Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, yn cynnwys:
Cydnabyddiaeth fyd-eang i Gaerdydd wrth iddi ddod y ddinas gyntaf yn y DU i gael ei henwi'n Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF
Heddiw, gall Cyngor Caerdydd gyhoeddi'n falch fod y ddinas wedi'i datgan yn swyddogol yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF - y gyntaf o'r fath yn y DU.
Mae'r statws clodfawr a gydnabyddir yn rhyngwladol wedi'i ddyfarnu i Gaerdydd i gydnabod y camau y mae'r cyngor a'i bartneriaid wedi'u cymryd dros y pum mlynedd diwethaf i ddatblygu hawliau dynol plant a phobl ifanc ledled y ddinas.
Ymunodd Cyngor Caerdydd a'i bartneriaid â Phwyllgor y DU ar gyfer rhaglen Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Blant UNICEF (UNICEF UK) yn 2017 fel rhan o garfan arloesol. Ers hynny, mae wedi bod yn gweithredu strategaethau i wreiddio hawliau plant - fel yr amlinellir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn - yn ei bolisïau a'i wasanaethau.
Gan weithio gyda phlant a phobl ifanc y ddinas, mae Caerdydd wedi blaenoriaethu chwe maes allweddol: Arweinyddiaeth a Chydweithrediad; Cyfathrebu; Diwylliant; Iechyd; Teulu a Pherthyn; Addysg a Dysgu.
Mae'r blaenoriaethau a'r nodau hyn wedi'u hymgorffori yn Strategaeth sy'n Dda i Blant Caerdydd ers 2018. Gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau ar draws y ddinas, cynhaliwyd nifer sylweddol o brosiectau, mentrau a chamau gweithredu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu manteisio ar eu hawliau, ffynnu a chyrraedd eu potensial, tra'n mynd i'r afael â'r rhwystrau a allai gyfyngu ar eu cyfleoedd bywyd.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Ers lansio Strategaeth sy'n Dda i Blant Caerdydd, mae'r ddinas wedi cychwyn ar daith o drawsnewid gyda'r nod i bob plentyn, gan gynnwys y rhai mwyaf agored i niwed, deimlo'n ddiogel, bod ganddynt lais, eu bod yn cael eu meithrin a'u bod yn gallu ffynnu, i fod yn fan lle mae eu hawliau yn cael eu parchu gan bawb.
"Trwy uchelgais gyffredin gwasanaethau cyhoeddus eraill, mae gwaith helaeth wedi'i wneud i sicrhau bod Caerdydd yn fan lle mae pob plentyn a pherson ifanc, waeth beth fo'u cred, ethnigrwydd, cefndir neu gyfoeth, yn ddiogel, yn iach, yn hapus ac yn gallu rhannu llwyddiant y ddinas gyda chyfle cyfartal i wneud y gorau o'u bywydau a'u doniau.
"Sylfaen y newid hwn oedd datblygu diwylliant sy'n parchu hawliau ar draws y cyngor ac ymysg partneriaid ledled y ddinas i sicrhau bod ein staff yn wybodus ac yn hyderus ynghylch hawliau a'r broses o'u harfer. Cefnogwyd hyn gan bolisi sydd wedi grymuso plant a phobl ifanc i gymryd rhan ystyrlon mewn penderfyniadau sy'n bwysig iddynt, gan alluogi gwasanaethau i fodloni eu hanghenion ac oedolion i fod yn fwy atebol am y ffordd y mae hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu parchu, eu diogelu a'u cyflawni."
Mae rhai uchafbwyntiau hyd yn hyn yn cynnwys:
Cyngor Caerdydd yn derbyn argymhelliad i Neuadd Dewi Sant aros ar gau
Mewn cyfarfod a gynhaliwyd heddiw, dydd Iau, 26 Hydref, mae Cabinet Cyngor Caerdydd wedi derbyn argymhelliad i Neuadd Dewi Sant aros ar gau nes bod to newydd yn cael ei osod a'r adeilad yn cael ei ailwampio.
Daw hyn wedi i adroddiad i baneli concrit 'a allai fod yn beryglus' yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd ganfod bod angen ailosod to'r adeilad.
Comisiynwyd yr adroddiad gan Gyngor Caerdydd yn dilyn newidiadau i gyngor yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar Goncrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth RAAC mewn adeiladau cyhoeddus.
Dros y misoedd diwethaf, mae sawl adeilad wedi cau ar draws y DU oherwydd pryderon am RAAC - deunydd adeiladu y dywedodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch oedd bellach wedi mynd heibio i'w oes arfaethedig ac mae'n debygol o fethu heb rybudd.
Mae arbenigwyr RAAC wedi bod yn Neuadd Dewi Sant ers sawl wythnos yn cynnal profion 'ymwthiol' ar baneli ar draws to'r adeilad.
Nododd eu hadroddiad fod nifer o'r 900 a mwy o baneli yn y to yn 'goch - difrifol' ac eraill yn 'goch - risg uchel' sy'n golygu y gallent fethu a dymchwel. Mae peirianwyr yn argymell bod y lleoliad yn aros ar gau nes bod mesurau lliniaru brys yn cael eu rhoi ar waith neu nes bod to newydd yn cael ei osod.
30,000 yn fwy o goed wedi'u cynllunio ar gyfer coedwig drefol Caerdydd
Mae disgwyl i 30,000 yn fwy o goed gael eu plannu yng nghoedwig drefol Caerdydd dros y 6 mis nesaf wrth i wirfoddolwyr ymuno â digwyddiadau plannu coed cymunedol sy'n cael eu cynnal ledled y ddinas.
Cynhelir dros 150 o ddigwyddiadau cymunedol yn ystod y tymor plannu coed swyddogol, sy'n rhedeg o ddiwedd mis Hydref tan ddechrau mis Ebrill fel rhan o raglen plannu coed torfol Cyngor Caerdydd, Coed Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys digwyddiadau gydag ysgolion, grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr corfforaethol, a phreswylwyr.
Wedi'i sefydlu yn 2021, mae Coed Caerdydd eisoes wedi gweld gwirfoddolwyr yn rhoi 5,000 o oriau o'u hamser, gan helpu i blannu a gofalu am oddeutu 50,000 o goed newydd, wedi'u gwasgaru ar draws pob ward cyngor yn y ddinas.
Dwedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Y llynedd roedd gennym 1,356 o wirfoddolwyr yn ein helpu gyda'r plannu ac os gallwn wneud yr un peth eleni, gallem fod yn plannu 80,000 o goed newydd mewn ychydig dros dair blynedd. Mae hynny'n newyddion gwych i Gaerdydd ac i'r blaned a byddwn yn annog pobl i gofrestru ar gyfer un o'n digwyddiadau plannu, maen nhw'n hwyl ac yn ffordd wych o wneud gwahaniaeth cadarnhaol.
"Wrth i'r coed hyn gael eu sefydlu, byddant yn darparu cynefinoedd pwysig ar gyfer natur, yn gwneud ein dinas yn wyrddach, yn glanhau'r aer rydyn ni i gyd yn ei anadlu, ac yn helpu i amsugno rhai o'r allyriadau carbon rydyn ni'n eu creu, sy'n newid yr hinsawdd."
Nofio dŵr agored yn Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd
Gall nofwyr sy'n chwilio am ddŵr diogel a glân i'w fwynhau yng Nghaerdydd blymio i'r dyfroedd gyda sesiynau nofio dŵr agored newydd Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd o'r wythnos nesaf ymlaen.
Bydd y sesiynau, sy'n cael eu goruchwylio gan achubwyr bywyd, yn rhedeg o 9am - 10am bob dydd Mercher, dydd Iau a dydd Sadwrn ac yn costio £6. Yn addas i nofwyr 18 oed neu hŷn, cynhelir y sesiynau mewn rhan o Fae Caerdydd a ddefnyddir yn benodol gan y ganolfan ar gyfer eu hamrywiaeth gyffrous o weithgareddau dŵr sydd, yn ogystal â rafftio dŵr gwyn, hefyd yn cynnwys padlfyrddio, caiacio a chanŵio.
Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau: "Bydd y sesiynau hyn yn ychwanegiad gwych at yr hyn sydd ar gael yn Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd a byddant yn helpu i annog mwy o bobl i fwynhau manteision iechyd nofio dŵr agored mewn amgylchedd glân a diogel."
Mae ansawdd dŵr yn Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd yn cael ei fonitro a'i brofi'n wythnosol er mwyn sicrhau ei fod o'r safon ofynnol i nofio'n ddiogel.
Bydd achubwyr bywydau yn monitro'r sesiynau i sicrhau bod pob nofiwr yn yr ardal yn ddiogel.
Argymhellir siwtiau dŵr ond nid ydynt yn orfodol.
I archebu, ewch i:Archebu - Nofio Dŵr Agored | eola