Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 20 Hydref 2023

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, yn cynnwys:

  • Hwyl hanner tymor i bawb yn Niwrnod Chwarae'r Hydref Caerdydd
  • Neuadd Dewi Sant i aros ar gau nes bod to newydd yn cael ei osod a'r adeilad yn cael ei adnewyddu
  • Cyngor Caerdydd yn cytuno ar gyllid ar gyfer prosiect ysgolion blaenllaw

 

Hwyl hanner tymor i bawb yn Niwrnod Chwarae'r Hydref Caerdydd

Os yw'n teimlo na fu pum munud ers i wyliau ysgol hir yr haf ddod i ben, efallai na fydd rhai rhieni eisiau clywed bod hanner tymor yr Hydref bron â chyrraedd.

Pan fydd yr ysgolion yn cau eto ar 27 Hydref am wythnos, bydd angen cadw meddyliau ifanc yn brysur gyda gweithgareddau cyffrous ac anturus. Ac os ydych chi'n chwilio am syniadau, mae cymorth wrth law drwy garedigrwydd tîm Gwasanaethau Chwarae Cyngor Caerdydd.

Maen nhw wedi trefnu Diwrnod Chwarae i bob oed yn Hyb y Llyfrgell Ganolog ar Yr Ais, Caerdydd, ddydd Iau, 2 Tachwedd rhwng 1pm a 4pm.

Mae'r gweithgareddau'n cynnwys modelu sothach - gwneud teganau o wrthrychau cartref bob dydd fel bocsys wyau - a chelf a chrefft, adeiladu ffau, adrodd stori, gemau synhwyraidd a chwarae rôl ynghyd â sesiwn canu. Ar ben hynny, mae'r cyfan ar gael i gymryd rhan am ddim ac mae dan do - felly does dim modd i'r tywydd ei ddifetha - a does dim angen cadw lle: dim ond dewch draw gyda'ch plant.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc: "Mae Diwrnod Chwarae Cenedlaethol, a oedd i gael ei gynnal ym Mharc y Mynydd Bychan, wedi bod yn ddigwyddiad allweddol ers amser maith i'n tîm Gwasanaethau Chwarae Plant ac mae pawb wedi gweithio'n galed eleni i sicrhau ei fod yn cynnig syniadau gwych am sut y gellir diddanu eich plant ‘gyda deupen llinyn ynghyd'.

"Yn anffodus, rhoddodd y tywydd pen arno'n gynharach eleni ond mae ein tîm Gwasanaethau Chwarae yn cynnal digwyddiad gwych arall yn Hyb y Llyfrgell Ganolog ar 2 Tachwedd a fydd yn dangos bod chwarae'n hanfodol i blant fwynhau eu plentyndod ac yn hollbwysig i'w hiechyd, lles a datblygiad."

I gael gwybod mwy am y Diwrnod Chwarae Cenedlaethol, ewch i:
https://www.playday.org.uk/about-playday/whats-playday/  

Yn ogystal â chynnal Diwrnod Chwarae Cenedlaethol, mae gan hybiau a llyfrgelloedd ledled y ddinas gyfoeth o weithgareddau a digwyddiadau drwy gydol gwyliau hanner tymor yr ysgol. I ddysgu beth sy' mlaen yn eich hyb neu lyfrgell leol, ewch i:

www.hybiaucaerdydd.co.uk

 

Neuadd Dewi Sant i aros ar gau nes bod to newydd yn cael ei osod a'r adeilad yn cael ei adnewyddu

Mae adroddiad i baneli concrit 'a allai fod yn beryglus' yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd yn argymell bod angen ailosod to'r adeilad yn llwyr.

Comisiynwyd yr adroddiad gan Gyngor Caerdydd yn dilyn newidiadau i gyngor yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar Goncrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth RAAC mewn adeiladau cyhoeddus.

Dros y misoedd diwethaf, mae sawl adeilad wedi cau ar draws y DU oherwydd pryderon am RAAC - deunydd adeiladu y dywedodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch oedd bellach wedi mynd heibio i'w oes arfaethedig ac mae'n debygol o fethu heb rybudd.

Mae arbenigwyr RAAC wedi bod yn Neuadd Dewi Sant ers sawl wythnos yn cynnal profion 'ymwthiol' ar baneli ar draws to'r adeilad.

Nododd eu hadroddiad fod nifer o'r 900 a mwy o baneli yn y to yn 'goch - difrifol' ac eraill yn 'goch - risg uchel' sy'n golygu y gallent fethu a dymchwel. Mae peirianwyr yn argymell bod y lleoliad yn aros ar gau nes bod mesurau lliniaru brys yn cael eu rhoi ar waith neu nes bod to newydd yn cael ei osod.

Gallai mesurau lliniaru dros dro gymryd hyd at chwe mis ac mae'n debygol o gostio sawl miliwn o bunnoedd, ond byddai'n rhaid ailosod y to cyfan o hyd ar gost o filiynau lawer yn fwy o fewn amser cymharol fyr.

Mae hyn yn cyflwyno cwestiwn difrifol ynghylch hyfywedd ariannol datrysiad dros dro cyn bod yn rhaid gosod to newydd beth bynnag. Mae hefyd yn codi pryderon ynghylch yswiriant ac atebolrwydd y byddai'n rhaid i unrhyw atgyweiriad dros dro eu bodloni. Mae'r adroddiad yn argymell trwsio'r to mewn un cam gan alluogi'r lleoliad i ailagor pan fydd yn barod i groesawu mynychwyr cyngherddau yn ôl.

Darllenwch fwy yma

 

Cyngor Caerdydd yn cytuno ar gyllid ar gyfer prosiect ysgolion blaenllaw

Mae un o brosiectau blaenllaw Cyngor Caerdydd i drawsnewid addysg ar draws y ddinas wedi goresgyn rhwystr mawr gyda chyllid yn cael ei gymeradwyo i ddechrau adeiladu Campws Cymunedol arloesol y Tyllgoed.

Fe wnaeth adroddiad newydd, a aeth gerbron Cabinet y cyngor ddoe (19 Hyd), yr un diwrnod y rhoddwyd caniatâd cynllunio llawn, argymell cymeradwyo cyllid a fydd yn caniatáu i'r prif waith adeiladu fynd rhagddo ar ailddatblygu safle Ysgol Uwchradd Cantonian..

Pan fydd y campws wedi'i gwblhau ym mlwyddyn academaidd 2026/27, bydd yn ymgorffori tair ysgol bresennol - Cantonian, Woodlands a Riverbank - ac yn ffurfio'r prosiect mwyaf yn rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, dirprwy arweinydd y Cyngor, a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae cymeradwyo'r adroddiad hwn a rhoi sêl bendith i'r cyllid yn gam sylweddol tuag at greu campws addysgol ar y cyd cyntaf Caerdydd.

"Pan fydd wedi'i gwblhau, bydd yn esiampl wych i weddill y ddinas ei dilyn ac yn gaffaeliad enfawr i ddisgyblion, staff a'r gymuned leol a fydd i gyd yn elwa o'r amwynderau modern, rhagorol hyn."

Darllenwch fwy yma