13/10/2023
Mae canlyniad ymgynghoriad cyhoeddus ar gynlluniau i ad-drefnu darpariaeth ysgolion cynradd sy’n gwasanaethu Cathays a rhannau o Gabalfa, y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd wedi’i gyhoeddi.
Mae Cabinet Cyngor Caerdydd wedi cael gwybod am y213 o ymatebion a ddaeth i law ar gynigion newydd sy'n ceisio sicrhau'r cydbwysedd cywir o ddarpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg fel y gellir bodloni'r galw yn yr ardal yn awr ac yn y dyfodol.
Daeth yr ymgynghoriad gydag ysgolion, llywodraethwyr, rhieni a phlant i ben ym mis Mehefin a chafodd tri opsiwn posib eu cynnwys yn y cynlluniau. Cafodd pob un cynnig ei lunio i wella cyfleoedd dysgu a chynorthwyo â phwysau ariannol sy'n cael ei deimlo gan ysgolion yr ardal ar hyn o bryd.
Mae’r Cabinet wedi cytuno i fwrw ymlaen â'r mwyaf ffafriol o'r tri chynnig
sy'n cynnwys:
Bydd Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica hefyd yn ystyried a ddylid bwrw ymlaen â'i gynnig i drosglwyddo i safle Ysgol Mynydd Bychan, a fydd yn galluogi'r ysgol i gynnig darpariaeth feithrin lle gallai plant ddechrau elwa ar waith da'r ysgol yn gynharach yn ogystal ag adeiladau gwell i'r blynyddoedd cynnar ac ardal awyr agored fwy o faint.
Byddai'r dosbarth ymyrraeth gynnar lleferydd ac iaith a gynhelir ar hyn o bryd gan Ysgol Allensbank yn parhau a gallai drosglwyddo i'r ysgol newydd, yn amodol ar gytundeb Corff Llywodraethu'r ysgol newydd, neu gallai drosglwyddo i ysgol arall ym mis Medi 2025.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Ymgynghorwyd ar gynnig dros dro ar gyfer Ysgol Mynydd Bychan ac Ysgol Gynradd Allensbank ar ddechrau 2021, ac ar ôl gwrando ar yr adborth, cytunwyd bod angen cynllun hirdymor i fynd i'r afael â lleoedd ysgol yn yr ardal.
"Cafodd cyfres newydd o opsiynau eu llunio'n ofalus i sicrhau bod y nifer cywir o leoedd cyfrwng Saesneg yn parhau i gael eu cynnig mewn cyfleusterau gwell yn wardiau Cathays a Gabalfa, a bod y rhain yn cael eu trefnu mewn ffordd sy'n cefnogi'r ysgolion i ddod yn fwy cynaliadwy wrth roi sylw i'r galw am leoedd cyfrwng Cymraeg.
"Yn dilyn yr ymgynghoriad diweddaraf, byddai'r opsiwn arfaethedig yn helpu i ail-gydbwyso nifer y lleoedd mewn ysgolion Cymraeg a Saesneg sy'n golygu y bydd nifer fwy o blant yn cael mynediad i'w hysgol leol. Yn ogystal, drwy ailddefnyddio asedau presennol yn fwy effeithlon a thrwy weithio ar y cyd, byddai'r ysgolion dan sylw yn mwynhau nifer o fanteision gan gynnwys adnoddau a chyfleoedd dysgu gwell ar gyfer disgyblion a staff. Mae'r cynnig yn cadw'r holl adeiladau presennol fel y gall cymuned yr ysgol fod â sicrwydd y bydd digon o leoedd i ymateb i unrhyw newidiadau yn y boblogaeth yn y dyfodol."
Mynegwyd nifer o safbwyntiau cadarnhaol yn ystod yr ymgynghoriad, a chydnabuwyd trwy gyfuno Ysgolion Cynradd Allensbank a Gladstone, y gellid datrys y diffyg mewn cyllideb a buddsoddi adnoddau mewn addysgu a dysgu. Byddai'n gyfle cyffrous i ddwy ysgol gymunedol cyfrwng Saesneg ffurfio un ysgol gynradd fwy a fyddai'n sicrhau trosglwyddiad esmwyth i ddisgyblion o dair oed hyd at yr ysgol uwchradd leol.
Byddai'r cynnig yn cadw'r adeiladau sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd a'u defnyddio fel ysgolion cynradd yn y dyfodol, gan ganiatáu ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn ogystal â'r nifer bresennol o leoedd cyfrwng Saesneg.
Codwyd rhai pryderon ynglŷn ag ehangu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg drwy gynyddu'r ddarpariaeth yn Ysgol Mynydd Bychan a'r effaith y gallai hyn ei chael ar yr ysgol ac ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg lleol eraill. Cyfeiriwyd hefyd at yr effaith y byddai unrhyw newidiadau yn ei chael ar blant ag anghenion dysgu ychwanegol a'r potensial ar gyfer mwy o draffig o amgylch safleoedd yr ysgolion.
Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas: "Rydym yn cydnabod y pryderon a godwyd yn yr ymgynghoriad a bydd y rhain yn cael sylw wrth i'r cynlluniau fynd yn eu blaen. Mae'n hanfodol bod y cyllid sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio i sicrhau'r buddion mwyaf posibl i bob dysgwr ac ni fyddai cadw'r patrwm presennol o ddarpariaeth ysgol yn darparu'r trefniant mwyaf priodol o ddarpariaeth yn yr ardal. Mae'r cynigion hyn yn caniatáu i'r Cyngor fuddsoddi ym mhob un o'r safleoedd ysgol, i gynnal a gwella ymhellach ar ansawdd uchel y ddarpariaeth a gynigir gan yr ysgolion presennol."
"Cyfrifoldeb y Cyngor yw sicrhau bod cydbwysedd priodol yn y nifer a mathau o leoedd ysgol sy'n gwasanaethu pob ardal, gyda lefel gynaliadwy o leoedd dros ben.Rhaid i bob darpariaeth ysgol a gynigir ddiwallu anghenion amrywiol y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu agwneud y mwyaf o botensial ei staff addysgu a dysgu i sicrhau'r defnydd gorau o adnoddau, a thrwy hynny sicrhau'r effaith fwyaf ar gyfleoedd dysgwyr a chanlyniadau i bawb. Yn ogystal, bydd y cynlluniau yn cefnogi ymrwymiad y Cyngor i ddatblygu addysg Gymraeg a chyflawni targedau Llywodraeth Cymru a nodwyd yn 'Cymraeg 2050'.
Bydd Cabinet y Cyngor yn trafod yr adroddiad helaeth i'r broses ymgynghori yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau, 19 Hydref.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma:https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=8210&LLL=0