Back
Helpwch i ddatblygu Cynllun Gweithredu Adfer Natur Leol Caerdydd

1.11.23

Mae Partneriaeth Natur Leol Caerdydd (PNL) yn annog pobl leol, grwpiau cymunedol a busnesau i helpu i ddatblygu Cynllun Gweithredu ar Natur Leol a fydd yn adnabod yr hyn sydd angen ei wneud i adfer a gwella natur yn y ddinas.

Gall pawb gymryd rhan drwy fynychu un o'r gweithdai a'r sesiynau galw heibio sy'n cael eu cynnal gan y PNL dros y misoedd nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau:  "Bydd cymryd rhan mewn gweithdy neu fynychu sesiwn galw heibio yn helpu'r Bartneriaeth Natur Leol i ddeall yn well beth sydd angen ei wneud dros natur yn y ddinas, ac yn helpu i lywio eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol i helpu natur yng Nghaerdydd."

Bydd y rhaglen ymgysylltu yn lansio gyda digwyddiad gweithdy y bydd modd cadw lle ynddo yng Nghanolfan Gymunedol Butetown ar 2 Tachwedd, rhwng 2pm a 4.30pm. Bydd y sesiwn am ddim yn esbonio mwy am y Cynllun Gweithredu Adfer Natur a bydd yn cynnwys gweithdy i gasglu meddyliau a syniadau pobl.  Mae modd cael tocynnau yma: https://www.eventbrite.com/e/cardiff-action-for-nature-workshop-gweithredu-dros-natur-caerdydd-tickets-740658959887?aff=oddtdtcreator

Bydd gweithdy pellach yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Ngerddi Sophia ar 16 Ionawr 16 2024, rhwng 6pm ac 8.30pm. Mae archebu'r gweithdy hwn am ddim yma: https://www.eventbrite.com/e/cardiff-action-for-nature-on-line-workshop-tickets-744063543087

Bydd digwyddiadau galw heibio yn cael eu cynnal yn:

Eglwys Radur. 10am - 1pm, 18 Tachwedd

Canolfan Star, Splott. 10am - 12pm, 21 Tachwedd

Canolfan Ymwelwyr Cronfa Ddŵr Llanisien a Llysfaen 10 - 12.30pm, 24 Tachwedd

Canolfan Ymwelwyr Parc Bute. 11-2pm, 25 Tachwedd

Dusty Forge, Trelái. 1.30 - 3.30pm, 27 Tachwedd