Back
30,000 yn fwy o goed wedi'u cynllunio ar gyfer coedwig drefol Caerdydd

25.6.23

Mae disgwyl i 30,000 yn fwy o goed gael eu plannu yng nghoedwig drefol Caerdydd dros y 6 mis nesaf wrth i wirfoddolwyr ymuno â digwyddiadau plannu coed cymunedol sy'n cael eu cynnal ledled y ddinas.

Cynhelir dros 150 o ddigwyddiadau cymunedol yn ystod y tymor plannu coed swyddogol, sy'n rhedeg o ddiwedd mis Hydref tan ddechrau mis Ebrill fel rhan o raglen plannu coed torfol Cyngor Caerdydd, Coed Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys digwyddiadau gydag ysgolion, grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr corfforaethol, a phreswylwyr.

A group of people in a fieldDescription automatically generated

Gwirfoddolwyr wrth eu gwaith yn ystod digwyddiad plannu coed Coed Caerdydd.

Wedi'i sefydlu yn 2021, mae Coed Caerdydd eisoes wedi gweld gwirfoddolwyr yn rhoi 5,000 o oriau o'u hamser, gan helpu i blannu a gofalu am oddeutu 50,000 o goed newydd, wedi'u gwasgaru ar draws pob ward cyngor yn y ddinas.

Dwedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau:  "Y llynedd roedd gennym 1,356 o wirfoddolwyr yn ein helpu gyda'r plannu ac os gallwn wneud yr un peth eleni, gallem fod yn plannu 80,000 o goed newydd mewn ychydig dros dair blynedd. Mae hynny'n newyddion gwych i Gaerdydd ac i'r blaned a byddwn yn annog pobl i gofrestru ar gyfer un o'n digwyddiadau plannu, maen nhw'n hwyl ac yn ffordd wych o wneud gwahaniaeth cadarnhaol.

"Wrth i'r coed hyn gael eu sefydlu, byddant yn darparu cynefinoedd pwysig ar gyfer natur, yn gwneud ein dinas yn wyrddach, yn glanhau'r aer rydyn ni i gyd yn ei anadlu, ac yn helpu i amsugno rhai o'r allyriadau carbon rydyn ni'n eu creu, sy'n newid yr hinsawdd."

Wrth asesu safleoedd ar gyfer plannu, mae amodau amgylcheddol a'r pridd yn cael eu hystyried wrth ddethol rhywogaethau i roi'r cyfle gorau i'r coed sydd newydd eu plannu oroesi.

Yna mae rhwydwaith o warchodwyr coed gwirfoddol yn gofalu am y coed newydd, gan weithio ochr yn ochr â thimau'r Cyngor i helpu i roi dŵr iddynt a gofalu amdanynt.

I ddod o hyd i ddigwyddiad plannu coed yn eich ardal chi, a chofrestru i gymryd rhan, ewch i: https://www.eventbrite.com/o/coed-caerdydd-46791623513