31/10/23
Bydd Cymru'n herio y Barbarians ddydd Sadwrn 4 Tachwedd yn Stadiwm Principality.
Gyda'r gic gyntaf am 2:30pm - bydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau o10:30am tan 6:30pm neu mor fuan yr ystyrir ei bod yn ddiogel,i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel.
Mae disgwyl y bydd traffordd yr M4 a'r rhwydwaith cefnffyrdd cyfagos yn brysur iawn - cynlluniwch ymlaen llaw - ac osgowch y tagfeydd yng Nghaerdydd drwy ddefnyddio'r cyfleusterau parcio a theithio yn Neuadd y Sir, Bae Caerdydd.Gallwch chi weld gwybodaeth gyfredol am y draffordd a chefnffyrdd arWefan Traffig Cymru, neu @TrafficWalesS arTwitteraFacebook.
Bydd y gatiau'n agor am 12.15pm, cynghorir y rhai sy'n mynychu'r gêm rygbi yn gryf i gynllunio eu taith a mynd i mewn yn gynnar. Sylwch y rhestr o eitemau gwaharddedig yn principalitystadium.cymru,yn arbennig y polisi bagiau (dim bagiau mawr) cyn teithio i'r ddinas.
Cau ffyrdd
Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar o 7am i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas am 10:30am tan 6:30pm
Ychwanegiadau:
Y Ganolfan Ddinesig:Rheolir mynediad i ran o'r Ganolfan Ddinesig drwy'r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad at feysydd parcio preifat.
Bydd hynny'n effeithio ar y ffyrdd hyn: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.
Trenau
MaeTrafnidiaeth Cymruyn gwneud gwaith uwchraddio seilwaith ar gyfer Metro De Cymru, felly mae bysus yn disodli gwasanaethau rheilffordd trwy'r dydd rhwng Pontypridd a Threherbert a rhwng Heol-y-Frenhines Caerdydd a Bae Caerdydd (nid oes gwasanaeth bws pwrpasol ar y llwybr hwn - cytunwyd â Bws Caerdydd y bydd yn derbyn y tocynnau) ddydd Sadwrn 4 Tachwedd.
Bydd TC yn ychwanegu capasiti lle y bo modd i gyrraedd/adael y ddinas ond y disgwyl yw y bydd gwasanaethau'n brysur iawn felly teithiwch yn gynnar.
Bydd ciwiau ar ôl y digwyddiad am wasanaethau'r brif lein ar y Sgwâr Canolog a chiwiau am wasanaethau'r Cymoedd y tu cefn i'r orsaf. Bydd gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd yn cau am 3:30pm
Ewch itfw.cymruneu ap Trafnidiaeth Cymru newydd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am deithio.
Os bydd gennych unrhyw broblemau ar y rheilffordd, siaradwch â'r swyddog tocynnau, neu am faterion mwy difrifol gallwch anfon neges destun at Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 61016 neu ffonio 0800 40 50 40 . Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob tro.
ByddGreat Western Railway (GWR)yn cynnal gwasanaethau ychwanegol i helpu cwsmeriaid i gyrraedd adref ar ôl y gêm Cymru yn erbyn y Barbarians. Bydd trenau ychwanegol o Gaerdydd Canolog i Abertawe, Casnewydd, Bryste a Llundain; gyda llawer o lefydd parcio ar gael ym meysydd parcio'r orsaf.
Fodd bynnag, mae disgwyl i drenau fod yn brysur iawn yn syth ar ôl y gêm a bydd system giwio ar waith y tu allan i'r orsaf i helpu pobl i fynd i mewn i'r trenau'n ddiogel.
Dylai'r rhai sy'n teithio'n bellach wirio gwasanaethau cyswllt ynwww.gwr.com/check.
Cyfleusterau Parcio a Theithio
Bydd cyfleusterau Parcio a Theithio ar gyfer y digwyddiad yn Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd.
Bydd y man gollwng yng nghanol y ddinas yn Sgwâr Callaghan. (Maes parcio Eversheds.)
Bydd cost o £12 yn daladwy ar y diwrnod.
Bydd y safle Parcio a Theithio yn agor am 8.45am, a bydd y bws cyntaf yn gadael am 9am. Bydd y bws olaf o ganol y ddinas am 7pm gyda'r safle yn cau am 7.30pm.
Parcio yng Nghanol y Ddinas ar Ddiwrnod y Digwyddiad (Ceir a Bysus)
I gyrraedd: Gadewch wrth Gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.
Cost: £20 fesul car a £30 fesul bws - yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio - mae taliadau cerdyn hefyd ar gael nawr.
Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.
Parcio ar Ddiwrnod y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
Gerddi Sophia (ceir)
(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).
Parcio ar gyfer y Digwyddiad yng Ngerddi Sophia
I gyrraedd: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.
Cost: £20 i geir a £30 i fysus yn daladwy ar y diwrnod yn y maes parcio - mae taliadau cerdyn ar gael nawr hefyd.
Amserau parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8.00am ac yn cau am hanner nos.
Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 7.00pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.
Bws
Bysus lleol:
Caiff gwasanaethau bws eu dargyfeirio tra bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau.
Ewch i wefan y cwmni bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.
Bws Caerdyyd: Digwyddiadau Stadiwm Principality - Bws Caerdydd
I ddarllen am wasanaethau Stagecoach, ewch i: Croeso i Stagecoach (stagecoachbus.com)
Neu i gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau NAT, ewch i:https://www.natgroup.co.uk/
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer. Rhwng 3p ac 8pm, Heol y Gadeirlan fydd man casglu Gwasanaethau National Express. .
Allwch chi feicio neu gerdded?
Gall y rheini sy'n byw yng Nghaerdydd seiclo neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai na 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei seiclo'n braf mewn 20 munud.
Gwyddom hefyd yr hoffai 28% o drigolion Caerdydd nad ydyn nhw'n seiclo ar hyn o bryd roi cynnig arno.
Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud seiclo yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.
Parcio i Siopwyr
Mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol ac NCP (Stryd Adam, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion).
Parcio i Bobl Anabl
Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.
Gweler argaeledd ar wefannau unigol.
Tacsis
Bydd safle tacsis Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 10.30am ac yn ailagor am 6.30pm.