Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, yn cynnwys:
Ffilm newydd yn amlygu pwysigrwydd y celfyddydau i gymunedau
Mae ffilm bwerus newydd sy'n dangos sut mae pobl Caerdydd yn defnyddio'r celfyddydau, addysg a diwylliant i wella amrywiaeth ac annog cynwysoldeb yn y ddinas wedi cael ei lansio ar y rhyngrwyd heddiw.
Mae Stories for Cohesion, sydd ar gael i'w gwylio yma, yn ffilm fer 12 munud o hyd a gynhyrchwyd gan Rwydwaith Arloesedd Cynghorau Cydweithredol (CCIN), grŵp o awdurdodau lleol y DU.
Mae'n cynnwys ffigurau blaenllaw o wasanaethau celfyddydol, theatr a cherddoriaeth Caerdydd ynghyd ag athrawon, cynghorwyr a gweithwyr cydlyniant cymunedol i gyd yn esbonio sut mae eu gwaith yn helpu i greu cytgord yng nghymunedau aml-ethnig y ddinas.
Ymhlith y rhai sy'n cymryd rhan mae'r Tad Dean Atkins, o Ardal Gweinidogaeth De Caerdydd, sy'n cyflwyno'r ffilm. "Y straeon y mae pobl yn dod gyda nhw, y ddynoliaeth sy'n bodoli... mae'n bwysig i bobl fod yn berchen ar eu straeon eu hunain," meddai. "Rydym yn fwy pwerus pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd ac yn dathlu'r adnoddau mae pobl yn dod gyda nhw."
Ymhlith y digwyddiadau a'r bobl a amlygwyd yn y ffilm mae:
Tro cyntaf i Gaerdydd: Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg yn derbyn cydnabyddiaeth Ysgol Noddfa wrth i'r ddinas ddathlu Mis Hanes Pobl Ddu
Ysgol Y Berllan Deg yn Llanedern yw'r ysgol gynradd Gymraeg gyntaf yng Nghaerdydd i dderbyn Cydnabyddiaeth Ysgol Noddfa.
I nodi'r garreg filltir arwyddocaol, mae Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, wedi cyflwyno'r wobr i'r ysgol yn ystod digwyddiad arbennig a fynychwyd gan ddisgyblion, staff a llywodraethwyr, gan gyd-fynd â dathliadau Mis Hanes Pobl Ddu 2023 y ddinas.
Mae'r ysgol, sydd wedi cael ei chydnabod am sefydlu ethos croesawgar a gofalgar sy'n cefnogi disgyblion o bob cefndir, wedi cael cefnogaeth Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a Theithwyr i ddangos ffyrdd y mae disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu cefnogi a'u cynnwys, yn ogystal â dealltwriaeth o'r hyn y mae'n ei olygu i rywun fod yn ceisio noddfa ac angen cymorth.
'Ti'n gêm?' wrth i aelodau o Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd godi arian drwy chwarae gemau yn fyw ar gyfer BBC Plant Mewn Angen
Bydd pedwar person ifanc o Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd yn cymryd rhan mewn ymgyrch codi arian gemau byw ar gyfer BBC Plant Mewn Angen.
Gyda chefnogaeth Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, teithiodd Lee, Sam, Owen a James i Fangor yn gynharach y mis hwn i gystadlu yn Hado, cystadleuaeth chwaraeon realiti estynedig, ac maent wedi cael eu rhoi yn y safle uchaf ar draws wyth twrnamaint a gynhaliwyd ledled gwledydd Prydain.
Byddant nawr yn ymddangos ar y rhaglen "Game On" a gaiff ei darlledu'n fyw ar 10 Tachwedd gyda'r nod o uno chwaraewyr gemau ar hyd a lled y wlad er mwyn helpu i godi arian ar gyfer BBC Plant Mewn Angen.
Bydd y sioe, a wnaed gan BBC Studios Entertainment and Music a'i chomisiynu gan y BBC, yn cael ei darlledu ar BBC Three a BBC iPlayer am 7pm ac arni bydd llu o enwogion, crewyr cynnwys, dylanwadwyr, chwaraewyr gemau ac aelodau o'r cyhoedd a fydd yn herio ei gilydd mewn sioe ddwy awr.
Bydd aelodau'r cyhoedd yn cael cyfle i gystadlu yn y sioe fyw epig trwy chwarae tair gêm eiconig trwy Daith Sim Rig BBC Plant Mewn Angen, Just Dance for Pudsey BBC Plant Mewn Angen a Thwrnamaint Hado ar gyfer BBC Plant Mewn Angen.
Helpwch i ddatblygu Cynllun Gweithredu Adfer Natur Leol Caerdydd
Mae Partneriaeth Natur Leol Caerdydd (PNL) yn annog pobl leol, grwpiau cymunedol a busnesau i helpu i ddatblygu Cynllun Gweithredu ar Natur Leol a fydd yn adnabod yr hyn sydd angen ei wneud i adfer a gwella natur yn y ddinas.
Gall pawb gymryd rhan drwy fynychu un o'r gweithdai a'r sesiynau galw heibio sy'n cael eu cynnal gan y PNL dros y misoedd nesaf.