Back
Ffilm newydd yn amlygu pwysigrwydd y celfyddydau i gymunedau

02.11.23
Mae ffilm bwerus newydd sy'n dangos sut mae pobl Caerdydd yn defnyddio'r celfyddydau, addysg a diwylliant i wella amrywiaeth ac annog cynwysoldeb yn y ddinas wedi cael ei lansio ar y rhyngrwyd heddiw.

Mae Stories for Cohesion, sydd ar gael i'w gwylio yn https://player.vimeo.com/video/863120356, yn ffilm fer 12 munud o hyd a gynhyrchwyd gan Rwydwaith Arloesedd Cynghorau Cydweithredol (CCIN), grŵp o awdurdodau lleol y DU.

Mae'n cynnwys ffigurau blaenllaw o wasanaethau celfyddydol, theatr a cherddoriaeth Caerdydd ynghyd ag athrawon, cynghorwyr a gweithwyr cydlyniant cymunedol i gyd yn esbonio sut mae eu gwaith yn helpu i greu cytgord yng nghymunedau aml-ethnig y ddinas.

Ymhlith y rhai sy'n cymryd rhan mae'r Tad Dean Atkins, o Ardal Gweinidogaeth De Caerdydd, sy'n cyflwyno'r ffilm. "Y straeon y mae pobl yn dod gyda nhw, y ddynoliaeth sy'n bodoli... mae'n bwysig i bobl fod yn berchen ar eu straeon eu hunain," meddai. "Rydym yn fwy pwerus pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd ac yn dathlu'r adnoddau mae pobl yn dod gyda nhw."

Ymhlith y digwyddiadau a'r bobl a amlygwyd yn y ffilm mae:

  • Wythnos Ffoaduriaid Caerdydd (sy'n canolbwyntio ar waith a wnaed gan staff a phlant yn Ysgol Gynradd Y Forwyn Fair – 'Ysgol Noddfa' ddynodedig) wedi'i lleoli yn Butetown)
  • Radio Platfform, gorsaf radio sy'n cael ei rhedeg gan bobl ifanc ac wedi'i lleoli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru
  • Cynhyrchiad Canolfan Mileniwm Cymru o The Boy With Two Hearts, addasiad o'r llyfr gan Hamed a Hassem Amiri, dau ffoadur o Affganistan a ymgartrefodd yn Ne Cymru ar ôl taith drawmatig yn ffoi rhag y Taliban.
  • Gwaith Betty Campbell o Butetown. Pennaeth du cyntaf Cymru, mae hi bellach yn cael ei hanrhydeddu gyda cherflun yn Wood Street, Caerdydd

Lansiwyd Stories for Cohesion heddiw yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y CCIN yn Sunderland. Cyn y lansiad, dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, is-gadeirydd CCIN a'r Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi, Cydraddoldeb ac Iechyd y Cyhoedd: "Trwy dynnu sylw at waith Betty Campbell, a oedd mor ddylanwadol o ran cael pobl ifanc i gymryd rhan mewn celf a chrefft yn ystod ei hoes - ac sy'n dal i ysbrydoli pobl heddiw drwy ei cherflun hyfryd yng nghanol y ddinas - gallwn ddangos union hanfod Caerdydd."

Ychwanegodd ei gydweithiwr, y Cynghorydd Julie Sangani, sy'n rhannu ei bortffolio Cabinet: "Mae pobl o bob cwr o'r byd wedi bod yn dod i Gaerdydd a'i gwneud yn gartref iddyn nhw ers cannoedd o flynyddoedd a dwi'n meddwl bod hynny wedi helpu i wneud pobl y ddinas mor gynnes a chroesawgar.

"Mae'r celf a'r diwylliant sydd wedi deillio o hynny mor bwysig o ran sicrhau cydlyniant yn ein cymunedau ac rwy'n credu bod y ffilm hon wir yn helpu i ddangos pa mor fywiog y maen nhw heddiw. Rwy'n gobeithio y bydd pawb yn y ddinas yn cael cyfle i'w gweld."