Back
Ysgol Gynradd Gatholig St Bernadette yn derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am iechyd a lles

10/10/2023

Mae Ysgol Gynradd Gatholig St Bernadette ym Mhentwyn wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am ei gwaith i hyrwyddo iechyd a lles ledled ei chymuned ysgol, i'r safon uchaf posib.

Mae aseswyr Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru wedi rhoi "Gwobr Ansawdd Genedlaethol (GAG) Ysgolion Iach" am ddangos rhagoriaeth ym mhob maes iechyd a lles, gyda chymorth Tîm Ysgolion Iach Cyngor Caerdydd.

Mae'r Wobr Ansawdd Genedlaethol Ysgolion Iach yn gyflawniad sy'n canolbwyntio ar bwysigrwydd cyfranogiad disgyblion mewn meysydd craidd bywyd ysgol, sy'n effeithio'n uniongyrchol ar iechyd a lles plant a phobl ifanc.

Mae'r cyflawniad arbennig yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion fynd trwy broses drwyadl sy'n para o leiaf naw mlynedd ac mae'n cydnabod gwaith caled staff, disgyblion a'r gymuned ysgol ehangach.

Mae rhai o'r uchafbwyntiau sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad ar Ysgol Gynradd Gatholig St Bernadette yn cynnwys:

-         Mae'r amgylchedd ysgol yn groesawgar ac mae'r ethos ysgol iach yn ganolog i bopeth sy'n helpu i greu awyrgylch hyfryd, hapus a pharchus sy'n amlwg ledled yr ysgol.

-         Mae arweinyddiaeth yn nodwedd allweddol ac mae'r staff a'r llywodraethwyr yn frwdfrydig dros ddatblygu iechyd a lles y disgyblion. Mae cefnogaeth y Llywodraethwyr yn cael ei werthfawrogi'n fawr ac maent yn gefnogol iawn o'r cynllun ysgolion iach.

-         Mae staff yn cynnig esiampl dda ar gyfer yr ethos ysgol iach ac yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgareddau corfforol fel pêl-droed, yfed dŵr a bwyta'n iach.

-         Mae'r ysgol yn defnyddio'r tiroedd helaeth gyda chae chwarae, ardaloedd gardd a meysydd chwarae ac mae'r Pentref Helyg deniadol yn galluogi'r plant i gael amser tawel i fyfyrio.

-         Mae arddangosiadau mewn coridorau ac ystafelloedd dosbarth yn lliwgar, yn ysgogol ac yn atgyfnerthu negeseuon iechyd a lles allweddol fel Hawliau Plant UNICEF y DU yn ogystal â dathlu prosiectau a wneir gan ddisgyblion. 

-         Mae llais y disgybl yn St Bernadette wrth wraidd bywyd ysgol, gyda'r disgyblion yn cymryd rhan mewn pwyllgorau o fewn y Pwyllgor Lles ar lefel ysgol gyfan.

-         Mae'r ysgol yn gefnogol iawn o deuluoedd ac yn annog cyfranogiad rhieni ar bob cyfle ac yn elwa o Gymdeithas Rhieni Athrawon gweithredol.

-         Mae'r ysgol wedi ennill cyfres o wobrau, gan gynnwys trydedd Baner Werdd y Cynllun Eco-Sgolion a Gwobr Aur cynllun Ysgolion sy'n Parchu Hawliau UNICEF y DU.

Dywedodd Pennaeth yr ysgol, Suzanne Williams: "Mae'r wobr hon yn dathlu gwaith ac ymroddiad y gymuned ysgol gyfan yn St Bernadette ym mhob un o'r saith pwnc iechyd a osodwyd.

"Roedden ni wrth ein boddau gyda'n hadroddiad a pha mor gadarnhaol oedd e. Mae'n cydnabod y pwysigrwydd rydym yn ei roi ar fod yn ysgol groesawgar a hapus, sy'n parchu pawb ag ethos ysgol iach cryf.

"Mae cyfranogiad disgyblion, cydraddoldeb, cefnogaeth i'r gymuned ac agwedd gadarnhaol tuag at iechyd yn rhan annatod o'n bywyd ysgol.  Bydd holl staff St Bernadette yn ymdrechu i sicrhau bod y plant yn ein gofal yn parhau i ffynnu gan ddod yn bobl ifanc gwydn, moesegol llawn ffydd sy'n parchu eu hunain ac eraill, ac yn llawen ac yn dathlu gyda'i gilydd."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Mae iechyd a lles yn rhan annatod o fywyd yr ysgol ac mae St Bernadette wedi dangos yn llwyddiannus sut mae ystod eang o ddarpariaeth yn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned ysgol gyfan. 

"Mae'r Wobr Ansawdd Genedlaethol yn cydnabod gwaith caled staff, disgyblion, llywodraethwyr a rhieni sy'n cydweithio i hyrwyddo lles corfforol a meddyliol i bawb, gan helpu i lunio canlyniadau cadarnhaol i'w disgyblion yn y dyfodol."

Dywedodd Gemma Cox, Prif Arweinydd Lleoliadau Addysg Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Rydym wrth ein bodd bod St Berandette wedi cael ein Gwobr Ansawdd Genedlaethol. Maent yn haeddu'r gydnabyddiaeth bwysig hon am eu hymrwymiad i ymgorffori iechyd a lles yn niwylliant yr ysgol. Mae'r cyflawniad hwn yn dangos sut mae Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru yn galluogi Iechyd Cyhoeddus Cymru i weithio mewn partneriaeth gyfartal ag ysgolion i wella iechyd a lles ein plant yn y dyfodol.  Drwy gyfuno ein hymdrechion a'n hasedau mewn ffordd bwrpasol, gallwn greu Cymru iachach, hapusach a thecach.

Gan adlewyrchu newyddion y GAG, dywedodd rhai disgyblion o'r ysgol: "Fe wnes i fwynhau hebrwng yr ymwelwyr o gwmpas yr ysgol i ddangos popeth rydyn ni'n ei wneud.  Ro'n i'n teimlo'n falch o gael dangos ein hysgol wych!" Lara

"Rydyn ni'n gweithio'n galed ac mae'r plac arbennig nawr yn gallu dangos i bawb yr holl bethau anhygoel rydyn ni'n eu gwneud." Seb

"Mae cadw'n iach mor bwysig ac mae'r wobr yn ein helpu ni i fod yn iach yn ein corff a'n meddwl."  Charlie

Mae'r cyflawniad hwn yn dod â'r cyfanswm i 14 o ysgolion yng Nghaerdydd sydd bellach wedi derbyn y GAG, 

Mae'r rhaglen Ysgolion sy'n Parchu Hawliau'n cydnabod ysgol sy'n arfer hawliau plant ac yn creu man dysgu diogel sy'n ysbrydoli lle caiff plant eu parchu, lle caiff eu talentau eu meithrin a lle gallant ffynnu.

Mae 93 o ysgolion wedi cofrestru i Ddyfarniad Ysgolion sy'n Parchu Hawliau, gan ddangos eu cymorth i helpu Caerdydd i ddod yn un o Ddinasoedd Cyntaf y DU sy'n Dda i Blant.