13/10/23
Mae'r datganiad hwn yn rhoi diweddariad ar gau Neuadd Dewi Sant dros dro tra bod gwiriadau ychwanegol ar y paneli Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth (CAAC) yn yr adeilad yn cael eu cynnal, a thra bod y camau nesaf angenrheidiol yn cael eu cymryd. Mae'r diweddariad hwn yn dilyn datganiadau blaenorol a gyhoeddwyd ar 2 Hydref a 7 Medi.
Mae'r arbenigwyr CAAC a ddewiswyd gan Gyngor Caerdydd i gynnal y gwiriadau ychwanegol yn dod at ddiwedd eu harolygiadau, ac mae disgwyl i'w canfyddiadau gael eu hadrodd yn ôl i'r awdurdod lleol tua diwedd yr wythnos nesaf (wythnos yn dechrau 16 Hydref).
Mae arwyddion cynnar wedi ei gwneud hi'n glir y bydd angen gwaith os yw'r Neuadd am ailagor. Bydd yr union waith sydd ei angen yn cael ei adolygu yng ngoleuni canfyddiadau'r adroddiad, ac yn seiliedig ar nifer o ffactorau, gan gynnwys goblygiadau cost tymor byr a thymor hirach, pa mor hir y gallai ei gymryd i gyflawni gwaith adferol / dros dro, a pha mor hir y gallai'r gwaith adfer hwnnw bara cyn bod angen ailosod paneli CAAC yn y to yn llwyr.
Rydym yn disgwyl i'r Cabinet wneud penderfyniad y mis hwn ar bob un o'r uchod. Fodd bynnag, o gofio y gallai gwaith adferol / dros dro gymryd sawl mis i'w roi ar waith, mae penderfyniad wedi'i wneud nawr i ymestyn y cyfnod y mae'n rhaid cau Neuadd Dewi Sant, sef tan y Flwyddyn Newydd o leiaf.
Nid oes angen i gwsmeriaid gysylltu â Neuadd Dewi Sant, byddwn yn cysylltu â'r holl ddeiliaid tocynnau am yr opsiynau sydd ar gael i chi unwaith y byddwn wedi siarad â hyrwyddwr y sioeau yr effeithir arnynt. Byddem yn ddiolchgar pe gallai cwsmeriaid roi'r amser i staff Neuadd Dewi Sant ymgymryd â'r gwaith hwn fel y gallwn ddod yn ôl atynt cyn gynted â phosibl am docynnau a brynwyd a digwyddiadau a ohiriwyd.
Rydym yn ymddiheuro i gwsmeriaid Neuadd Dewi Sant am ohirio mwy o sioeau, ac rydym am sicrhau'r holl ddeiliaid tocynnau y byddwn mewn cysylltiad i drafod dyddiadau newydd perfformiadau a/neu ddewisiadau amgen. Dilynwch adran newyddion gwefan Neuadd Dewi Sant am ddiweddariadau.
Fel y nodwyd yn flaenorol ar 7 Medi, gwnaed y penderfyniad i gau'r neuadd dros dro yng ngoleuni'r newid diweddar i gyngor ar CAAD mewn adeiladau cyhoeddus a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac yn dilyn trafodaethau pellach gyda pheirianwyr strwythurol annibynnol a benodwyd gan y Cyngor, ac yswirwyr y cyngor.
Mae'r cyngor wedi bod yn ymwybodol o CAAD yn Neuadd Dewi Sant a'r angen i'w reoli o safbwynt iechyd a diogelwch ers 2021, ac mae bob amser wedi dilyn canllawiau a chyngor y llywodraeth i sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel.
Mae strategaeth rheoli adeiladau ac iechyd a diogelwch wedi bod ar waith yn y lleoliad am y deunaw mis diwethaf. Roedd hyn yn cynnwys archwiliadau rheolaidd gan beirianwyr strwythurol annibynnol gydag arbenigedd CAAD penodol.
Trwy gydol y cyfnod hwn ni chodwyd unrhyw faterion am gyflwr CAAD yn yr adeilad ac nid oedd tystiolaeth o ddirywiad.
Fodd bynnag, mae'r Cyngor wedi parhau i ymgysylltu â'i yswirwyr a'i beirianwyr strwythurol arbenigol ac, yn seiliedig ar gyngor a dderbyniwyd gan yr arbenigwyr hynny, credwn ei bod yn ddoeth ac yn gyfrifol i gynnal arolygon manwl i roi sicrwydd pellach i'n hunain a'r cyhoedd ar ddiogelwch y Neuadd. Bydd hyn yn gofyn am ddrilio i baneli i gadarnhau eu gwneuthuriad mewnol ac i benderfynu a oes angen unrhyw waith pellach i sicrhau diogelwch parhaus.
Rydym yn gwybod bod hyn yn achosi llawer o anghyfleustra a siom, a hoffem ymddiheuro eto i'n holl gwsmeriaid, ond mae diogelwch cynulleidfaoedd, staff, artistiaid, gwirfoddolwyr a phawb yn y lleoliad yn hollbwysig, ac mae'n ofynnol i'r Cyngor weithredu mewn ymateb i ganllawiau diweddaraf Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a chyngor arbenigol.
Mae'r Cyngor wedi bod yn gyson glir ynghylch yr angen am fuddsoddiad yn Neuadd Dewi Sant i sicrhau ei ddyfodol hirdymor, gan fynd i'r afael â'r mater CAAD a materion cynnal a chadw eraill, a chadarnhawyd hyn oll mewn adroddiad Cabinet y llynedd.
Rydym yn parhau i weithio i drosglwyddo'r neuadd i'r Academy Music Group (AMG). Cyn cymryd drosodd y cyfrifoldeb o weithredu Neuadd Dewi Sant, roedd AMG eisoes wedi cynnal ei arolygiadau ei hun ac mae ganddo gynlluniau ar waith i wneud gwaith adfer sydd ei angen yn y tymor canolig i'r tymor hir. Rydym yn rhoi gwybod iddynt am y camau yr ydym ni'n eu cymryd.
Rydym yn parhau i weithio i drosglwyddo'r neuadd i Academy Music Group (AMG). Rydym yn eu hysbysu o'r camau gweithredu rydym yn eu cymryd ac rydym yn trafod yn gyson â staff Neuadd Dewi Sant i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt.