cyflog Byw: Yn Bwysicach Nag Erioed


 6/11/23

"Y peth iawn i'w wneud", "effaith bositif ar staff", "mae'n bwysig bod pobl sy'n gweithio'n galed yn cael eu talu yn unol â hynny".

 

Yn ystod Wythnos Cyflog Byw (6 - 12 Tachwedd), dyma rai o feddyliau un cyflogwr yng Nghaerdydd a ymunodd â mwy na 200 o sefydliadau eraill yn y ddinas yn ddiweddar trwy ddod yn gyflogwr Cyflog Byw.

 

Cefnogodd Cyngor Caerdydd Ganolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd i ennill achrediad cyflogwr Cyflog Byw a thalu'r Cyflog Byw gwirioneddol i'w staff yn gynharach eleni.

 

Mae rheolwr cyffredinol y ganolfan, Gareth Roberts, yn esbonio pam:"Roedd yn teimlo fel y peth iawn i'w wneud. Rydym yn dîm bach yma ac er bod effaith ariannol i ni fel busnes, roedd yr effaith honno'n ddim o'i chymharu â'r effaith gadarnhaol yn byddai'n ei chael ar ein staff isafswm cyflog.

 

"Gall lletygarwch fod yn ddiwydiant digon heriol i weithio ynddo ac maen nhw'n gweithio'n galed. Roedd yn teimlo'n briodol eu talu yn unol â hynny. Mae'n gwneud y staff yn hapusach."

 

Dywedodd Ren Tryner sy'n gweithio yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd: "Mae gweithio i gyflogwr Cyflog Byw yn wych yn fy marn i. Yn amlwg, mae'n golygu mwy o arian a, wyddoch chi, mae popeth yn helpu yn y math yma o hinsawdd."

 

 

 

Mae sefydliadau fel Canolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd wedi helpu Caerdydd, Dinas Cyflog Byw, i gyflawni targedau uchelgeisiol. Erbyn hyn mae mwy na 210 o gyflogwyr Cyflog Byw achrededig yn y ddinas, sy'n cyflogi dros 76,000 o weithwyr, y mae dros 13,000 ohonynt wedi cael codiad i'r Cyflog Byw gwirioneddol.

 

Cyhoeddwyd yn ddiweddar mai £12 yr awr oedd y gyfradd Cyflog Byw gwirioneddol ar hyn o bryd i Gymru - sydd yn

gyfradd sy'n cael ei chyfrifo yn unol â chost sylfaenol byw yn y DU. Nod y gyfradd yw sicrhau na ddylai unrhyw un orfod gweithio am lai nag y gallant fyw arno.

 

Yn ystod Wythnos Cyflog Byw eleni, mae Partneriaeth Dinas Cyflog Byw Caerdydd wedi gosod targed newydd o 300 o gyflogwyr Cyflog Byw achrededig yng Nghaerdydd, gan gyflogi 95,000 o staff y bydd 13,900 ohonynt yn gweld eu cyflog yn cael ei godi i'r Cyflog Byw gwirioneddol erbyn mis Tachwedd 2025.

 

Gyda chostau byw yn codi a miliynau ar draws y wlad yn ei chael hi'n anodd ymdopi â phwysau presennol costau ynni, bwyd a thanwydd cynyddol, ni fu ennill Cyflog Byw Gwirioneddol erioed yn bwysicach.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas, Cadeirydd Partneriaeth Dinas Cyflog Byw aml-sefydliadol Caerdydd: "Fel Partneriaeth rydyn ni wedi mabwysiadu gwireb Dewi Sant - "Gwnewch y pethau bychain". Os ydym i gyd yn "gwneud y pethau bychain" - gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth mawr a gallwn weld o'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud ar hyd ein taith Cyflog Byw bod hynny'n wir.

 

"Dros y flwyddyn ddiwethaf, gwnaethom groesawu tua 30 o gyflogwyr Cyflog Byw achrededig newydd i Deulu Cyflog Byw Caerdydd, ac maent yn cyflogi bron i 10,000 o bobl y derbyniodd dros 1,500 ohonynt godiad cyflog i'r Cyflog Byw gwirioneddol.

 

"Ac mae Prifysgol Caerdydd wedi cyfrifo, ers 2012,  bod £68 miliwn yn ychwanegol wedi mynd i economi Caerdydd o ganlyniad i'r codiadau hyn. 

 

Mewn arolwg mawr yn y DU o gyflogwyr Cyflog Byw achrededig gan Brifysgol Caerdydd, dywedodd 85% fod achrediad wedi gwella enw da eu sefydliad gyda 67% yn dweud ei fod wedi rhoi mantais gystadleuol.  Dywedodd tua 60% ei fod wedi helpu gyda recriwtio a chadw staff, gyda nifer debyg yn dweud bod achrediad wedi gwella ymrwymiad a chymhelliant staff.             

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas: "Rydym yn hynod falch o'r cynnydd hwn, sydd wedi rhagori ar yr holl dargedau ar gyfer y flwyddyn, ond rydym am wneud mwy a herio sefydliadau nad ydynt eto o fewn teulu Cyflog Byw Caerdydd i ystyried pa "Peth Bach" y gallant ei wneud i gefnogi'r Cyflog Byw gwirioneddol yng Nghaerdydd dros y flwyddyn nesaf?"

 

Mae gan y Cyngor gynllun achredu Cyflog Byw sy'n talu ffioedd achredu busnesau bach lleol am y tair blynedd cyntaf. I ddarganfod mwy am y cynllun a'r Cyflog Byw gwirioneddol ewch i https://cyflogbyw.cymru/