Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 17 Hydref 2023

Dyma'r diweddaraf gennym ni, sy'n cynnwys:

  • Mwy o gartrefi newydd yn barod i helpu i fynd i'r afael â phwysau digartrefedd
  • Adroddiad monitro blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol yn dangos fod cynnydd da yn cael ei wneud
  • Holi Caerdydd 2023
  • Myfyrwyr prifysgol yn gosod Her Caerdydd Carbon Niwtral

 

Mwy o gartrefi newydd yn barod i helpu i fynd i'r afael â phwysau digartrefedd

Mae'r cartrefi modiwlar newydd cyntaf ar ddatblygiad arloesol i helpu i fynd i'r afael â'r prinder tai fforddiadwy yng Nghaerdydd yn barod i groesawu eu preswylwyr newydd.

Mae'r partner datblygu Wates Group wedi trosglwyddo pedair fflat newydd ar hen safle'r Gwaith Nwy ar Heol y Fferi i'r Cyngor, yn ogystal ag adeilad cymunedol newydd a swyddfa ar y safle.

Mae'r cartrefi, sydd wedi eu cynhyrchu ymlaen llaw, yn rhan o gynllun fydd, yn y pen draw, yn darparu 155 eiddo ynni-effeithlon iawn mewn camau yn Ffordd y Rhaffau, Grangetown. Bydd y cartrefi modiwlar newydd yn helpu i leddfu'r pwysau ar wasanaethau digartrefedd lleol ac yn cynyddu argaeledd llety dros dro gan gynnig cymysgedd o eiddo un i bedair ystafell wely.

Derbyniodd y Cyngor gyllid gan Raglen Gyfalaf Llety Trosiannol Llywodraeth Cymru ar gyfer y cartrefi modiwlar, sydd wedi'u hadeiladu oddi ar y safle gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern (DAM) a'u gostwng i'w safle terfynol ar y safle gyda'r holl waith daear wedi'i gwblhau. Mae'r unedau'n cael eu cyflenwi gan Daiwa House Modular, @Home a Beattie Passive.

Darllenwch fwy yma

 

Adroddiad monitro blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol yn dangos fod cynnydd da yn cael ei wneud

Gwelodd Caerdydd fwy na 1,000 o swyddi newydd yn cael eu creu a 1,681 o gartrefi newydd yn cael eu codi rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023 yn ôl adroddiad newydd sy'n gwerthuso cynnydd Cynllun Datblygu Lleol y ddinas.

Y ffigwr tai yw'r twf blwyddyn unigol mwyaf a welwyd ers 2007-2008.

Mae'r data'n rhan o'r seithfed adroddiad blynyddol ar y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) mabwysiedig presennol a fydd yn cael ei drafod gan Gabinet Cyngor Caerdydd yn ei gyfarfod nesaf Ddydd Iau, 19 Hydref.

Mae CDLl yn lasbrint ar gyfer datblygu'r ddinas yn y dyfodol ac mae'n caniatáu i'r cyngor gael mwy o reolaeth dros wahanol fathau o ddatblygiadau, gan helpu i lunio Caerdydd lanach, gwyrddach, cryfach a thecach.

Mae'r adroddiad yn dadansoddi mwy na 130 o ddangosyddion ac yn dangos bod cynnydd da wedi'i wneud ar draws ystod ohonynt, gan gynnwys: swyddi, cartrefi newydd, cartrefi fforddiadwy, a phontio tuag at fathau cynaliadwy o drafnidiaeth.

Os yw Cabinet Cyngor Caerdydd yn cymeradwyo'r adroddiad, bydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref, yn unol â gofynion deddfwriaethol.

Darllenwch fwy yma

 

Holi Caerdydd 2023

Mae Holi Caerdydd yn arolwg blynyddol, mae'r arolwg yn rhoi cyfle i bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd a'r rhai sy'n ymweld â'r ddinas i rannu eu profiadau o wasanaethau cyhoeddus.

Y llynedd rhannodd bron 3,000 o bobl eu barn gyda ni - sicrhewch y caiff eich llais ei glywed.

Trwy gymryd tuag 20 munud i gwblhau'r arolwg hwn, byddwch yn ein helpu i:

  • ddeall yn well sut mae pobl yn profi'r ddinas a'n gwasanaethau cyhoeddus.
  • deall yr hyn sy'n bwysig i chi a'ch cymuned leol.
  • gwneud newidiadau a gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus ein dinas.

Gallwch gystadlu yn y raffl i ennill: tocyn teulu i sglefrio yng Ngŵyl y Gaeaf eleni; 4 tocyn i gêm Devils Caerdydd; neu un o ddeg taleb £50 FOR Cardiff, y gellir eu gwario mewn ystod eang o fwytai a siopau'r stryd fawr.

Dweud eich dweud

Cwblhewch arolwg Holi Caerdydd 2023 ar lein  yma.

Neu Cwblhau arolwg Holi Caerdydd 2023 os ydych yn defnyddio darllenydd sgrîn  yma.

Gallwch gael copi print o hyb neu lyfrgell, neu ebostiwch  ymynghoriad@caerdydd.gov.uk  i gael un drwy'r post.

Mae'r arolwg yn cau ar 19 Tachwedd 2023.

Darllenwch fwy yma

 

Myfyrwyr prifysgol yn gosod Her Caerdydd Carbon Niwtral

Mae rhai o'r meddyliau ifanc disgleiriaf yng Nghaerdydd wedi mynd ati i ddatblygu atebion i'r her o greu Cyngor carbon niwtral.

Dangosodd y ffigyrau diweddaraf, ar gyfer 2020/21 ostyngiad o 13% yn allyriadau carbon Cyngor Caerdydd o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol wrth i'r gwaith fynd rhagddo ar strategaeth Caerdydd Un Blaned yr awdurdod lleol mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

Y tymor hwn bydd myfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd sy'n gwneud modiwl Datrysiadau a Thrawsnewid Busnes yn edrych ar gyfleoedd i gyflymu'r gostyngiad hwn ymhellach.

Darllenwch fwy yma