19.10.23
Os yw'n teimlo na fu pum munud ers i wyliau ysgol hir yr
haf ddod i ben, efallai na fydd rhai rhieni eisiau clywed bod hanner tymor yr
Hydref bron â chyrraedd.
Pan fydd yr ysgolion yn cau eto ar 27 Hydref am wythnos, bydd angen cadw meddyliau ifanc yn brysur gyda gweithgareddau cyffrous ac anturus. Ac os ydych chi'n chwilio am syniadau, mae cymorth wrth law drwy garedigrwydd tîm Gwasanaethau Chwarae Cyngor Caerdydd.
Maen nhw wedi trefnu Diwrnod Chwarae i bob oed yn Hyb y Llyfrgell Ganolog ar Yr Ais, Caerdydd, ddydd Iau, 2 Tachwedd rhwng 1pm a 4pm.
Mae'r gweithgareddau'n cynnwys modelu sothach – gwneud teganau o wrthrychau cartref bob dydd fel bocsys wyau – a chelf a chrefft, adeiladu ffau, adrodd stori, gemau synhwyraidd a chwarae rôl ynghyd â sesiwn canu. Ar ben hynny, mae'r cyfan ar gael i gymryd rhan am ddim ac mae dan do - felly does dim modd i’r tywydd ei ddifetha - a does dim angen cadw lle: dim ond dewch draw gyda'ch plant.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc: “Mae Diwrnod Chwarae Cenedlaethol, a oedd i gael ei gynnal ym Mharc y Mynydd Bychan, wedi bod yn ddigwyddiad allweddol ers amser maith i'n tîm Gwasanaethau Chwarae Plant ac mae pawb wedi gweithio'n galed eleni i sicrhau ei fod yn cynnig syniadau gwych am sut y gellir diddanu eich plant ‘gyda deupen llinyn ynghyd’.
"Yn anffodus, rhoddodd y tywydd pen arno’n gynharach eleni ond mae ein tîm Gwasanaethau Chwarae yn cynnal digwyddiad gwych arall yn Hyb y Llyfrgell Ganolog ar 2 Tachwedd a fydd yn dangos bod chwarae'n hanfodol i blant fwynhau eu plentyndod ac yn hollbwysig i’w hiechyd, lles a datblygiad."
I gael gwybod mwy am y Diwrnod Chwarae Cenedlaethol, ewch i https://www.playday.org.uk/about-playday/whats-playday/
Yn ogystal â chynnal Diwrnod Chwarae Cenedlaethol, mae gan hybiau a llyfrgelloedd ledled y ddinas gyfoeth o weithgareddau a digwyddiadau drwy gydol gwyliau hanner tymor yr ysgol. I ddysgu beth sy’ mlaen yn eich hyb neu lyfrgell leol, ewch i www.hybiaucaerdydd.co.uk