Dyma'r diweddaraf gennym ni, sy'n cynnwys:
Arweinydd Caerdydd yn croesawu penderfyniad UEFA ynghylch EWRO 2028
Mae Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, wedi croesawu'r newyddion heddiw y bydd Cymru'n cynnal gemau mewn rowndiau terfynol twrnamaint pêl-droed rhyngwladol mawr am y tro cyntaf.
Mewn seremoni yn y Swistir heddiw, cyhoeddodd UEFA fod cais y DU ac Iwerddon i gynnal Pencampwriaeth Ewrop UEFA 2028 wedi bod yn llwyddiannus.
Mae Cymru eisoes wedi cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr, gan gynnwys Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn 2017, bocsio, Gemau Olympaidd Llundain 2012 a rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Byd. EWRO 2028 fydd y tro cyntaf i Gymru gynnal gemau mewn rowndiau terfynol twrnamaint pêl-droed rhyngwladol mawr i dimau dynion.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas: "Mae hyn yn newyddion gwych i Gaerdydd ac i Gymru ac allwn ni ddim aros i groesawu'r cefnogwyr - y bydd llawer yn dod yma am y tro cyntaf. Mae'n gyfle gwych arall i atgoffa'r byd pa mor arbennig yw Caerdydd o ran cynnal digwyddiadau mawr. Gall ymwelwyr ddisgwyl awyrgylch unigryw, dinas gynnes a chroesawgar, a phobl angerddol gyda chariad gwirioneddol at y gêm. Beth allai fod yn well na'r gêm hardd, mewn awyrgylch hardd, yn ein dinas hardd? Alla i ddim aros."
Bydd Stadiwm Principality yn cael ei ailenwi'n Stadiwm Cenedlaethol Cymru ar gyfer y twrnamaint hwn.
"Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i Gymru a chwaraeon Cymru," dywedodd Prif Swyddog Gweithredol dros dro Grŵp Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker. "Rydym yn llawn cyffro i chwarae ein rhan i greu EWRO 2028 UEFA rhagorol, gan weithio ochr yn ochr â'n partneriaid yn Llywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd, Cymdeithas Bêl-droed Cymru ynghyd â gweddill y DU ac Iwerddon.
"Rydym wedi cynnal digwyddiadau pêl-droed byd-eang hynod arwyddocaol yn ein stadiwm o'r blaen, o gemau rhyngwladol Cymru i Rowndiau Terfynol Cwpan FA Lloegr, gemau pêl-droed y Gemau Olympaidd a Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA 2017. Gallwn gynnig profiad bendigedig i wylwyr, cae chwarae sy'n addas ar gyfer y dalent fyd-eang orau a tho y gellir ei gau, i gyd mewn lleoliad deniadol yng nghanol y ddinas gyda'r holl fuddion y mae'r brifddinas yn eu cynnig.
"Rydym eisoes yn ymwybodol o'r effaith eithriadol o gadarnhaol y mae cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr yn y stadiwm yn ei chael ar Gaerdydd a'r cyffiniau. Ni fydd EWRO 2028 UEFA yn wahanol, a byddwn yn barod i groesawu cefnogwyr pêl-droed o bob cwr o'r byd ar gyfer un o sioeau chwaraeon mwya'r byd."
Pobl wedi'u harestio a beiciau trydan wedi'u hadfer mewn ymgyrch i gadw strydoedd canol dinas Caerdydd yn ddiogel
Cafodd un ar ddeg o feiciau trydan eu hadfer ac wyth person eu harestio yng nghanol dinas Caerdydd ddydd Iau, 5 Hydref, fel rhan o ymgyrch ar y cyd sy'n targedu pobl sy'n reidio beiciau wedi'u haddasu sy'n gallu cyrraedd cyflymderau o fwy na 40mya.
Cymerodd Tîm Wardeiniaid Canol Dinas Cyngor Caerdydd ran yn yr ymgyrch a welodd Heddlu De Cymru yn arestio dau, a Gwasanaeth Fisâu a Mewnfudo'r DU yn arestio chwe pherson.
Nid yw beiciau trydan ag allbwn uchaf o dros 250 Watt, sbardun llaw, neu sy'n gallu mynd yn gynt na 15.5mya wedi'u dosbarthu fel beic pedal, ond yn hytrach moped neu feic modur, a rhaid eu cofrestru gyda'r DVLA, eu hyswirio a'u trethu a rhaid i'r gyrrwr wisgo helmed.
Dim ond ar dir preifat y gellir gyrru'r cerbydau hyn ac nid ar y briffordd gyhoeddus gan eu bod yn berygl i gerddwyr, yn enwedig rhai ag anableddau.
Dilynodd yr ymgyrch adroddiadau ar draws y DU o bobl yn cael eu taro gan y mathau hyn o gerbydau a/neu yn osgoi hynny o drwch blewyn.
Mae'r Tîm Wardeiniaid Canol y Ddinas newydd, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, yn patrolio canol y ddinas ac yn gweithio gyda'r Gwasanaethau Brys a darparwyd gwasanaeth y Cyngor i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol i gadw strydoedd Caerdydd yn ddiogel i bawb eu mwynhau.
Croeso i Ffos y Faendre: tai cyngor newydd yn Llaneirwg
Bydd 13 o aelwydydd Caerdydd yn galw datblygiad tai newydd yn nwyrain cartref y ddinas yn gartref yn fuan, ar ôl i'r eiddo gael eu trosglwyddo i'r Cyngor.
Mae'r datblygwr J G Hale Construction wedi adeiladu'r 13 tŷ cyngor newydd, cymysgedd o gartrefi dwy, tair a phedair ystafell wely i'r teulu, ar safle'r hen ganolfan fenter ar Wakehurst Place yn Llaneirwg.
Bydd y tai newydd, sy'n cael eu hadnabod bellach fel Ffos y Faendre, yn cael eu dyrannu i deuluoedd ar restr aros tai'r ddinas. Ond cyn iddynt dderbyn yr allweddi, ymwelodd Arweinydd y Cyngor, Huw Thomas a Chynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, â'r datblygiad a gwblhawyd yn ddiweddar i weld y cartrefi newydd sy'n hynod effeithlon o ran ynni.
Dywedodd y Cynghorydd Thorne: "Mae'r cartrefi newydd hyn yn edrych yn wych ac rwy'n siŵr bod y teuluoedd fydd yn symud i mewn yn fuan yn awyddus iawn i ymgartrefu yn eu cartrefi newydd.
"Maent mewn lleoliad gwych, o fewn pellter cerdded i'r siopau lleol a'n hyb cymunedol rhagorol sy'n darparu cymaint o wasanaethau a gweithgareddau.
"Mae'r galw presennol am dai fforddiadwy o ansawdd da yn y ddinas yn ddigynsail, ond rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu cartrefi newydd, fel Ffos Y Faendre, cyn gynted ag y gallwn."
Chwilen brin sy'n bwyta croen wedi'i chanfod ar Ynys Echni
Mae rhywogaeth brin o chwilen sy'n bwyta croen wedi ei chanfod yn byw ychydig filltiroedd oddi ar arfordir Caerdydd, ar yr anghysbell Ynys Echni, ac mae gwyddonwyr yn credu mai dyma o bosib gadarnle olaf y rhywogaeth yn y DU.
Wedi'i darganfod gan dîm o ecolegwyr o Ganolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru, dyma'r tro cyntaf i chwilen Dermestes undulatus gael ei chofnodi yng Nghymru, ac nid oes un wedi'i chofnodi yn Lloegr ers 2020.
Dywedodd Sarah Morgan, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol Ynys Echni: "Dyw hyn ddim ar gyfer y gwangalon, ond mae'r chwilen fach yma yn bwydo ar groen, ffwr ac esgyrn anifeiliaid marw - ystyr Dermestes yn llythrennol yw bwytäwr croen. Maen nhw'n dipyn o boen gyda chasgliadau amgueddfeydd, ond maen nhw'n hynod ddefnyddiol mewn gwyddoniaeth fforensig i helpu i benderfynu pa mor hir mae corff wedi bod yn ei le.
"Mae sut y cyrhaeddodd y chwilen yr ynys yn dipyn o ddirgelwch, o gofio eu bod nhw'n ymddangos i fod yn hollol absennol o'r tir mawr erbyn hyn, ond mae'n bosib iddyn nhw gael eu cludo draw gan wylanod yn cario gweddillion anifeiliaid.
"Heb y tîm yng Nghanolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru, efallai na fyddwn ni erioed wedi gwybod am y chwilod, felly mae'n rhaid diolch yn fawr iawn iddyn nhw."