Back
Y newyddion gennym ni - 30/10/23

Image

27/10/23 - Croeso nôl i'r fenter Croeso Cynnes

Unwaith eto, mae hybiau a llyfrgelloedd Caerdydd yn cynnig croeso cynnes i gwsmeriaid a thrigolion yr adeg hon o'r flwyddyn, gyda'r tywydd oerach yn ein cyrraedd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

27/10/23 - Arglwydd Faer yn arwain teyrngedau Caerdydd i'r rhai sydd wedi marw

Arweiniodd Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Bablin Molik, deyrngedau'r ddinas heddiw i'r rhai yn y Lluoedd Arfog a gollodd eu bywydau mewn dau ryfel byd a gwrthdaro eraill, wrth agor y Cae Coffa ar dir Castell Caerdydd.

Darllenwch fwy yma

 

Image

27/10/23 - Cydnabyddiaeth fyd-eang i Gaerdydd wrth iddi ddod y ddinas gyntaf yn y DU i gael ei henwi'n Ddinas sy'n Dda i Blant UNIC

Heddiw, gall Cyngor Caerdydd gyhoeddi'n falch fod y ddinas wedi'i datgan yn swyddogol yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF - y gyntaf o'r fath yn y DU.

Darllenwch fwy yma

 

Image

26/10/23 - Nofio dŵr agored yn Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd

Gall nofwyr sy'n chwilio am ddŵr diogel a glân i'w fwynhau yng Nghaerdydd blymio i'r dyfroedd gyda sesiynau nofio dŵr agored newydd Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd o'r wythnos nesaf ymlaen.

Darllenwch fwy yma

 

Image

26/10/23 - Cyngor Caerdydd yn derbyn argymhelliad i Neuadd Dewi Sant aros ar gau

Mewn cyfarfod a gynhaliwyd heddiw, dydd Iau, 26 Hydref, mae Cabinet Cyngor Caerdydd wedi derbyn argymhelliad i Neuadd Dewi Sant aros ar gau nes bod to newydd yn cael ei osod a'r adeilad yn cael ei ailwampio.

Darllenwch fwy yma

 

Image

25/10/23 - 30,000 yn fwy o goed wedi'u cynllunio ar gyfer coedwig drefol Caerdydd

Mae disgwyl i 30,000 yn fwy o goed gael eu plannu yng nghoedwig drefol Caerdydd dros y 6 mis nesaf wrth i wirfoddolwyr ymuno â digwyddiadau plannu coed cymunedol sy'n cael eu cynnal ledled y ddinas.

Darllenwch fwy yma

 

Image

24/10/23 - Mae Ffederasiwn Dysgu'r Gorllewin yn enghraifft o arfer gorau yn ôl Estyn

Mae Estyn wedi cyhoeddi chwe maes o arfer effeithiol nodedig ar gyfer Ffederasiwn Dysgu'r Gorllewin yn Nhrelái.

Darllenwch fwy yma

 

Image

23/10/23 - Ymweliad Democratiaeth Leol Ar Gyfer Senedd Ysgol Caerdydd

Cafodd disgyblion o ysgol gynradd yn y ddinas gipolwg arbennig ar ddemocratiaeth leol yng Nghaerdydd ar ymweliad â Neuadd y Sir.

Darllenwch fwy yma