Back
Yn gyntaf i Gaerdydd; Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg yn derbyn Ysgol Noddfa

  

1/11/2023

 

Ysgol Y Berllan Deg yn Llanedern yw'r ysgol gynradd Gymraeg gyntaf yng Nghaerdydd i dderbyn Cydnabyddiaeth Ysgol Noddfa.

 

I nodi'r garreg filltir arwyddocaol, mae Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, wedi cyflwyno'r wobr i'r ysgol yn ystod digwyddiad arbennig a fynychwyd gan ddisgyblion, staff a llywodraethwyr, gan gyd-fynd â dathliadau Mis Hanes Pobl Ddu 2023 y ddinas.

 

Mae'r ysgol, sydd wedi cael ei chydnabod am sefydlu ethos croesawgar a gofalgar sy'n cefnogi disgyblion o bob cefndir, wedi cael cefnogaethGwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a Theithwyri ddangos ffyrdd y mae disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu cefnogi a'u cynnwys, yn ogystal â dealltwriaeth o'r hyn y mae'n ei olygu i rywun fod yn ceisio noddfa ac angen cymorth.     

 

Canfu'r aseswyr fod yr ysgol wedi gweithio'n llwyddiannus gyda staff, llywodraethwyr, disgyblion, rhieni a chymunedau i sicrhau ei bod yn gynhwysol, yn groesawgar ac yn hafan ddiogel i bawb. Maent yn nodi;

 

  • MaeYsgol Y Berllan Degwedi gwneud dechrau gwych wrth ddatblygu cwricwlwm sy'n cydnabod amrywiaeth wrth ddatblygu dealltwriaeth ac empathi tuag at grwpiau o bobl sydd wedi'u dadleoli.  Mae'r ysgol yn falch iawn mai dyma'r ysgol gynradd Gymraeg gyntaf i ennill y wobr ac mae'n arwain y gwaith o fewn y clwstwr.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae amrywiaeth yn rhan annatod o hanes cyfoethog Caerdydd ac rydym yn falch o groesawu pobl o bob cwr o'r byd, gan eu helpu i deimlo'n aelodau cyfartal a gwerthfawr o'n cymdeithas.

"Ysgol Y Berllan Deg yw'Ysgol Noddfa' Cyfrwng Cymraeg gyntaf Caerdydd ac mae'n ymuno â 19 ysgol arall i greu amgylchedd croesawgar lle mae disgyblion, staff a'u cymunedau ehangach yn deall beth mae'n ei olygu i fod yn ceisio noddfa. Mae'r ysgol wedi cydnabod pwysigrwydd ymgorffori'r ethos hwn yn eu cwricwlwm, gan helpu i gefnogi addewid Caerdydd i fod yn Ddinas Noddfa. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn esiampl i ysgolion Cymraeg eraill ei dilyn."

 

Beth yw Ysgol Noddfa?

  • Mae'n lle sy'n meithrin diwylliant o groeso a diogelwch i bobl sy'n ceisio noddfa, gan gynnwys teuluoedd sy'n ceisio lloches a ffoaduriaid.
  • Mae'n addysgu cymuned yr ysgol gyfan am yr hawl ddynol i gael noddfa ac mae'n nodi dulliau ymarferol i ysgolion ddangos yr ymrwymiad hwnnw.
  • Mae'n meithrin empathi ac ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol trwy hyrwyddo lleisiau a chyfraniadau pobl sy'n ceisio noddfa, gan annog dealltwriaeth o brofiadau pobl sydd wedi'u dadleoli a helpu i fynd i'r afael â stereoteipiau.

 

Dywedodd y Pennaeth Mari Phillips: "Rydym yn hynod falch mai ni yw'r ysgol Gymraeg gyntaf yng Nghaerdydd i ennill y wobr hon. Er nad oes gennym ffoaduriaid ar hyn o bryd fel rhan o gymuned yr ysgol, mae wedi bod yn brofiad gwerthfawr i bawb sy'n gysylltiedig i godi ymwybyddiaeth o'r heriau sy'n wynebu ffoaduriaid a dangos bod Ysgol Y Berllan Deg yn lle croesawgar a diogel i blant a theuluoedd o bob cefndir ac amgylchiadau."

 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Rydym eisiau i'n holl ysgolion fod yn fannau diogel sy'n croesawu pawb, gan gynnig noddfa i bobl sy'n ffoi rhag trais ac erledigaeth.

 

"Mae'n ysbrydoledig gweld bod Ysgol Y Berllan Deg wedi cydnabod pwysigrwydd hyn er nad oes ganddynt unrhyw blant sy'n ceisio lloches neu ffoaduriaid ar y gofrestr ar hyn o bryd. Rwy'n annog mwy o ysgolion i wneud yr un peth.

 

"Llongyfarchiadau a diolch i ddisgyblion, rhieni, staff a llywodraethwyr yr ysgol am eu gwaith caled a'u hymroddiad i gyflawni Ysgolion Noddfa, menter sy'n cefnogi uchelgais Caerdydd i ddod yn Bwyllgor y DU ar gyfer Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF UK."