Back
Cyngor Caerdydd yn derbyn argymhelliad i Neuadd Dewi Sant aros ar gau

26/10/23

Mewn cyfarfod a gynhaliwyd heddiw, dydd Iau, 26 Hydref, mae Cabinet Cyngor Caerdydd wedi derbyn argymhelliad i Neuadd Dewi Sant aros ar gau nes bod to newydd yn cael ei osod a'r adeilad yn cael ei ailwampio.

Daw hyn wedi i adroddiad i baneli concrit 'a allai fod yn beryglus' yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd ganfod bod angen ailosod to'r adeilad.

Comisiynwyd yr adroddiad gan Gyngor Caerdydd yn dilyn newidiadau i gyngor yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar Goncrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth RAAC mewn adeiladau cyhoeddus.

Dros y misoedd diwethaf, mae sawl adeilad wedi cau ar draws y DU oherwydd pryderon am RAAC - deunydd adeiladu y dywedodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch oedd bellach wedi mynd heibio i'w oes arfaethedig ac mae'n debygol o fethu heb rybudd.

Mae arbenigwyr RAAC wedi bod yn Neuadd Dewi Sant ers sawl wythnos yn cynnal profion 'ymwthiol' ar baneli ar draws to'r adeilad.

Nododd eu hadroddiad fod nifer o'r 900 a mwy o baneli yn y to yn 'goch - difrifol' ac eraill yn 'goch - risg uchel' sy'n golygu y gallent fethu a dymchwel. Mae peirianwyr yn argymell bod y lleoliad yn aros ar gau nes bod mesurau lliniaru brys yn cael eu rhoi ar waith neu nes bod to newydd yn cael ei osod.

Byddai mesurau lliniaru dros dro yn cymryd o leiaf chwe mis ac mae'n debygol o gostio sawl miliwn o bunnoedd, ond byddai'n rhaid ailosod y to cyfan o hyd ar gost o filiynau lawer yn fwy ar ryw adeg.

Mae hyn yn cyflwyno cwestiwn difrifol ynghylch gwerth ariannol ac ymarferol datrysiad dros dro, o ystyried yr angen i osod to newydd yn gyfan gwbl beth bynnag. Mae hefyd yn codi pryderon ynghylch yswiriant ac atebolrwydd y byddai'n rhaid i unrhyw atgyweiriad dros dro eu bodloni. Mae Adroddiad y Cabinet felly yn argymell trwsio'r to mewn un cam gan alluogi'r lleoliad i ailagor ar gyfer y tymor hir pan fydd yn barod i groesawu mynychwyr cyngherddau yn ôl.

Roedd Neuadd Dewi Sant yn y broses o gael ei gosod ar brydles i Academy Music Group (AMG) sy'n ymwybodol o'r RAAC yn yr adeilad ac roeddent wedi ymrwymo i adnewyddu'r lleoliad a delio â materion y to fel rhan o gytundeb gwreiddiol y brydles.

Wrth gytuno ar y camau nesaf yn ei gyfarfod heddiw, penderfynodd Cabinet Cyngor Caerdydd fwrw ymlaen â chynlluniau i lunio cytundeb prydles gydag AMG gan ystyried y materion a godwyd yn adroddiad y peirianwyr.

O dan y cytundeb prydles gwreiddiol, roedd AMG wedi bwriadu cadw Neuadd Dewi Sant ar agor a'i chau am dymor byr yn unig tra bod gwaith atgyweirio yn cael ei gynnal. Ond mae canfyddiadau'r adroddiad newydd hwn bellach yn argymell cau'r adeilad yn llwyr er mwyn gosod to newydd a allai gymryd tua 18 mis i'w gwblhau. Tra bod yr adeilad ar gau mae AMG wedi ymrwymo i gyflwyno ei gynlluniau i adnewyddu'r lleoliad.

Bydd gosod to newydd ar Neuadd Dewi Sant yn gymhleth ac yn gostus am y rhesymau canlynol:

  • y lleoliad yng nghanol y ddinas yn yr Ais;
  • uchder y to/nenfwd;
  • rhestrwyd yr adeilad yn ddiweddar fel un sydd o ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig;
  • y gofyniad i gadw ansawdd acwstig y lleoliad;
  • y gofynion tebygol ar gyfer caniatâd cynllunio.

O ystyried y datblygiadau diweddar, mae AMG wedi gofyn i'r Cyngor ystyried bod y brydles yn amodol am gyfnod i'w galluogi i geisio canfod datrysiad hyfyw ac i sicrhau caniatâd cynllunio a chaniatâd adeilad rhestredig ar gyfer y gwaith gofynnol i'r to a rhannau eraill o'r adeilad, cais sydd wedi'i gytuno gan y Cabinet heddiw.

Bydd cytuno ar brydles amodol yn rhoi'r sicrwydd sydd ei angen ar AMG i wario arian ymlaen llaw i wneud gwaith dylunio manwl ac i gyflwyno ceisiadau am ganiatâd cynllunio a chaniatâd adeilad rhestredig. Ar ôl cyflawni'r rhain, byddai'r brydles yn dod yn ddiamod ac yn dychwelyd i'r brydles atgyweirio lawn cyn i AMG ymgymryd â'r gwaith. Bydd costau'r gwaith dylunio cyn dychwelyd i'r brydles atgyweirio lawn ar risg AMG eu hunain a'r gobaith yw y gallai'r lleoliad ailagor yn hanner cyntaf 2025 cyn cystadleuaeth nesaf BBC Canwr y Byd Caerdydd. 

Byddai pob amod arall o'r brydles, gan gynnwys diogelu'r rhaglen glasurol pan fydd y lleoliad yn ailagor, yn cael eu bodloni.

Dwedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae strategaeth rheoli adeiladau ac iechyd a diogelwch wedi bod ar waith yn y lleoliad am y deunaw mis diwethaf.  Roedd hyn yn cynnwys archwiliadau rheolaidd gan beirianwyr strwythurol annibynnol gydag arbenigedd RAAC penodol.

"Trwy gydol y cyfnod hwn ni chodwyd unrhyw faterion am gyflwr RAAC yn yr adeilad ac nid oedd unrhyw dystiolaeth o ddirywiad. Fodd bynnag, yn dilyn newid i gyngor yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, daethpwyd ag arbenigwyr RAAC i mewn i gynnal arolwg 'ymwthiol'. Mae hyn wedi arwain at argymhelliad i'r Cabinet i gadw'r lleoliad ar gau nes bod AMG yn gosod to newydd. Mae Cyngor Caerdydd wedi canslo pob cyngerdd a digwyddiad sydd ar ddod yn y Neuadd tan y Flwyddyn Newydd a bydd hyn yn cael ei ymestyn ymhellach yn dilyn y penderfyniad heddiw.

"Rydym yn gwybod y bydd hyn yn achosi llawer o anghyfleustra a siom i'n cwsmeriaid, ond gobeithio y byddant yn deall bod diogelwch cynulleidfaoedd, staff, artistiaid, gwirfoddolwyr a phawb yn y lleoliad yn hollbwysig.

"Byddwn yn cysylltu â hyrwyddwyr a llogwyr i drafod y potensial ar gyfer symud perfformiadau i leoliadau eraill. Nid oes angen i gwsmeriaid gysylltu â Neuadd Dewi Sant, byddwn yn cysylltu â'r holl ddeiliaid tocynnau am yr opsiynau sydd ar gael i chi unwaith y byddwn wedi siarad â hyrwyddwyr y sioeau sydd wedi eu heffeithio.  Byddem yn ddiolchgar pe gallai cwsmeriaid roi'r amser i ni ymgymryd â'r gwaith hwn fel y gallwn ddod yn ôl atoch cyn gynted â phosibl am eich tocynnau/digwyddiadau sydd wedi cael eu canslo.

"Mae'r Cyngor wedi bod yn gyson glir ynghylch yr angen i fuddsoddi yn Neuadd Dewi Sant i sicrhau ei dyfodol hirdymor, gan fynd i'r afael â RAAC a materion cynnal a chadw eraill, a gadarnhawyd mewn adroddiad gan y Cabinet y llynedd.

"Mae gwaith yn parhau i drosglwyddo'r neuadd i (AMG). Cyn cymryd drosodd gweithrediad Neuadd Dewi Sant, roedd AMG eisoes wedi cynnal ei archwiliadau ei hun ac er bod ganddo gynlluniau i wneud gwaith adfer ac i gadw'r lleoliad ar agor, mae'r adroddiad diweddaraf i gyflwr RAAC yn yr adeilad yn dangos yn glir y byddai'n well cadw'r lleoliad ar gau nes iddo gael ei adnewyddu'n llwyr,  a nes bod to newydd yn cael ei osod.

"Unwaith eto, rydym yn ymddiheuro i gwsmeriaid Neuadd Dewi Sant am ganslo sioeau'n hwyr, ac rydym am eich sicrhau y byddwn mewn cysylltiad i drafod dyddiadau newydd a/neu ddewisiadau amgen i berfformiadau.  Dilynwch adran newyddion gwefan Neuadd Dewi Sant am ddiweddariadau. Diolch am eich dealltwriaeth a'ch amynedd.

"Rydym yn parhau i weithio i drosglwyddo'r neuadd i Academy Music Group (AMG). Rydym yn rhoi gwybod iddynt am y camau yr ydym yn eu cymryd, ac rydym yn trafod yn gyson â staff Neuadd Dewi Sant i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt hefyd.

Cymerodd Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant y Cyngor yr adroddiad yn ei gyfarfod ar 24 Hydref. Mae gwe-ddarllediad wedi'i recordio o'r cyfarfod ar gael i'w wylio  yma.

Mae recordiad o gyfarfod y Cabinet heddiw ar gael i'w wylio  yma.