Back
Mwy o gartrefi newydd yn barod i helpu i fynd i'r afael â phwysau digartrefedd

 

16/10/23

Mae'r cartrefi modiwlar newydd cyntaf ar ddatblygiad arloesol i helpu i fynd i'r afael â'r prinder tai fforddiadwy yng Nghaerdydd yn barod i groesawu eu preswylwyr newydd.

Mae'r partner datblygu Wates Group wedi trosglwyddo pedair fflat newydd ar hen safle'r Gwaith Nwy ar Heol y Fferi i'r Cyngor, yn ogystal ag adeilad cymunedol newydd a swyddfa ar y safle.

Mae'r cartrefi, sydd wedi eu cynhyrchu ymlaen llaw, yn rhan o gynllun fydd, yn y pen draw, yn darparu 155 eiddo ynni-effeithlon iawn mewn camau yn Ffordd y Rhaffau, Grangetown. Bydd y cartrefi modiwlar newydd yn helpu i leddfu'r pwysau ar wasanaethau digartrefedd lleol ac yn cynyddu argaeledd llety dros dro gan gynnig cymysgedd o eiddo un i bedair ystafell wely.

Derbyniodd y Cyngor gyllid gan Raglen Gyfalaf Llety Trosiannol Llywodraeth Cymru ar gyfer y cartrefi modiwlar, sydd wedi'u hadeiladu oddi ar y safle gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern (DAM) a'u gostwng i'w safle terfynol ar y safle gyda'r holl waith daear wedi'i gwblhau. Mae'r unedau'n cael eu cyflenwi gan Daiwa House Modular, @Home a Beattie Passive.

Ymunodd Arweinydd y Cyngor, Huw Thomas, â'r Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, i weld y cartrefi newydd cyn i deuluoedd symud i mewn.

Dywedodd y Cynghorydd Thorne:  "Dim ond ychydig amser yn ôl yn ôl ym mis Awst y cyrhaeddodd yr unedau hyn y safle ac mae wedi bod yn hyfryd cael golwg o gwmpas y llety dros dro golau a helaeth hwn cyn i deuluoedd symud i mewn. Mae nifer y teuluoedd sydd angen cymorth gan ein gwasanaethau digartrefedd ar hyn o bryd yn uwch nag erioed, felly mae gwir angen atebion fel y rhain arnom i'n helpu i ymateb yn gyflym i'r pwysau presennol.

"Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu llety i bobl sydd angen tai fforddiadwy o ansawdd da yn y ddinas. Ychydig wythnosau yn ôl, ymwelais â datblygiad newydd yn Llaneirwg i dderbyn yr allweddi ar gyfer 13 o dai cyngor newydd. Mae ein rhaglen ddatblygu yn cyflymu drwy'r amser, gan helpu i fynd i'r afael â'r galw uchel iawn yr ydym yn ei weld."

Dywedodd Ed Rees, Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru yn Wates,: "Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd er mwyn darparu mwy o gartrefi fforddiadwy o ansawdd yn gyflym i'r rhai sydd mewn angen brys. Mae ein rhaglen cartrefi carlam yn darparu ateb cynaliadwy, cost-effeithiol a dros dro i'r angen uniongyrchol am fwy o gartrefi, tra hefyd yn caniatáu i gymunedau dyfu a chreu ymdeimlad o le."

Yn y tymor hwy, mae gan y Cyngor gynlluniau i ddatblygu safle'r Gwaith Nwy i ddarparu tua 500 o gartrefi newydd, cymysgedd o gartrefi preifat a thai cyngor, i gyfrannu at darged yr awdurdod o adeiladu 4,000 o gartrefi newydd ar draws y ddinas. Wrth i gartrefi parhaol gael eu datblygu fesul cam, gellir datgymalu'r cartrefi modiwlar a'u hailddefnyddio mewn lleoliadau eraill yn y ddinas mewn ymateb i'r angen am dai.

Mae bron i 900 o dai cyngor newydd eisoes wedi'u darparu dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r gwaith adeiladu ar hyn o bryd yn mynd rhagddo ar 419 o gartrefi eraill tra bod disgwyl i'r gwaith ddechrau ar y safle ar 245 o gartrefi newydd eraill cyn diwedd eleni.

Mewn mannau eraill yn y ddinas, mae un o Gynlluniau newydd Byw yn y Gymuned y cyngor ar ddatblygiad Cartrefi Caerdydd Llwyn Aethnen yn Nhredelerch, bron â chael ei gwblhau. Addison House fydd y cyntaf o 10 datblygiad Byw yn y Gymuned i gael ei adeiladu ar draws y ddinas fel rhan o strategaeth tai Pobl Hŷn Cyngor Caerdydd.

Wedi ei gynllunio i ddiwallu anghenion pobl hŷn, bydd y bloc pedwar llawr yn darparu 44 o fflatiau eang, hygyrch ac addasadwy un a dwy ystafell wely ar gyfer pobl hŷn, gan hyrwyddo byw'n annibynnol. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Rydym yn llawn cyffro bod Addison House bron â chael ei gwblhau, yn ogystal â nifer o denantiaid hŷn y cyngor sydd eisoes wedi mynegi diddordeb mewn symud yno a byw mewn eiddo llai.

"Byddai hyn yn rhyddhau mwy o eiddo teuluol yn y ddinas ac yn ein helpu i fynd i'r afael â'r pwysau sylweddol sydd ar wasanaethau digartrefedd teuluol."